Diwygio Delweddau
Diwygio Delweddau
Prosiect treftadaeth tair blynedd (Chwefror 2022 - Ionawr 2025) sy’n cael ei gynnig gan Wasanaeth Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf yw Diwygio Delweddau. Caiff y prosiect ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Mae Diwygio Delweddau yn ceisio herio syniadau sy'n ymwneud ag o ble'r ydyn ni'n dod drwy drin a thrafod treftadaeth ddiwylliannol ddiriaethol ac anniriaethol, sy'n tynnu sylw at sut mae ein cymunedau'n datblygu dros amser.
Mae'r prosiect wedi ymgysylltu â phobl o bob oedran a gallu mewn perthynas ag amrywiaeth o brosiectau creadigol ac arloesol ar thema treftadaeth. Mae'r prosiect wedi gweithio gyda gwirfoddolwyr a chyfranogwyr i ymchwilio a dehongli treftadaeth a hanes ein hardal, gan ganolbwyntio ar gofebion a cherfluniau, straeon, mythau a chwedlau.
Mae gwirfoddolwyr y prosiect wedi cymryd cannoedd o ffotograffau i gynhyrchu cofnod gweledol cyfoes o gerfluniau, cofebion a henebion Rhondda Cynon Taf. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio i gadw cofnod o’n treftadaeth leol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r ffotograffau wedi cael eu harbed i’r Archif Ffotograffau.
Mae gwirfoddolwyr hefyd wedi cynhyrchu archif hanes llafar, drwy gynnal cyfweliadau gyda phobl leol a chofnodi straeon ac atgofion amrywiol aelodau ein cymunedau. Mae’r cyfweliadau yma’n nodi hanes cymdeithasol Rhondda Cynon Taf. Mae modd i chi gael mynediad at yr Archif Ffotograffau a'r Archif Hanes Cymdeithasol drwy glicio ar y ddewislen 'Casgliadau'.
Ewch ati i archwilio tudalennau Diwygio Delweddau, lle mae modd i chi ddod o hyd i ddetholiad o ffilmiau ac arddangosfeydd wedi'u creu gan bobl leol, sy'n dathlu ac arddangos ein treftadaeth leol amrywiol ac unigryw.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect Diwygio Delweddau, cysylltwch â:
Hannah Buckmaster
Cydlynydd Prosiect Treftadaeth
07887 450725
hannah.buckmaster@rctcbc.gov.uk