Diwygio Delweddau

Treftadaeth ar y Stryd Fawr

Roedd trefi Rhondda Cynon Taf yn llawn caffis, neu ‘Bracchi’ yn ôl yr enw traddodiadol, ar un adeg, ac roedd cyfenwau Eidalaidd megis Ferrari, Sidoli a Servini yn gyffredin.

Dydy nifer o’r caffis yma ddim yn bodoli bellach, ond mae ambell un yn parhau i fod ar agor heddiw, gan gynnwys Servini’s yn Aberdâr.

Mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru, gweithiodd prosiect Diwygio Delweddau gyda chriw ffilmio talentog, ‘4KMFS’, er mwyn cynhyrchu ffilm i ddathlu hanes mudwyr o’r Eidal i ardal Rhondda Cynon Taf.

Mae Mr Servini, mewn ffordd sy’n cipio chwilfrydedd y gwyliwr, yn adrodd hanes o sut daeth ei deulu o’r Eidal i gymoedd De Cymru. Mae’n sôn am yr heriau a’r llwyddiannau roedd y teulu wedi’u hwynebu a’u dathlu ar hyd y ffordd er mwyn creu bywyd newydd yng nghanol y chwyldro diwdyiannol ffyniannus.

Gwyliwch 'Treftadaeth ar y Stryd Fawr'