Artist: Khandi Jarvis
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd Alan Turing yn gweithio yn chwalwr codau ar ran Llywodraeth y DU, gan geisio chwalu cod dyfeisiau peiriant cyfrifo Enigma a oedd yn cael eu defnyddio gan fyddin yr Almaen. Mae rhai yn amcangyfrif bod gwaith Turing wedi atal y Rhyfel rhag para rhagor o flynyddoedd ac wedi achub miliynau o fywydau. Yn 1952, cafodd ei gyhuddo o gael perthynas rhywiol â dyn, oedd yn anghyfreithlon ar y pryd. Gorfodwyd Turing i ddewis rhwng mynd i'r carchar neu dderbyn triniaeth hormonaidd oedd â'r bwriad o leihau ei libido. Dyma grynodeb o'i stori.