Roedd Adran 28 yn ddynodiad deddfwriaethol ar gyfer cyfres o gyfreithiau ledled Prydain oedd yn atal "hyrwyddiad cyfunrywioldeb" gan awdurdodau lleol. Cafodd ei gyflwyno gan Lywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher ac roedd mewn grym rhwng 1988 a 2000 yn yr Alban a rhwng 1988 a 2003 yng Nghymru a Lloegr.