Yn ystod hydref 2023, cynhaliodd Diwygio Delweddau brosiect chwe wythnos yng Nghanolfan Gymunedol y Ddraenen-wen, lle daeth grŵp o drigolion lleol at ei gilydd bob wythnos i rannu eu straeon a’u hatgofion o’r pentrefi ac i ymchwilio i’w orffennol. Bu’r grŵp yn pori dros hen erthyglau papur newydd, mapiau a ffurflenni cyfrifiad, a thrafod eu hatgofion personol eu hunain o’r ffyrdd yr oedd y pentref wedi newid a datblygu. Dyma eu straeon am y Ddraenen-wen a Rhydfelen Isaf.