Diwygio Delweddau

Ein Treftadaeth - Pontypridd Mewn Print

Ym mis Gorffennaf 2023, cynhaliodd Diwygio Delweddau y cwrs ffotograffiaeth ‘Ein Treftadaeth’ mewn partneriaeth â SONIG a’r rhaglen Celfyddydau i Bobl Ifainc. Roedd y cwrs tri diwrnod o hyd, a gafodd ei gynnal yn Llyfrgell Pontypridd, yn gwahodd ffotograffwyr ifainc i gynhyrchu delweddau gwreiddiol, cyfoes o Bontypridd. O dan arweiniad y ffotograffydd proffesiynol Kristel Trow, y briff oedd crwydro’r ardal a thynnu lluniau a fyddai’n dal hanfod Pontypridd. Yn ystod y cwrs, datblygodd y bobl ifainc eu sgiliau ffotograffiaeth techngeol ac ymarferol a defnyddio archifau’r Llyfrgell i ymchwilio i hanes y dref.

Wedi’i leoli ar y man ble mae afon Rhondda ac afon Taf yn ymuno â’i gilydd, dechreuodd Pontypridd fel pentref gwledig a ddefnyddiwyd fel arhosfan i bobl oedd yn teithio rhwng trefi haearn fel Merthyr Tudful a Dociau Caerdydd. Serch hynny, byddai’r Chwyldro Diwydiannol yn newid Pontypridd am byth. Byddai ei gysylltiadau agos â’r diwydiannau glo a haearn yn helpu i ddatblygu Pontypridd o ardal wledig i aneddiad prysur – yn dref ddiwydiannol a thref farchnad. Heidiodd pobl o bob rhan o’r cymoedd diwydiannol cyfagos i’r dref i ymweld â’i stondinau marchnad a channoedd o siopau.

Mae’r arddangosfa yma’n cynnwys detholiad o’r ffotograffau a dynnwyd gan y bobl ifainc sy’n dogfennu Pontypridd fel y mae heddiw. Mae eu ffotograffau’n canolbwyntio ar dirweddau, siopau a marchnad dan do Pontypridd, ac yn eistedd ochr yn ochr â delweddau cymharol y maen nhw wedi’u dewis yn bersonol o Archif Ddigidol y Gwasanaeth Llyfrgell. Yr hyn a welwch yw hanes ac esblygiad Pontypridd – ei hanes, ei hetifeddiaeth, a’i threftadaeth mewn print. “Mae llun yn werth mil o eiriau,” i ddyfynnu’r dramodydd o Norwy, Henrik Ibsen. Dyma stori Pontypridd – ei strydoedd, ei thirweddau, a’i phobl. Os yw llun yn wir werth mil o eiriau, mae gan Bontypridd lawer i’w ddweud.

Juliana Roach, Gwirfoddolwr y Prosiect

FFOTOGRAFFWYR:

Ben Corbett

Jago Edwards

Niamh Evans

Ahmed Haroon

Keeley Homer

Abi Jones

Kelsey Lewis

Erin Sims

Emily Wakeham

Ashley West

Preston West

Cameron Whale

Ein Treftadaeth - Pontypridd Mewn Print

Ein Treftadaeth - Pontypridd Mewn Print