Diwygio Delweddau

Ditectifs Hanes - Ar Drywydd y Placiau Glas

Ditectifs Hanes

‘Ar Drywydd y Placiau Glas’

Cymerodd grŵp o bobl ifainc o Ysgol Gyfun Treorci ran yn her Diwygio Delweddau i ddod yn 'Dditectifs Hanes'. Fe wnaethon nhw ymchwilio i rai o'r Placiau Glas sydd i'w canfod yn nalgylch eu hysgol a chreu ffilm fyddai'n adrodd hanes diddorol a chyflawniadau trawiadol yr unigolion sy'n cael eu coffáu.

Mae Placiau Glas yn cael eu gosod ar adeiladau ledled Rhondda Cynon Taf ac yn coffáu pobl, lleoedd a digwyddiadau ym maes cerddoriaeth, chwaraeon, celf, llenyddiaeth a gwleidyddiaeth.

Yn ystod eu sesiynau ymchwil yn Llyfrgell Treorci, cafodd rhestr fer ei llunio gan y bobl ifainc yn nodi pa unigolion roedden nhw am ganolbwyntio arnyn nhw. Roedd y grŵp yna'n cwrdd bob wythnos er mwyn datblygu'r straeon roedden nhw eisiau eu hadrodd, gan weithio gyda Hugh Griffiths o Lily Pad Films i greu eu ffilmiau byrion sy'n cyfuno ffotograffau o Archif Digidol y Gwasanaeth Llyfrgelloedd, cyfresi gwreiddiol wedi'u hanimeiddio a delweddau wedi'u creu gan ddeallusrwydd artiffisial.

Gwyliwch 'Ditectifs Hanes - Ar Drywydd y Placiau Glas'