Yn haf 2023, treuliodd aelodau dosbarth Camau Dysgu Rhondda Cynon Taf amser yn archwilio chwedlau’r Mabinogi. Dyma gasgliad o 11 chwedl ganoloesol, llên gwerin sy'n llawn hud a lledrith. Fe wnaethon nhw ddilyn Llwybr y Mab drwy Barc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd cyn dychwelyd i'w dosbarth i wneud gwaith ymchwil mewn perthynas â’r chwedlau mytholegol. Cafodd y dosbarth eu gwahodd gan brosiect Diwygio Delweddau i gynhyrchu perfformiad byw o'u hoff chwedl o'r Mabinogi, Blodeuwedd, sef hanes dynes wedi'i gwneud o flodau. Gyda chymorth eu tiwtor, Maria Carroll, a'r arlunydd, Isabel Espinoza, aeth y dosbarth ati i greu pypedau o brif gymeriadau'r stori gan berfformio sioe bypedau gwreiddiol, lliwgar ar gyfer cynulleidfa o deulu a ffrindiau. Mae eu ffilm yn cynnwys lluniau tu ôl i'r llen a pherfformiad llawn o’u sioe bypedau.
Dysgwch ragor am Lwybr y Mab yma - Llwybr y Mab - Llwybr y Mab, Pontypridd (pontypriddtowncouncil.gov.uk)