Prosiect Treftadaeth Nigeria

Gwyliwch 'Oyinyechi Judith Onyia'

Trawsgrifiad

00:06

C - DYWEDWCH YCHYDIG AMDANOCH CHI EICH HUN

Fy enw i yw Oyinyechi Judith Onyia, o Dalaith Igbo yn Nigeria, ac rydw i'n fam. Rydw i'n briod gyda merch a adeuthon ni i'r D.U. i wneud fy ngradd meistr ym maes iechyd y cyhoedd. Felly dyna bopeth amdanaf i.

00:42

C - PAM SYMUDOCH CHI YMA O NIGERIA?

Symudais yma i astudio. Nid symud er mwyn symud. Deuthum i gael fy ngradd meistr ym maes iechyd y cyhoedd. Felly dyna wnaeth fy ysgogi i ddod yma.

00:57

C - SUT BETH OEDD TYFU I FYNY YN NIGERIA? DYWEDOCH CHI FOD GENNYCH CHI DEULU MAWR, OEDD HYN YN EI GWNEUD HI'N FWY ANODD I SYMUD YMA?

Ie, mae Nigeria yn lle braf i fod oherwydd rydyn ni'n byw mewn amgylchedd cymunedol lle mae gyda chi'ch neiniau a theidiau, mae gyda chi'ch rhieni, mae gyda chi bawb o'ch cwmpas. Felly dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Felly, rydw i'n meddwl bod Nigeria yn lle braf, rydw i'n colli Nigeria ar hyn o bryd.

01:29

C – SUT OEDD DIWRNOD NODWEDDIADOL PAN OEDDECH CHI'N TYFU I FYNY?

Doedd tyfu i fyny yn Nigeria ddim yn hawdd bob amser. Fel ym mhob man arall rydych chi'n wynebu heriau wrth dyfu i fyny, ond mae cael eich rhieni o'ch cwmpas yn ei gwneud hi'n hawdd. Yma rydyn ni efallai gyda'n priod a'n plant, does neb i ofalu am eich plant. Fe wnes i fwynhau tyfu i fyny yn Nigeria oherwydd bod gennych chi'ch rhai hŷn i'ch cyfeirio chi pan fyddwch chi'n mynd ar gyfeiliorn, neu pan maen nhw'n meddwl eich bod chi ddim yn gwneud pethau'n iawn. Maen nhw'n eich tynnu chi'n ôl ac yn eich rhybuddio i wneud pethau'n iawn.

02:22

C – RYDYCH CHI’N NODI BOD YMDEIMLAD CRYF O GYMUNED, SUT BYDDECH CHI’N EI GYMHARU Â CHYMUNEDAU YNG NGHYMRU?

A dweud y gwir, dydw i ddim yn dod o Gymru felly dydw i ddim yn gallu dweud llawer am eu cymuned. (CYFWELYDD: BETH RYDYCH CHI WEDI'I BROFI O FYW YMA). Dydych chi ddim yn gallu ei gymharu â Nigeria, ni allwch byth, byth gymharu â Nigeria, efallai oherwydd mod i ddim yn dod o'r fan yma. Yn Nigeria dydych chi ddim yn gallu troi o gwmpas heb weld eich cymydog bob bore. Mae Cymru mor… allwch chi ddim hyd yn oed fynd i gnocio ar ddrws tŷ rhywun. Ond yn Nigeria, cyn i chi ddeffro mae eich cymydog wrth eich drws yn curo i wybod sut rydych chi'n dod ymlaen, mae eich chwaer, eich brawd eisiau gwybod a wnaethoch os ydych chi wedi deffro. Felly, allwch chi ddim cymharu Nigeria â Chymru o gwbl.

03:18

C – PA MOR BWYSIG YW BWYD YN NIWYLLIANT NIGERIA?

Bwyd? Mewn gwirionedd, oherwydd bod Nigeria yn lle amrywiol, mae gyda ni nifer o grwpiau ethnig. Yn Nigeria, mae gyda ni'r Yoruba, yr Igbo a'r Hausa. Felly, fi rydw i'n dod o ran ddwyreiniol Nigeria, hynny yw Igbo, felly mae ein bwyd ni'n wahanol i'r de. Felly byddaf i'n siarad am fy ardal fy hun, hynny yw rhan ddwyreiniol Nigeria, Talaith Igbo. Mae gyda ni gymaint o ddanteithion. Os ydych chi am ddod i'm lle i, unrhyw un, unrhyw dramorwr sydd eisiau dod i'm lle i, byddwn ni'n gwneud bwyd arbennig ar eich cyfer rydyn ni'n ei alw'n 'abacha', hynny yw salad Affricanaidd. Rydych chi'n ei addurno â llysiau fel dail ŵy gardd, hadau, pysgod. Mae un arall, 'ube', efallai na fyddwch chi'n gwybod amdano. Maen nhw'n ei addurno gyda chaws a physgod mwg, dyna'r danteithfwyd cyntaf rydyn ni'n ei roi i ymwelydd. Mae yna fwyd arall rydyn ni'n ei alw'n 'okpa', maen nhw'n ei alw'n bambara nut yn Saesneg ... Maen nhw'n ei baratoi fel pryd o fwyd, hefyd fel byrbrydau, rydyn ni'n gweini bwyd proteinaidd arbennig (llawn o brotein) i'n pobl ac mae mor flasus na allwch aros neu eich bod chi'n dod i'n lle ni heb wybod amdano.

05:07

C - BETH YW EICH HOFF BRYD TRADDODIADOL?

Mae'n cael ei alw'n yn abacha ac okpa a chawl dail chwerw, a chawl nsala.

05:27

C – SUT YDYCH CHI'N GWNEUD CAWL DAIL CHWERW?

Rydyn ni'n defnyddio cnau coco. Iams coco, mae'n ddrwg gennyf i. Rydyn ni'n defnyddio iams coco. A dail chwerw. Rydyn ni'n golchi'r dail, rydyn ni bob amser yn defnyddio ein dwylo i'w golchi, i'w gwneud yn ffres. Ac… fe wnaethon ni ei roi hefyd i wneud yr arogl mor braf. Ac rydych chi'n rhoi rhywfaint o bysgod sych a physgod stoc ynddo, unrhyw brotein sydd gyda chi er mwyn ei wneud yn flasus.

06:11

C – RYDYCH CHI WEDI SÔN AM GYFNOD YR ŴYL. ALLWCH CHI DDISGRIFIO'R DDAWNS FASGIAU?

O, mae gennyn ni un yn fy lle i. Rydyn ni'n cynnal gŵyl ym mis Awst. Mae pawb yn dod yn ôl adref yn ystod yr ŵyl honno oherwydd ei fod yn ystod cyfnod o wyliau. Felly, ble bynnag yr ydyn ni, rydyn ni'n gobeithio mynd yn ôl adref am hynny. A phan rydyn ni'n mynd adref, rydyn ni'n gweld ein mam-guod ac yn gweld pawb o gwmpas ac erbyn y daw'r ddawns fasgiau ... ac fel menyw dydych chi ddim i fod i weld y ddawns wyneb yn wyneb. Mae ar gyfer dynion, nid dynion yn unig, ond dynion sydd wedi'u derbyn i'r 'ddynoliaeth' i fod yn fanwl gywir. Felly, os ydych chi eisiau gweld y ddawns, byddwch chi'n cuddio neu efallai'n edrych trwy'r ffenestri. Nid yw'n rhywbeth rydych chi'n dod allan i'w wylio, oherwydd nid yw wedi'i fwriadu i fenywod ei weld wyneb yn wyneb. Ydy, felly mae'n ei wneud yn hwyl.

07:30

C – FELLY YW CEISIO EI WELD YN RHAN O'R GÊM AC YN RHAN O'R TRADDODIAD?

Ie, ie, ie, ie… Mae hynny'n ei wneud yn hwyl oherwydd dydyn nhw ddim am i chi gael cyswllt wyneb yn wyneb ag ef, mae yn erbyn traddodiad y wlad.

07:47

C – OES RHYWUN SY'N CEISIO EICH ATAL CHI RHAG EDRYCH?

Na, fyddai neb yn ceisio. Byddwch chi'n cuddio'ch wyneb neu byddwch chi dan do oherwydd fydden nhw yn dod i mewn i'ch tŷ. Byddwch chi dan do yn sbecian drwy'r ffenestr i'w gweld nhw. Ond mae pobl yn gwybod ein bod ni'n sbecian ond oherwydd ein bod ni ddim yn dod yn gorfforol i'w gweld, fydden nhw ddim yn gwneud unrhyw beth.

08:09

C - BETH YW E FELLY? AI GORYMDAITH O DDYNION YN GWISGO MYGYDAU YW E? BETH MAEN NHW'N EI WNEUD?

Maen nhw'n gwisgo gwisgoedd. Maen nhw'n gwisgo gwisgoedd fel na allwch chi weld eu hwynebau, dydych chi ddim yn eu hadnabod. Ac yn ein diwylliant ni, maen nhw'n cael eu gweld fel pregethwyr. Felly nid yw'n rhywbeth y mae plentyn neu unrhyw un sydd newydd ddod i'w gweld fel 'na...., dim ond y bobl hynny sydd wedi cael eu derbyn, sy'n deall eu hiaith, yn deall eu hystumiau, yn deall sut maen nhw'n gwneud eu pethau. Dyna sut maen nhw'n byw.

08:41

C – NODOCH CHI EICH BOD CHI WEDI CAEL EICH MAGU'N GRISTION, SUT BETH OEDD HYNNY?

Ydw, rydw i'n Gristion, rydw i'n Babyddes trwy enedigaeth ac mae'n braf bod yn Babyddes. Rydyn ni'n mynd i eglwysi bob dydd Sul ac rydyn ni'n cael bedydd, ac mae hynny'n ymwneud â Christnogaeth yn unig.

09:09

C – FELLY, PAN DDAETHOCH CHI I'R D.U., A WNAETH EICH FFYDD EICH HELPU I DDOD O HYD I GYMUNED YMA? ALLECH CHI FYND I'R EGLWYS YMA?

Mae yna eglwysi yma, mae un yn Nhrefforest ac mae un arall yn y Porth. Mae cymaint o eglwysi Cristnogol o gwmpas. Hyd yn oed os na allwch chi fynd i eglwys Babyddol mae digon o eglwysi Cristnogol eraill o gwmpas lle gallwch chi addoli.

09:42

C – ROEDDECH CHI HEFYD YN SÔN BOD YMDEIMLAD MAWR O BARCH YNG NGHYMDEITHAS NIGERIA. ALLWCH CHI ESBONIO YCHYDIG MWY AM HYN?

Ie, yn Nigeria, rydyn ni'n parchu pobl hŷn. Dydych chi ddim yn gallu gweld oedolyn a mynd heibio. Pryd bynnag rydych chi'n gweld pobl hŷn, mae'n rhaid i chi ymgrymu i'w cyfarch. Ble bynnag yr ydych chi, os ydych chi'n eistedd i lawr, mae'n rhaid i chi sefyll i gyfarch pobl hŷn oherwydd mae hynny'n dangos parch ac eich bod chi'n gwybod fod y person yma'n hŷn na chi. Felly, mae gyda ni lawer o barch at bobl hŷn.

10:33

C – WNAETHOCH CHI WYLIO NIGERIA'N CHWARAE PÊL-DROED?

Ie, weithiau roeddwn i'n Nigeria, Lerpwl, ond nid bob amser. Ie… dwi’n gwybod, ti’n gwybod eu bod nhw jest wedi chwarae gem ddoe, felly, mae Nigeria yn lle neis iawn am bêl-droed.

11:04

C – FELLY, O RAN CHWARAEON YN NIGERIA, OES CHWARAEON I FERCHED YNO, FEL PÊL-RWYD NEU RYWBETH TEBYG?

Mae gyda ni gymaint o chwaraeon yn Nigeria nid dim ond pêl-droed. Mae gyda ni hefyd dîm pêl-droed benywaidd ac mewn pêl-foli. Mae yna weithgareddau bach mewn ysgolion hefyd.

11:34

C – YDYCH CHI'N GWYBOD PWY YW JJ OKOCHA?

Ydw, dwi'n gwybod pwy yw JJ Okocha. Mae'n byw yn Enugu, felly dyna pam rydw i'n gwybod amdano. Mae'n byw yn Enugu ac aeth i'r ysgol yn Enugu.

11:49

C - AI EF YW EICH HOFF BÊL-DROEDIWR?

Ie.

11:56

C - MAE'R TYWYDD YN WAHANOL I NIGERIA ONIDE?

Mae'r tywydd yn well Nigeria... achos mae hi'n oer iawn yma, ond mae Nigeria yn heulog. Pan fyddwch chi wir eisiau hi'n oer, cyn i chi wybod bydd yr haul yn dod allan ac rydyn ni'n mwynhau ein hawyrgylch. Mae hi'n braf iawn yn Nigeria.

12:21

C – BETH YDYCH CHI'N EI GOLLI FWYAF AM NIGERIA?

Beth dwi'n gweld eisiau Nigeria fwyaf... dwi'n colli'r tywydd a'n bwyd a dwi'n gweld eisiau fy nheulu.

12:35

C – ROEDDECH CHI'N DWEUD EICH BOD CHI'N TUEDDU I GAEL YR HOLL DEULU O'CH CWMPAS YN NIGERIA – YDY PAWB YN BYW YN YR UN TŶ?

Nid mewn gwirionedd... mewn cyfnod gŵyl, rydyn ni'n dod at ein gilydd, lle rydyn ni'n galw'n bentref lle mae'ch mam-gu a'ch tad-cu neu'ch mam. Bydd eich mam yn mynd â chi at eich mam-gu yna byddwch chi'n aros gyda'ch gilydd... dim ond am y cyfnod hwnnw. Ac ar ôl hynny, efallai y bydd pawb yn mynd i'r man lle rydych chi'n byw am gyfnod. Ond pam dwi'n dweud ein bod ni'n byw gyda'n gilydd, dydyn ni ddim efallai yn byw yn yr un tŷ ond dim ond gall eich brawd alw i mewn bob bore, neu efallai bob dydd. Mae bob amser yn dod i wirio a gwybod a ydych chi'n teimlo'n iawn. Felly dyna dwi'n ei olygu o fyw mewn cymunedau.

13:46

C – OES GYDA CHI DRAETHAU YN NIGERIA?

Oes, mae gyda ni draethau yn Nigeria. Llawer o rai gwahanol. Mae'n lle braf i fod, hoffwn pe gallech chi ei gael trwy'r dydd un diwrnod.

14:01

C – FELLY PAN MAE'R HAUL YN DOD ALLAN RYDYCH CHI'N MYND ALLAN I WNEUD PETHAU, PA FATH O BETHAU YDYCH CHI'N EI WNEUD Y TU ALLAN FEL CYMUNED?

Mae'r haul yno bob amser. Does dim diwrnod penodol pan rydych chi'n dweud 'rydyn ni'n disgwyl haul', fel sydd yma, na. Gallwch chi hyd yn oed gael glaw heddiw, nawr, ac yn y 5 munud nesaf rydych chi'n gweld yr haul bob dydd felly mae'n rhywbeth sydd bob amser yno. Does dim diwrnod arbennig i haul.

14:25

C – FELLY DWEDOCH CHI EICH BOD CHI WEDI DOD YMA I ASTUDIO IECHYD Y CYHOEDD, PAM? PA FATH O IECHYD Y CYHOEDD?

Rydw i'n astudio gradd meistr mewn iechyd. Nod y cwrs yw gwybod lles y bobl o gwmpas. Rydw i'n gwneud gwaith ymchwil sy'n ein helpu ni pan gawn ni'r wybodaeth honno. Bydd modd i ni ei defnyddio pan fyddwn ni'n dychwelyd i Nigeria.

14:54

C – FELLY PA YMCHWIL YDYCH CHI'N EI WNEUD?

Rydw i'n gwneud ymchwil i bum ffordd at les, i wybod a yw pobl yn gwybod y pum ffordd at les, ydyn nhw'n gyfarwydd â'r pum ffordd at les, sut maen nhw hefyd yn ei gymhwyso yn eu gweithgareddau bob dydd. Bydd rhai pobl, os ydych chi'n gofyn iddyn nhw, ddim yn gallu cymhwyso'r pum ffordd yma at les yn eu bywydau bob dydd. Felly, rydyn ni'n gwneud yr ymchwil hwn i wybod eu gwybodaeth, i ba raddau maen nhw'n gwybod bod y pethau yma'n bodoli ... oherwydd gallwch chi fod yn byw heb gymhwyso'r pum ffordd hyn at les yn eich bywyd, oherwydd mae'n helpu os ydych chi'n gwybod bod cysylltu â phobl yn rhywbeth sy'n helpu eich trallod meddwl. Mae bod yn actif, nid dim ond aros mewn un lle ac… os gallwch chi wybod y pum ffordd hyn, gall eich helpu chi i ehangu eich disgwyliad oes.

16:04

C - BETH YW EICH HOFF BETH AM GYMRU?

A dweud y gwir, mae'r bobl dw i wedi cyfarfod â nhw, maen nhw'n neis, a dwi'n meddwl mai dyna sydd gen i i'w ddweud. Rydyn ni'n gweithio, maen nhw'n fy nhrin yn iawn, felly rydw i'n dweud eu bod nhw'n bobl neis. Ond y tywydd, na, dwi’n dal i drio ymdopi â’r tywydd. Ond maen nhw'n bobl neis.

16:38

C – BETH YW'R PUM FFORDD I LES?

Iawn, bod yn gysylltiedig, bod yn egnïol, dysgu sgil newydd.

16:59

C – FELLY, SUT MAE CYMRU YN WAHANOL I NIGERIA YN Y FFYRDD Y MAE'N CEISIO HYBU LLES? YDY HI'N HAWS GWNEUD Y PETHAU YMA YN NIGERIA NAG YDY HI YNG NGHYMRU?

Ie, mae'n haws ei wneud yma oherwydd bod cymaint o bethau o gwmpas, o'i gymharu â Nigeria, ond ... dydy lefel y datblygiad yma ddim yn debyg i Nigeria mewn gwirionedd. Dyna pam rydyn ni'n dod yma, lle rydyn ni'n dysgu, gallwn ni fynd adref a throsglwyddo'r wybodaeth yma iddyn nhw. Dyna pam rydyn ni yma, yr wybodaeth rydyn ni'n dod i'w chael a phan rydyn ni'n cael yr wybodaeth a… y pum ffordd at les a ddatblygwyd yma. Mae'n dechrau yma, rydw i'n meddwl ei fod yn dechrau o Gymru yma, felly mae'n rhywbeth dydyn ni ddim yn effro iawn iddo yn Nigeria, felly, bydd dod yma i ddysgu amdano yn ein helpu ni hefyd fel myfyrwyr. Pan fyddwn ni'n cyrraedd adref byddwn ni'n gallu ei ledaenu i feddyliau ein pobl fel y byddan nhw'n gwybod y bydd cymhwyso'r pum ffordd yma i'w gweithgareddau dyddiol yn dda a bydden nhw'n helpu eu hiechyd meddwl mewn gwirionedd.

18:20

C – FELLY A OES RHYWBETH YR YDYCH CHI WEDI'I DDYSGU EISOES Y GALLWCH EI FYND YN ÔL I NIGERIA?

Oes.

18:29

C – PAN OEDDECH CHI'N IAU PA WEITHGAREDDAU OEDDECH CHI'N EI WNEUD YN NIGERIA?

Pan oeddwn i'n ifanc, roedd cymaint o bethau i'w gwneud... yr hyn ddaeth â fi drwodd, y sefydliad sydd wedi fy ngalw ar gyfer y cyfweliad yma, yw ein dawns ddiwylliannol. Pan fyddwn ni'n iau, roedden ni bob amser yn cymryd rhan mewn gweithgareddau dawnsio. Rydych chi'n dawnsio pan fyddwch chi'n cyrraedd adref. Byddwch chi'n dawnsio yn y pentref a bydd pobl yn dod i'ch gwylio chi. Pan maen nhw'n cymryd rhan mewn gwyliau, rydych chi'n dawnsio. Hefyd... yn y nos, mae plant yn dod allan ac yn chwarae gyda'i gilydd yn y tywod. Dydy hyn ddim yn digwydd yma. Felly, rydyn ni'n cytuno dydych chi ddim yn gallu bod yn eich tŷ ar eich pen eich hun, na, rydych chi'n chwarae gyda phlant eraill ac rydych chi'n dysgu ganddyn nhw.

19:35

C – CYSTADLAETHAU DAWNS - RYDYCH CHI’N SÔN AM BARTÏON PLANT, YDYCH CHI EISIAU DWEUD YCHYDIG MWY AM BWYSIGRWYDD DAWNSIO I DDIWYLLIANT NIGERIA?

Mae dawns yn ddiwylliant fydd byth yn marw oherwydd ein bod ni'n ei ddefnyddio fel adloniant. Rydyn ni hefyd yn ei ddefnyddio i gael hwyl, ac fel cystadleuaeth. Felly, dydy e ddim ond yn rhywbeth yr ydych chi'n ei wneud… ar achlysur fel hyn… efallai bod gennych chi wahanol grwpiau a bydden nhw'n dod i wneud cystadleuaeth ac maen nhw'n ennill rhywbeth. Felly, mae'n fwy na chael hwyl weithiau, mae hefyd yn ysgogi plant i barhau i wybod hynny ... mae hefyd fel y dywedais yn ffordd o hybu lles.

20:30

C – FELLY, YDY'R PLANT YN GWNEUD DAWNSIO TRADDODIADOL YN RHAN O HYNNY NEU YDY E'N FATH WAHANOL O DDAWNSIO?

Mae'n ddawns draddodiadol, maen nhw'n gwneud dawnsio traddodiadol, maen nhw hefyd yn gwneud dawnsio gorllewinol.

20:44

C – SUT MAEN NHW'N BARNU'R CYSTADLEUAETHAU?

Ie, y bobl hŷn, maen nhw'n eistedd gyda'i gilydd, maen nhw'n gwybod yn well na ni, felly dydyn ni ddim yn gwybod sut maen nhw'n ein barnu.

20:43

O ran partïon priodas, rydych chi'n adnabod Nigeriaid, rydyn ni wir yn credu yn ein diwylliant, ac ie, rydyn ni'n cynnal priodasau gwyn, ond hefyd yn cynnal ein priodasau traddodiadol. Maen nhw'n credu mai dyna sy'n arwain at briodas hapus. Felly, maen nhw’n credu cymaint mewn cynnal y seremoni draddodiadol. Maen nhw'n gweld priodas wen fel bendith, oherwydd mae'n rhaid i chi fynd i'r eglwys i'w wneud. Ond mae'r brif seremoni yn draddodiadol, rydych chi'n dod i'ch pentref ac mae'r bobl hŷn yn rhoi gwin palmwydd i chi. Mae yna rywbeth rydyn ni'n ei alw'n win palmwydd. Dydw i ddim yn gwybod a yw pobl wedi'i flasu. Felly, pan fyddan nhw'n rhoi'r gwin palmwydd ichi a gallwch chi ddangos i'ch cymuned neu ddangos i bawb... Mae'n rhaid ichi ddefnyddio'r gwin palmwydd i ddangos iddyn nhw mai dyma'r dyn sydd eisiau dod i'ch priodi chi. Yn ogystal â chario'r gwin palmwydd, mae'n rhaid i chi benlinio i gyflwyno'r gwin palmwydd i ddyn sy'n dod i'ch priodi. Ar ôl i chi gyflwyno'r gwin palmwydd, bydd eich darpar ŵr nawr yn eich codi a'ch cario i'ch rhieni am fendith. Mae'r fendith yn bwysig iawn ac mae'n rhaid i'r darpar ŵr dalu eich gwaddol. Nid arian yn unig yw'r gwaddol ... nid yw'n arian mawr i fod yn fanwl gywir, yn dibynnu ar y teulu neu ble rydych chi'n priodi ... ond mae'n rhaid i'r darpar ŵr dalu gwaddol i ddangos ei fod wedi dod i ddewis priodferch o'r teulu hwn felly mae'n achlysur gwych. Mae'r traddodiad yn bwysig iawn yn niwylliant Affrica a Nigeria i fod yn fanwl gywir. Hyd yn oed pan ydych chi yn y D.U., os yw'ch teulu wedi gafael yn dynn yn eu traddodiad, rhaid ichi fynd adref a dangos y dyn sydd am eich priodi i'ch rhieni a bydd yn rhaid iddyn nhw roi'r fendith cyn y gallwch chi fynd ymlaen i briodi, hynny yw yn ein diwylliant traddodiadol. Dyna pam rydyn ni bob amser yn ystod y cyfnod hwnnw ... fe welwch ein priodferched, bydden nhw'n gwisgo o'u pen i'w traed gyda'n gleiniau, ein tei pen, i ddangos bod y briodferch Nigeraidd hon, yn dod o naill ai Hausa, Igbo neu Yoruba.

23:35

Maen nhw'n bwyta reis. Ym mhob priodas neu unrhyw achlysur arall y byddwch chi'n mynd iddo yn Nigeria byddwch chi'n gweld naill ai reis gwyn neu reis jollof. Os yw yn Yoruba, fe welwch chi… amala. Ac os gwelwch Igbo, fe welwch akpu, mae'n gryf ... mae wedi'i wneud o gasafa ... rydych chi hefyd yn gweld gwahanol fathau o gawl fel rydw i wedi dweud, yna rydych chi'n gweld ...

24:30

C – FELLY MAE FUFU WEDI'I WNEUD O GASAFA? AI CASAFA MÂL YW E?

Ie, pan fydd gyda chi gasafa brown hir ... yna mae'n rhaid iddyn nhw ei blicio, yna maen nhw'n ei dorri a'i socian am rai dyddiau, a bydd yn eplesu. Pan fydd yn eplesu bydd yn hawdd nawr ei ridyllu. Pan fyddwch chi'n ei ridyllu, byddwch chi nawr yn ei roi mewn bag a'i glymu. Ar ôl ei glymu rydych chi'n ei adael am rai dyddiau i eplesu'n dda iawn, yna rydych chi'n dod ag ef allan ac yn dechrau ei goginio. Maen nhw'n ei bowndio, nid ei goginio yn unig.

25:17

C – SUT YDYCH CHI'N EI GOGINIO?

Pan fyddwch chi eisiau ei goginio, mae'n rhaid i chi ei rolio pan fyddwch chi'n dod ag ef, rydych chi'n ei rolio. Ar ôl ei rolio rydych chi'n ei roi mewn dŵr poeth. Pan mae yn y dŵr poeth yn berwi, ac rydych chi nawr yn ei bowndio rhagor... mae'n rhaid i chi ei bowndio... Yn ein lleoedd ni rydych chi'n gweld mai dynion sy'n ei bowndio oherwydd ei fod mor anodd ei bowndio. Ar ôl ei bowndio rydych chi'n ei fwyta gyda'ch hoff gawl.

25:52

C – AI BARA YW HYNNY FELLY ?

Na, mae'n wyn fel eba, wn i ddim a yw fel eba, ond mae hwn wedi'i wneud yn arbennig, nid dim ond garri yw e. Mae gyda ni garri sydd hefyd wedi'i wneud o gasafa, mae un yn cael ei baratoi mewn ffordd wahanol. Mae garri hefyd wedi'i wneud o gasafa, ac rydych chi hefyd yn ei eplesu, ond rydych chi'n ffrio'r llall. Rydych chi'n defnyddio'ch padell ... ar ôl i chi ei eplesu rydych chi'n ei hidlo, yna rydych chi'n defnyddio'ch padell i'w ffrio ... ar dân poeth.

[ODDI AR Y CAMERA: Gyda chasafa gallwch chi ei wneud yn wahanol gyda garri.]

26:56

C – RYDW I WEDI’I WELD YN Y SIOPAU, YN TESCO, AC RYDW I WEDI PENDRONI BETH I’W GOGINIO GYDA FE. ALLWCH CHI EI DORRI'N GIWBIAU A'I ROI YN SYTH YN Y GARRI NEU BYDDAI'N RHAID I CHI EI EPLESU?

Mae'n rhaid i chi ei eplesu. Mae yna rai lle rydych chi'n gallu dod ag ef fel y mae, gallwch chi hefyd ei goginio a'i fwyta fel byrbryd gyda coco iam.

27:12

C – OND MAE'N RHAID I CHI EI EPLESU?

Na, rydych chi'n ei goginio. Pan fyddwch chi'n ei goginio byddwch chi'n dal i'w socian mewn dŵr, efallai am ddau ddiwrnod, i wneud yn siŵr bod yr 'usi' y tu mewn iddo wedi mynd allan cyn i chi ddefnyddio casafa, mae llawer o startsh y tu mewn iddo.

27:36

C – ROEDDECH CHI'N DISGRIFIO'R DDIOD RYDYCH CHI'N EI CHYFLWYNO AR GYFER PRIODAS, GWIN PALMWYDD? YDY E'N CYNNWYS ALCOHOL?

Ydy, ond mae'n naturiol.

27:52

C – O BLE MAE'N DOD?

O'r balmwydden, y sudd o'r balmwydden. Maen nhw'n ei dapio o'r balmwydden, dim ychwanegion, mae'n hollol naturiol ... mae'n felys iawn, pan fyddwch chi'n ei gymryd, mae'n naturiol, yn felys iawn.

28:16

C – YDY LLAWER O BOBL YN DOD I'CH PRIODASAU?

Ydyn! Oherwydd ein bod ni'n cysylltu teulu a ffrindiau'r briodferch a'r priodfab, mae'n achlysur mawr i ni, mae'n fawr iawn. Ie, mae'n ddathliad mawr iawn… achos allwch chi ddim cyfyngu ar neb, allwch chi ddim. Os oes gennych chi deulu eich mam, teulu eich tad, eich ffrindiau o ble rydych chi, yn aros lle rydych chi'n byw, mae'n achlysur mawr, ydy.

DIWEDD