Prosiect Treftadaeth Nigeria

Gwyliwch 'Evelyn Henry'

Trawsgrifiad

00:07

C - DYWEDWCH YCHYDIG AMDANOCH CHI EICH HUN

O, diolch, fy enw i yw Evelyn Henry. Rwy'n dod o Dalaith Imo yn Nigeria ac rwy'n fenyw Igbo. Dydw i ddim yn foneddiges, menyw ydw i. Ac rydw i'n briod gyda dau o blant ac rydyn ni i gyd yma yn y DU. Des i yma yn fyfyrwraig. Fe wnes i fy ngradd mewn Iechyd y Cyhoedd, nawr rydw i'n weithiwr gofal iechyd yma yn Ne Cymru. Diolch.

00:00:41

C - SUT BETH OEDD TYFU I FYNY YN NIGERIA?

C - Sut beth oedd tyfu i fyny yn Nigeria? Tyfais i fyny yn Nigeria. Yn Nigeria mae gyda ni wahanol ddiwylliannau, crefyddau a chredoau. Felly, wrth dyfu i fyny yn fy ngrŵp diwylliannol fy hun, pan fyddaf i'n mynd i ddinasoedd eraill, rydw i'n ei chael hi'n anodd iawn ymdopi oherwydd yn fy niwylliant i rydyn ni'n bwyta akpu llawer, rydyn ni'n bwyta fufu. Dydy'r math o fwyd rydyn ni'n ei fwyta yn fy mhentref i neu yn fy nghymuned i ddim yr un math o fwyd rydw i'n gweld y tu allan. Felly, rydw i’n ei chael hi’n anodd iawn… cymysgu â chymunedau eraill oherwydd dydyn nhw ddim yn bwyta yr hyn rydw i'n ei fwyta. Felly, os ydw i'n mynd i le arall i aros, mae angen i mi fynd â fy mwyd gyda mi oherwydd rydw i'n caru bwyd yn fawr ac rydw i'n gallu bwyta. Diolch.

01:35

C – DISGRIFIWCH EICH TREF GARTREF NEU EICH PENTREF.

Iawn, fy mhentref i yw Obowo yn Nhalaith Imo... Does dim golau na rhwydwaith yn fy mhentref. Os ydych chi angen cysylltu â'r rhwydwaith mae angen i chi ddefnyddio eich ffôn ar ben bryn, coeden neu ffens. Mae gwneud galwad ffôn yn fy nghymuned yn anodd iawn oherwydd does dim rhwydwaith. Dyna fy nghymuned i, ond roedden ni’n arfer mynd i’r dre… ac i fynd i fy nghymuned byddwch chi’n cymryd beic. Rydyn ni'n galw beic yn ‘okada’, sy'n golygu peiriant. Dyna sut rydych chi'n cyrraedd fy nghymuned.

02:21

C – BETH YW CYFLWR Y FFYRDD? SUT MAE'N WAHANOL?

Does dim ffyrdd gyda ni. Mae ein ffordd yn iawn ond unwaith y bydd glaw yn disgyn ni fydd y ffordd yn iawn, mae'n llithrig fel… ffordd fwd. Weithiau rydych chi'n cwympo i lawr o'r beic... rydych chi'n mynd ar y beic, pan fydd y beic yn mynd yn gyflym byddwch chi a dyn y beic yn cwympo i lawr. Felly mae'n rhaid i chi ddal yn dynn yn y beic fel eich bod chi ddim yn cwympo.

02:53

C – PA MOR BWYSIG YW'R DIWYLLIANT?

Pwysig iawn. Rwy’n caru fy niwylliant gymaint oherwydd yn fy niwylliant, yn fy nghymuned, os does dim arian gyda chi, does dim hawl i chi briodi merch ifanc yn fy nghymuned. Mae pris ein priodferch yn cael ei bennu gan bris priodferch pawb… Felly pan fyddwch chi'n galw yn fy nghymuned y tu allan i Nigeria, fel, mewn lle arall, y tu allan i'r gymuned honno, does dim hawl i chi briodi yno heblaw bod arian gyda chi. Felly mae fy mhris fel priodferch yn dod o bob pris priodferch arall yn y gymuned, felly, os does gyda chi ddim arian, dydych chi ddim yn gallu dod i fy nghymuned i briodi oherwydd rhaid i chi dalu am bopeth sydd ar y rhestr. Mae gyda ni restrau, mae gyda ni restr gwrywod, rhestr menywod, rhestr ieuenctid a rhestr merched ifainc. Rhaid i chi wneud yn siŵr bod popeth yn y rhestr honno'n gyflawn cyn y mae hawl i chi briodi menyw yn y gymuned honno.

03:47

C – PA FATH O BETHAU SYDD AR Y RHESTR?

Mae gyda ni beiriant, fel peiriant menywod. Mae yna un peiriant rydyn ni'n ei ddefnyddio i gynhyrchu olew palmwydd. Wyddoch chi, mae gyda ni olew palmwydd yn fy nghymuned. Felly mae yna beiriant rydyn ni'n ei ddefnyddio... fel y peiriant hwnnw nawr, rydych chi'n dod ag ef, rydych chi'n dod â pheiriant gwnïo, rydych chi'n dod â channoedd o iam, rydych chi'n dod â phum bag o reis, rydych chi'n dod â 25 litr o ddŵr... rydych chi'n dod â phump litr o gerosin. Wn i ddim a ydych chi'n gwybod beth yw cerosin, rydych chi'n dod â cherosin hefyd, pum litr. Mae cymaint o bethau ar y rhestr… powdr rhosyn bore. Mae cymaint o bethau ar y rhestr honno felly mae'n rhaid i chi ei ddarparu, fel arall ni fydden nhw'n caniatáu ichi fynd gyda'r fenyw.

04:38

C – FELLY MAE'R DYN YN DOD Â'R PETHAU DROSODD?

Mae'r dyn yn dod â phopeth ar y rhestr.

04:44

C – YDY'R RHESTR YN WAHANOL RHWNG POB MENYW NEU YDW PAWB YN CAEL YR UN RHESTR?

Dydyn ni ddim yn gwahaniaethu o fenyw i fenyw… Mae gan bob menyw yr un rhestr, ond mae bod yn ferch gyntaf yn wahanol i fod yn ail ferch. Mae gen i chwaer, fy chwaer iau, fi yw'r ferch gyntaf, hi oedd yr ail ferch. Mae ei phris priodferch yn wahanol i'm pris priodferch i oherwydd fi yw'r ferch gyntaf. Yn fy nghymuned i mae'r ferch gyntaf yn cael llais yn fy nghymuned. Rydw i'n berchen ar ran o dŷ fy nhad o hyd gan mai fi yw'r ferch gyntaf. Nid oes gan fy chwaer iau yr un safle oherwydd nid hi yw'r ferch gyntaf. Mae gwahaniaeth rhwng merch gyntaf ac ail ferch. Felly fi yw'r ferch gyntaf, mae gen i lais, nid oes ganddi lais, felly mae fy mhris priodferch i'n wahanol i'w phris briodferch hi.

05:36

C - SUT BETH YW'R DILLAD?

Rydyn ni'n hoffi clymu sgarffiau, mae'r ffordd rydyn ni'n eu clymu ar ein pen yn wahanol i bobl Yoruba, fel y Western tie 'aso oke', fel hyn maen nhw'n ei chlymu ar eu gwallt. Rydyn ni'n clymu un fawr... Rydyn ni'n ei chlymu i fod yn fawr iawn. Yn ein diwylliant ni, rydyn ni’n gwisgo blows… ti’n gwybod, blows? Rydyn ni'n gwisgo blows ac rydyn ni'n clymu lapiwr. Rydyn ni'n clymu dau lapiwr, nid un lapiwr. Os ydych chi'n wraig briod, dydych chi ddim yn clymu un lapiwr. Rydych chi'n sarhau'r diwylliant. Rydych chi'n clymu dau lapiwr. Os ydw i'n mynd i gyfarfod, mae angen i mi orchuddio fy mhen... mae angen i mi glymu sgarff ar fy ngwallt, gwisgo blows a chlymu dau lapiwr. Os na fydda i'n gwisgo'n gywir byddan nhw'n rhoi dirwy i mi a byddaf i'n ei thalu oherwydd ei bod yn ddirwy.

06:42

C - FAINT YW'R DDIRWY?

Mae'n dibynnu, efallai y gall y ddirwy fod yn 200 naira, ydych chi'n gwybod ein bod ni'n delio mewn naira?

06:54

C – PA RAN O DDIWYLLIANT NIGERIA SYDD FWYAF PWYSIG I CHI?

Byddaf i'n dweud fy ystafell fy hun achos dydw i ddim hyd yn oed... dydw i ddim yn dweud am ddiwylliant pobl eraill. Rydw i'n dweud am fy niwylliant fy hun. Dw i’n caru fy niwylliant a dw i… ddim hyd yn oed yn meddwl am ddiwylliant pobl eraill. Waeth pa mor anodd yw fy un i, dwi'n caru fy niwylliant, a dweud y gwir dydw i ddim yn gwybod am bobl eraill, fy un i yw'r gorau.

07:24

C – SUT MAE LLWYTH Y YORUBA YN WAHANOL I'R LLWYTH ARALL?

Rydw i'n dod o Dalaith Imo, fel Oyinyechi o Dalaith Igbo... yn ein diwylliant ni mae hawl i chi briodi gyda phump naira, tua £1. Gallwch fynd a gollwng £1 a bydd y fenyw yn eich dilyn i'ch tŷ. Dyna'r gwahaniaeth. Yn fy niwylliant i mae'n rhaid i chi dalu, byddwch chi'n talu, rydych chi'n talu pris priodferch, ond yn y diwylliant Hausa, dydych chi ddim yn gwneud hynny. Bydden nhw'n dweud wrthych chi bod unrhyw swm yn iawn gyda nhw… Mae'r gŵr yn gallu rhoi unrhyw beth i'r rhieni.

07:59

C - SUT BETH OEDD YR YSGOL YN NIGERIA?

Fy ysgol yn Nigeria?... O gymharu â'r ysgol yma, mae'r ysgol yma yn anodd iawn. Mae'r ysgol yma yn gwneud i chi edrych fel eich bod chi'n gwybod dim hyd yn oed os ydych chi'n glyfar. Oherwydd y ffordd.... mae safon yr addysg yr un fath a'n haddysg ni.. Bûm yn astudio biocemeg yn Nigeria ac yn gweithio gyda’r Weinyddiaeth Iechyd yn Nigeria. Rydw i'n swyddog gwyliadwriaeth lle rydw i'n gweithio. Wedi i mi ddod yma i wneud fy ngradd meistr mewn epidemioleg, a phan oeddwn i yn fy uned yn Nigeria, rydw i'n epidemiolegydd oherwydd fy mod o dan yr adran Goruchwyliaeth... Mae'r hyn yr astudiais yn wahanol i'r hyn rydw i'n gwneud ar gyfer fy swydd. Felly ar ôl dod i'r lle yma, mae'r system addysg yn wahanol, yn wahanol iawn i fy un i.

09:01

C – BETH FYDDECH CHI'N EI WNEUD I GAEL HWYL PAN OEDDECH CHI'N IAU?

Chwarae. Roeddwn i'n chwarae llawer... does dim tywod yma. Roeddwn i'n chwarae yn y tywod. Roeddwn i'n chwarae llawer, yn chwarae'n dda. Roeddwn i'n chwarae.

09:18

C – PA FATH O GEMAU?

Doeddwn i ddim yn chwarae gêm mewn gwirionedd, roedd fel chwarae lleol.

09:29

C - A WNAETHOCH CHI WYLIO NIGERIA'N CHWARAE PÊL-DROED DDOE?

Do, doeddwn i ddim yn hapus ddoe, gan iddyn nhw ein curo. Fe wnes i wrthod bwyta fy mwyd ddoe oherwydd sut all y Traeth Ifori ein curo ni? Rydyn ni, Nigeria, yn gewri yn Affrica, ni yw'r Igbo, rydyn ni'n gryf. Roeddwn i'n teimlo fod y dyfarnwr yn chwythu yn ein herbyn ni, dyna sut wnaethon nhw ein curo. [C – OEDDECH CHI'N TEIMLO FEL BOD Y TRAETH IFORI WEDI DWYN Y GÊM?] Do cafodd y gêm ei dwyn gennym ni mewn gwirionedd.

09:57

C - YDYCH CHI'N GYFARWYDD Â JAY-JAY OKOCHA?

Ydw, mae'n dod o Dalaith Enugu.

10:02

C - AI EF YW EICH HOFF BÊL-DROEDIWR?

Na, fy hoff un yw Kanu Nwankwo. Kanu Nwankwo yw fy ffefryn. Ydych chi'n gyfarwydd â Kanu Nwankwo? Mae'n chwarae yn nhîm Arsenal, ef yw fy ffefryn, nid Jay-Jay Okocha.

10:19

BETH YDYCH CHI'N EI GOLLI AM NIGERIA?

Beth ydw i'n ei golli? Bwyd! Dwi'n colli bwyd achos dwi'n caru bwyd. Rydw i'n colli'r bwyd. Ar ôl dod yma, rydw i'n gweld gwahanol fathau o fwyd, dydw i ddim yn gallu ei fwyta. Dydw i ddim yn gallu bwyta. Rydw i'n gweld gwahanol fathau o fwyd tun. Rwy'n colli fy 'swallow', rydw i'n colli fy akpu, rydw i'n colli fy fufu. Rydw i'n colli fy Owerri. Dyna maen nhw'n ei alw, rydw i'n dod o Dalaith Imo, prifddinas Talaith Imo yw Owerri. Mae gennym ni ein bwyd ein hunain. Rydw i'n colli'r bwyd yno gymaint! Rydw i'n colli fy mwyd gymaint. Rydw i'n colli fy nhywydd, er bod fy nhywydd yn boeth iawn, ond rydw i'n dal i'w golli... weithiau pan fydd yr haul yn eich taro, rydych chi'n dod yn ôl i'ch tŷ, bydd yn ailosod eich ymennydd.

11:06

C – CHI’N GWYBOD PAN DDYWEDOCH CHI EICH BOD CHI DDIM YN GALLU BWYTA’R BWYDYDD YN Y D.U., MAE PYSGOD A SGLODION YN DDIWYLLIANT DYDDIOL…

Rydw i wrth fy modd ond dydw i ddim yn gallu ei fwyta bob dydd. Rydych chi'n blino arno, wyddoch chi, pan fyddwch chi'n bwyta bwyd penodol bob tro, hyd yn oed sglodion, hyd yn oed fyrgyr, rydych chi'n blino bwyta'r bwyd penodol hwnnw. Rydych chi eisiau bwyta pethau gwahanol, ie, rydw i wrth fy modd yn blasu bwyd. Gan fy mod i'n caru bwyd, rydw i eisiau bwyta bwyd gwahanol. [C – DDIM YR UN UN BOB DYDD?] Ddim yr un peth bob dydd, na.

11:39

C – BETH YDYCH CHI'N HOFFI AM FYW YNG NGHYMRU?

Rydw i'n caru'r bobl. Rydw i'n meddwl eu bod nhw'n bobl hyfryd. Maen nhw'n derbyn pawb. Rydw i'n adnabod rhai pobl sy'n dweud bod pobl yn hiliol, ond lle rydw i'n byw dydy pobl ddim yn hiliol. Rydw i'n caru'r gymuned lle rydw i'n byw. Mae gen i gymydog o'r enw Bob, mae bob amser yn fy nghyfarch, “Helo, Evelyn, wyt ti'n iawn? Sut mae dy fabi di?" Wyddoch chi, dwi'n caru'r gymuned. Dwi'n caru fy..., dwi'n caru'r gymuned.

12:00

C – OES GYDA CHI UNRHYW FFRINDIAU?

Mae gen i lawer o ffrindiau, fel fy mab, mae gan fy mab ffrind, ei enw yw Charlie, roedd yn arfer dod i alw arno i fynd i chwarae. Mae'r teulu'n caru fy mab yn dda iawn. Maen nhw'n mynd â fi allan i siopa, popeth. Felly dwi'n hapus iawn, dwi'n gyfforddus iawn.

12:19

C – YDYCH CHI’N MEDDWL BOD Y SIOPAU’N WAHANOL I'R RHAI YN NIGERIA?

Ydw, felly mae'r siopau yma yn wahanol. Rydych chi'n ei alw'n siopa ac rydyn ni'n ei alw'n farchnad. Ie, rydych chi'n gwybod ei fod yn farchnad. Farchnad agored, rydych chi'n cytuno ar y pris. Yn Nigeria rydyn ni'n cytuno ar y pris. Os ydw i eisiau prynu siwgr nawr, maen nhw'n gofyn am £1, a byddaf i'n cynnig £0.50c neu £0.40c. Yn Nigeria rydych chi'n cytuno ar bris, ond yma mae'n bris sefydlog a does dim modd dadlau. Os yw pris rhywbeth yn £200 dydych chi ddim yn gallu dweud, "allai roi £150 neu £120 i chi". Maen nhw'n dweud "na". Diwrnod o'r blaen ceisiais gynnig llai. Dywedon nhw "na, dyna yw'r pris". Talais y pris llawn.

13:06

C – PA FATH O DDAWNSIAU DIWYLLIANNOL SYDD GYDA CHI?

Rydych chi'n fy adnabod i. Rydw i'n fenyw Igbo, nid merch Igbo. Unwaith y byddwch chi'n briod yn fy niwylliant i, rydych chi'n fenyw. Rydych chi'n fenyw briod. Rydw i'n fenyw Igbo felly rydw i wrth fy modd yn dawnsio dawns Igbo. Roedden ni'n arfer ysgwyd ein canol wrth ddawnsio, dyna ein dawns. Os dydych chi ddim wedi ysgwyd eich canol dydych chi ddim wedi dawnsio, er bod dim canol gen i mewn gwirionedd, ond rydw i'n ysgwyd yr un fach sydd gen i. Oes, mae gyda ni ddawns wahanol, trac dawns gwahanol, cerddoriaeth wahanol. Mae cerddoriaeth wahanol yn dweud stori wahanol wrthych chi. Felly stori wahanol, cerddoriaeth wahanol, dawnsio gwahanol, symudiadau corff gwahanol a mynegiant wyneb gwahanol.

13:47

C - YDYCH CHI'N COGINIO BWYD NIGERAIDD YMA YNG NGHYMRU?

Ydw, rydw i'n ei goginio yma. Dwi'n dal i goginio bwyd fy ngwlad yma. Ond mae'n ddrud iawn i'w goginio yma. [C - MAE'N ANODDACH I'W BRYNU?] Mae'n ddrud oherwydd bod rhaid ei brynu o siop fwyd Affricanaidd. Felly mae'n ddrytach. Felly dwi'n ei goginio, rydw i'n dal i fwyta fy mwyd Nigeraidd, ond mae un bwyd arbennig dydw i ddim wedi'i fwyta, rydw i wir eisiau ei fwyta, sef fufu.

14:23

C – BETH YW'R PETH GWAETHAF AM FYW YNG NGHYMRU?

Y peth gwaethaf? Y tywydd dwi'n credu. Dydych chi ddim yn gallu rhagweld y tywydd yma. Rydych chi'n mynd allan, rydych chi'n meddwl, mae'r haul yn tywynnu ond mae'n oer. Rydw i'n drysu, edrychwch arnaf i dydw i ddim yn gwisgo hosanau, des i allan heb hosanau. Roedd yr oerfel yn ormod, roeddwn i'n dal i geisio cuddio fy nghoes. Yr oerfel.

14:47

C - YDY HI'N HEULOG DRWY'R AMSER YN NIGERIA?

Mae gennym ni Harmattan. Ydych chi'n gwybod am Harmattan? Harmattan yw'r tymor sych, maen nhw'n ei alw'n dymor sych. Ie, mae'r awel yma, y gwynt yn ormod, dyna'r unig amser y mae'r tywydd yn oer, ond yn ystod y tymor sych mae'n torri'r gwefusau a'r coesau. Os fyddwch chi ddim yn golchi'ch coes yn dda iawn, bydd y croen yn torri. Mae hi'n heulog ar hyn o bryd.

15:19

C – SUT OEDD PRIODASAU YN NIGERIA?

Priodasau? Ein priodas wen? Cawsom ni briodas wen, cawsom ni briodas draddodiadol. Felly pa un ydych chi eisiau i mi siarad amdano? Priodas draddodiadol. Ein priodas draddodiadol. Rydyn ni'n ei galw'n 'Igba Nkwu'. Ydych chi'n gallu dweud, 'Igba Nkwu'? 'Igba Nkwu' yw e. Yn ein priodas draddodiadol rydych chi'n gwisgo'n draddodiadol, rydych chi'n cymryd diod. Rydych chi'n cymryd y ddiod… Bydd y wraig yn mynd i gwrdd â'r rhieni, bydd y rhieni'n rhoi diod iddi. Bydd hi'n cario'r ddiod ac yn mynd i chwilio am ei gŵr, ac yn dod â'i gŵr, ac yn rhoi diod i'w gŵr ei hyfed, gan olygu bod y gŵr wedi cytuno i'w phriodi. Yna ar ôl i’r gŵr gymryd y ddiod, bydd y ddau ohonyn nhw nawr yn dawnsio ac yn mynd i gwrdd â’r rhieni ac yn penlinio o flaen rhieni’r ferch am fendithion. Dyna beth sy'n digwydd yn ein priodas draddodiadol.

16:27

C – YDY'R PRIODASAU'N FAWR?

Maen nhw'n fawr. Mae gyda ni le rydyn ni'n ei ddefnyddio ar gyfer ein priodasau, mae'n ardd, ac rydyn ni'n codi canopi. Maen nhw'n fawr, rydych chi'n gweld pobl nawr oherwydd maen nhw'n coginio gwahanol fathau o fwyd. Rydych chi'n gwybod weithiau rydyn ni'n penderfynu bod heddiw ar gyfer priodas, bod dydd Sadwrn ar gyfer priodas, rydych chi'n paratoi, yn gwagio'ch stumog, rydych chi'n mynd i fwyta a dod yn ôl. Rydych chi'n gweld pobl yn ymgasglu o wahanol lefydd... Mae pobl yn gwisgo'r un dillad, yr un deunyddiau... Maen nhw'n edrych yn unigryw, ac mae pawb eisiau edrych ar eu gorau mewn ffordd draddodiadol. Maen nhw eisiau gwisgo eu dillad gorau, drutaf. Mewn priodas draddodiadol rydych chi'n gweld y pethau drud mae pobl yn eu gwisgo. Ydy, mae ein priodas ddiwylliannol bob amser yn fawr, yn ddathliad mawr.

17:18

C – UN PETH I ORFFEN. ROEDDWN NI'N SIARAD AM SUT MAE'R STRAEON YN CAEL EU HADRODD TRWY DDAWNSIO, DRWY SYMUDIADAU'R WYNEB. YDYCH CHI EISIAU DWEUD YCHYDIG BYTH AM HYN?

Iawn mae'n dibynnu ar y math o gerddoriaeth, fel y dywedais yn gynharach, byddai eich cerddoriaeth yn dweud beth yw'r stori, sut beth fydd y ddawns, a mynegiant yr wyneb. Mae rhai caneuon yn emosiynol, bydd mynegiant eich wyneb yn dweud beth mae'r gân yn ei ddweud. Y ffordd y byddai eich corff, iaith eich corff yn dweud beth mae'r gân yn ei ddweud. Mae'n dibynnu, bydd y math o gân yn penderfynu ar y ddawns. Os yw'r gân yn un drist, bydd eich wyneb yn dweud, bydd eich symudiadau'n dweud, bydd iaith eich corff yn dweud. Bydd y math o gân yn pennu beth rydych chi am ei ddawnsio. Nawr dydych chi ddim dim ond yn dawnsio, rydych chi'n dawnsio yn ôl y gerddoriaeth, yn ôl y sain. Oes gennych chi gwestiwn arall i'w ofyn? [CHWERTHIN. DYWEDWCH WRTHYM NI AM EICH FFRINDIAU OEDD YN EICH PRIODAS, DYDW I DDIM YN MEDDWL EICH BOD CHI WEDI SÔN AM HYNNY] Fy ffrindiau a ddaeth i fy mhriodas, yn ystod fy mhriodas draddodiadol… Roeddwn i newydd orffen fy nghyfnod yn y Corfflu Gwasanaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYSC), roedd gen i lawer o ffrindiau bryd hynny… felly daethon nhw draw, arhoson nhw gyda mi, roedd llawer yn fy nhŷ, gwnaethon nhw helpu i baratoi'r bwyd. Roedden nhw'n helpu i lanhau'r amgylchedd, golchi. Fe wnaethon nhw helpu i weini bwyd, roedden nhw'n helpu llawer. Yn fy niwylliant i mae pobl yn dod draw i'ch helpu pan rydych chi eisiau dathlu. Maen nhw'n eich helpu chi i goginio'ch bwyd. Maen nhw'n eich helpu chi i baratoi, maen nhw'n eich helpu chi i lanhau ym mhobman. Felly, yn fy niwylliant, rydyn ni'n gwneud pethau gyda'n gilydd oherwydd os ydych chi eisiau priodi, cael priodas draddodiadol... byddaf i'n mynd yno cyn y diwrnod mawr, i'ch helpu i drefnu pethau. Dyna beth rydyn ni'n ei wneud.

19:30

C – MAE DAWNS YNG NGHYMRU AC MAE’N MYND FEL HYN [YN DANGOS ODDI AR Y CAMERA]

Fel hyn? [DYNA DDAWNS YNG NGHYMRU]. Yng Nghymru? Ai dyna sut rydych chi'n dawnsio, fel hyn? [CHWERTHIN] Na, rydyn ni'n gwneud fel hyn, rydyn ni'n ysgwyd, yn ysgwyd ein pen ôl. [CHWERTHIN].

DIWEDD