00:05
C – DYWEDWCH YCHYDIG AMDANOCH CHI EICH HUN
Fy enw i yw Temitope Fayemi. Rwy'n dod o Nigeria, rwy'n briod ac mae gen i ferch 6 oed. Rydw i’n dod o ran orllewinol Nigeria, o Ogun State, yn union, ond priodais i ddyn Ekiti, mae hefyd o ran orllewinol Nigeria. Ie, felly dyna fi.
00:39
C – SUT BETH OEDD TYFU I FYNY YN NIGERIA?
Tyfu i fyny yn Nigeria, wel, mae gen i bedwar o frodyr a chwiorydd, felly rydw i'n un o bump. Felly roedd tyfu i fyny yn ddiddorol oherwydd roedd fy mam yn gweithio mewn banc yn Nigeria cyn iddi ymddeol, a wyddoch chi, roedd gyda ni lawer o ... roedd gyda ni gynorthwywyr, pobl a oedd yn gofalu amdanom ni, felly roedd tyfu i fyny yn ddiddorol iawn, nid oedd yn straen mewn gwirionedd. Hynny yw, am 16 mlynedd roeddwn i'n byw mewn gwladwriaeth benodol yn fy ngwlad – sef Talaith Lagos, dyna lle cefais fy ngeni a chefais fy magu cyn i mi symud i wladwriaeth arall, sef Gwladwriaeth Oyo, dyna lle gwnes i fy ngradd gyntaf. Gwnes i fy ngradd prifysgol yno, ac ie, fe wnes i briodi yn y wladwriaeth honno hefyd, yng Ngwladwriaeth Oyo. Felly nes i dyfu i fyny, am 16 mlynedd o fy mywyd, yn y wladwriaeth benodol honno, yn un o daleithiau mwyaf poblog fy ngwlad, Talaith Lagos, oherwydd mae gyda ni filiynau o bobl yno ac mae'n lle diddorol iawn, mae’n lle prysur iawn hefyd. Felly roedd tyfu i fyny yn ddiddorol.
02:26
C – A YW'N WAHANOL I GYMRU?
A yw’n wahanol i Gymru? Ydy. Mae'n wahanol iawn. Mae'n wahanol iawn i Gymru wyddoch chi. Dydw i ddim yn gwybod sut mae'r boblogaeth yma yng Nghymru yn cymharu â fy ngwlad i, lle cefais fy magu. Mae'n wahanol iawn i Gymru oherwydd mae fy ngwlad i yn lle prysur iawn, iawn, mae lle y ges i fy magu yn lle prysur iawn a dyw hi ddim mor brysur yng Nghymru...mae'n wahanol, dyna'r cwbl, mae'n wahanol.
03:22
C – BETH YW EICH HOFF FATH O GERDDORIAETH?
O, fy ngherddoriaeth. Rydw i'n gwrando ar Afrobeat, Hip Hop. Wel, yn fy ngwlad yn Affrica, mae ein cerddoriaeth bron yn Afrobeat. Mae gyda ni Afro Jùjú hefyd, ond does gen i ddim llawer o wybodaeth am hynny mewn gwirionedd, oherwydd, wrth dyfu i fyny roeddwn i'n gwrando ar Afrobeat, ond mae pobl o'r 1980au/1970au yn gwrando ar fwy o gerddoriaeth Afro Jùjú , ond o 1990 ymlaen, roedden ni'n gwrando ar Afrobeats ac mae gyda ni lawer o artistiaid Afrobeats rydych chi'n eu hadnabod sy'n boblogaidd nawr, megis Davido, Burna Boy, Rema... llawer ohonyn nhw. Felly dyna'r math o gerddoriaeth rydw i'n gwrando arno. Mae gyda ni hefyd gerddoriaeth draddodiadol o wahanol rannau o fy ngwlad, gwahanol rannau o Nigeria, felly rydw i'n gwrando ar gerddoriaeth draddodiadol hefyd.
04:55
C – BETH YW'R GERDDORIAETH A'R DAWNSIAU TRADDODIADOL YN NIGERIA?
Sut beth yw'r dawnsiau traddodiadol a’r gerddoriaeth yno? Diddorol. Wyddoch chi, mae cerddoriaeth, pan mae'n gerddoriaeth draddodiadol, yn esbonio ffordd o fyw yn fy ngwlad. Mewn cerddoriaeth, mae'n rhoi llawer o wybodaeth am y gymuned, am sefyllfa, hyd yn oed gwybodaeth am rywbeth megis thema cân neu mae'r gerddoriaeth yn siarad am hyn, mae'n yn siarad am hyn. Felly, mae cerddoriaeth a dawns yn rhoi...mae'n rhoi... mae'n straeon, fel stori. Mae cerddoriaeth draddodiadol fel stori yn fy ngwlad, felly dyna'r cyfan y galla i'w ddweud am hynny.
06:08
C – A OES MODD I CHI ROI ENGHRAIFFT O'R MATH O STRAEON A GAIFF EU HADRODD?
Wel, does dim modd i mi ddewis un mewn gwirionedd, ond mae gyda ni lawer o ganeuon gwahanol sy'n gysylltiedig â stori. Mae gyda ni rai sy'n ymwneud â mam a phlentyn... efallai bod mam yn siarad â phlentyn mewn damhegion a bydd yr artist yn troi hynny i mewn i gerddoriaeth. Mae llawer ohonyn nhw, ond ni allaf feddwl am un nawr. Galla i ddim meddwl ar y funud.
07:11
C – DYWEDOCH CHI EICH BOD CHI WEDI PRIODI. BETH AM BRIODASAU YN NIGERIA?
Mae priodasau yn Nigeria yn briodasau mawr. Wyddoch chi, mae gyda ni dri grŵp ethnig yn bennaf yn fy ngwlad i. Y rhain yw'r Igbos, y Yorubas a'r Hausas. Mae gyda ni lawer o grwpiau ethnig eraill ond y prif rai yw'r tri hynny, a wyddoch chi, pan fyddan nhw'n cynnal achlysuron fel 'na, yn enwedig priodasau neu angladdau neu ben-blwyddi, maen nhw bob amser yn achlysuron mawr. Rydyn ni Yorubas yn hoffi creu argraff. Rydw i'n dod o'r rhan Yoruba o Nigeria, felly mae bob amser yn briodas fawr. Wyddoch chi, mae gyda ni ddanteithion gwahanol, gwisg wahanol, cerddoriaeth, dawnsio. Felly, mae'r priodasau hefyd yn arddangos ein dawnsio.
08:33
C – SUT BETH YW'R DILLAD? A YW'R DILLAD YN WAHANOL?
Ie, mae gyda ni ddillad gwahanol. Mae gan y Yorubas ddillad gwahanol i'r Igbos a'r Hausas. Dydw i ddim yn cofio enw'r dillad y mae'r Hausas yn ei wisgo, ond mae rhai o ddillad y Hausas yn gorchuddio eu pennau a'u cyrff. Mae'r Igbos hefyd yn gwisgo gwisg wahanol, maen nhw'n ei alw'n 'George'. Mae'n ddrud iawn, iawn, iawn. Mae defnydd yn ddrud iawn, iawn yn fy ngwlad. Felly, pan maen nhw'n cynnal priodasau, rydych chi'n gweld y briodferch yn gwisgo'r math yna o ddillad oherwydd mae'n ddillad drud iawn, iawn. Ac mae gyda nhw fwclis gwahanol y maen nhw'n eu gwisgo i ategu'r ffrog. A hefyd yn y llwyth Yoruba, o le dwi'n dod, rydyn ni'n rhoi 'Aso-Oke' ymlaen, rydyn ni'n ei alw'n 'Aso-Oke'. Mae'r Aso-Oke wedi'i wau â llaw ac mae gyda ni hefyd wahanol fathau o ddeunyddiau rydyn ni'n eu gwisgo gyda'r Aso-Oke, a gyfeirir ato fel les, les llinyn, gwahanol fathau o ddeunydd. Ac mae rhai pobl yn galw dillad yn 'iro' a 'buba'. Yr hyn rydw i'n ei olygu gydag 'iro' a 'buba' yw, mae yn union fel eich top a'ch sgert, ond mae ein iro a'n buba ni ein hunain yn dop a dilledyn lapio. Felly rydyn ni'n defnyddio'r les i wnïo'r top a'r dilledyn lapio, ac rydyn ni'n defnyddio'r Aso-Oke i'w ategu. Mae rhai pobl yn gwnïo Aso-Oke, maen nhw'n gwnïo'r top a'r dilledyn lapio… ond y dyddiau hyn mae pobl sy'n priodi yn ei wnïo fel gŵn achos mae'n ddefnydd trwchus iawn, mae gen i un y defnyddiais i ar gyfer fy niolchgarwch, ar ôl i mi briodi defnyddiais ef ar gyfer fy niolchgarwch yn yr eglwys. Mae'n ddeunydd mawr a thrwm iawn, iawn, felly dyna ni, ac rydyn ni'n gwisgo gleiniau i ategu'r wisg.
11:30
C – PA MOR BWYSIG YW'R BWYD YN Y DIWYLLIANT?
Ein bwyd? Wel, mae gyda ni ddanteithion gwahanol yn fy ngwlad. Fel y dywedais i, mae gyda ni wahanol grwpiau ethnig yn fy ngwlad, felly mae ein bwyd yn wahanol, mae ein danteithion yn wahanol. Felly, mewn parti Yoruba, sef o le rydw i’n dod, o ran orllewinol Nigeria, mae ein bwyd ni'n wahanol i fwyd yr Igbos a'r Hausas. Felly pan ewch chi i barti Yoruba, rydych chi'n gweld gwahanol ddanteithion, megis blawd casafa lle mae wedi'i droi mewn dŵr poeth. Mae gyda ni iam curiedig, lle mae mewn breuan ac maen nhw'n defnyddio'r pestl i’w guro, ac mae gyda ni gawl gwahanol hefyd yn y llwyth Yoruba, mae gyda ni'r gwahanol lysiau rydyn ni'n eu defnyddio i fwyta'r bwyd solet. Maen nhw hefyd yn cael cawl mewn priodas Igbo a gwahanol fathau o fwyd, ond dydw i ddim yn gwybod am y cawl hwnnw achos dwi ddim yn dod o’r llwyth yna… ond o le dwi'n dod, sef y llwyth Yoruba, mae gyda ni wahanol fwyd, rydyn ni'n curo'r iam a’r egusi. Mae gyda ni àmàlà ac ewedu ac okra, a'r pryd cyffredinol a phoblogaidd rydyn ni'n ei fwyta mewn parti priodas yw'r reis jollof. A'r reis wedi'i ffrio. Felly, does dim un parti yn Nigeria sydd ddim yn gweini'r reis yma. Dyna pam mae'r reis jollof Nigeria yn bryd poblogaidd iawn, iawn.
13:46
C – A YW'N ANODD PARATOI BWYD NIGERAIDD TRADDODIADOL YNG NGHYMRU?
Wel nid yw'n anodd iawn. Ers i mi symud i'r DU, rydw i wedi bod yn bwyta fy mwyd, bwyd fy ngwlad, bwyd o Nigeria, oherwydd mae gyda ni siop Affricanaidd yma yng Nghymru, yng Nghaerdydd a hefyd yn Nhrefforest. Maen nhw'n gwerthu cynhwysion rydyn ni'n eu defnyddio, ac mae gyda ni hefyd y cyfle i'w prynu o'n gwlad ni a'u derbyn nhw drwy'r DHL, maen nhw'n eu danfon nhw. Neu os oes gyda ni berthynas o’n gwlad ni yma, wyddoch chi, rydyn ni fel cymuned. Rydyn ni'n helpu ein gilydd, wyddoch chi, os bydd rhywun yn teithio o'n gwlad ni, Nigeria, rydyn ni'n gofyn iddyn nhw ein helpu ni i ddod â'r cynhwysion, y bwyd, draw. Felly nid yw'n anodd iawn paratoi’r bwyd yma. Fel y dywedais i, nid wyf yn gwybod sut i wneud dim un pryd Prydeinig. Felly rydw i wedi bod yn bwyta fy mhrydau traddodiadol, sydd ddim yn anodd ac mae'n iawn i mi, ie.
15:18
C – BETH YW'R GWAHANIAETH MWYAF RHWNG NIGERIA A DE CYMRU?
Y gwahaniaeth mwyaf rhwng Nigeria a De Cymru neu a ddylen ni ddweud y gwahaniaeth mwyaf rhwng Nigeria a'r Deyrnas Unedig? Mae gwahaniaeth mawr, o ran diogelwch. Mae'n wahanol, mae adloniant hefyd yn wahanol, gadewch i mi sôn am y byd adloniant. Mae'n wahanol oherwydd yn ein gwlad ni, Nigeria, rydyn ni'n hoffi adloniant. A dydw i ddim wedi gweld llawer o hynny yng Nghymru, dim sioeau, dim pobl yn dod ynghyd i fynd i sioeau, a dydw i ddim yn gwybod sut maen nhw'n dathlu priodasau yma. Hefyd, dydw i ddim yn gwybod sut maen nhw'n dathlu penblwyddi yma. Yn ysgol fy merch, maen nhw wedi gwahodd fy merch i rai partïon pen-blwydd ac rydw i'n gweld sut maen nhw'n dathlu penblwyddi, ond mae partïon pen-blwydd yn wahanol yn fy ngwlad i, mae gyda chi brydau gwahanol, gwahanol ddanteithion. Wel, mae modd i chi gynnal y parti pen-blwydd yn eich tŷ, ond y rhan fwyaf o'r amser rwyf wedi gweld eu bod yn llogi ystafell, sydd ddim yn ddrwg, mae'n iawn, ond mae'n wahanol iawn ac mae'r math o adloniant yn wahanol. A hefyd, mae cyfnod y Nadolig yn wahanol iawn, iawn hefyd. Yn fy ngwlad i, yn ystod unrhyw ŵyl, neu ddathliad y Nadolig, y Pasg neu'r flwyddyn newydd, rydyn ni'n dod at ein gilydd, wyddoch chi? Mae teulu yn gymuned. Mae’n amser i gael hwyl a bod yn llawen a threulio amser gyda theulu dydych chi heb eu gweld ers tro, mae pawb yn dod at ei gilydd. Rydych chi'n dod ynghyd a chael hwyl. Ond mae'n wahanol yma. Roeddwn i'n gweithio ar Nos Galan. Byddwn i ddim yn gweithio ar Nos Galan yn fy ngwlad i. Rydych chi'n cael parti ac yn cael hwyl. Felly, mae cyfnod y Nadolig yn Nigeria yn wahanol iawn i Gymru.
18:58
C – FELLY, A YW'R WLAD GYFAN YN CAU I LAWR YN YSTOD CYFNOD Y NADOLIG A'R FLWYDDYN NEWYDD?
Pan fyddwn ni'n dathlu gŵyl fel y Nadolig, bydd y Llywodraeth yn datgan gwyliau cyhoeddus. Mae gyda ni wyliau cyhoeddus ar gyfer hynny, sef amser i gael hwyl gyda'ch teulu. Mae'n amser i fod yn llawen, mae'n amser i deithio, dod at ein gilydd, ein cymuned, a wyddoch chi, mae llawer o goginio. Mewn gwirionedd, byddai modd i chi fynd i'r tŷ drws nesaf a bydden nhw'n cynnig bwyd i chi. Mae fel cymuned ac mae'n wyliau cyhoeddus. Wyddoch chi, mae modd i'r Llywodraeth roi dau ddiwrnod o wyliau cyhoeddus, dim gwaith, 2 i 3 diwrnod o beidio mynd i'r gwaith, fel yna mae wedi bod erioed. Ond yma, rydych chi'n mynd i'r gwaith ar y diwrnod cyntaf, yr ail ddiwrnod ac ar ddiwrnod yr ŵyl, felly mae'n wahanol iawn.
20:05
C – FELLY DYW'R SIOPAU DDIM AR AGOR AR WYLIAU CYHOEDDUS?
Felly, ar wyliau cyhoeddus nid yw'r cwmnïau preifat na chyhoeddus ar agor. Ond os ydych chi'n hunangyflogedig a bod gyda chi siop, mae modd i chi ei hagor... efallai eich bod chi eisiau agor, efallai bod gyda chi bobl sydd eisiau prynu rhywbeth gennych chi, prynu rhywbeth i chi, ond nid yw fel petai'r Llywodraeth a'r sector preifat ar agor. Maen nhw'n rhoi gwyliau cyhoeddus i'w staff fel nad ydyn nhw'n mynd i'r gwaith. Hefyd, mae'r Llywodraeth bob amser yn cael ei chau i lawr...dydyn nhw ddim yn mynd i'r gwaith o gwbl.
20:56
C – YDYCH CHI'N GWELD EISIAU UNRHYW BETH O NIGERIA?
Ydw i'n gweld eisiau unrhyw beth o Nigeria? Ydw, rydw i yn. Rydw i'n gweld eisiau’r tywydd, mae'r tywydd yn Nigeria yn wahanol i fan hyn. Ond dim fi wnaeth greu'r byd, mae'n oer. Felly rydw i'n gweld eisiau'r tywydd yn Nigeria. Rydw i'n gweld eisiau'r sŵn yn Nigeria hefyd. Mae'n ddistaw iawn yma, wyddoch chi. Rydw i'n gweld eisiau'r ddrama yn Nigeria, rydych chi'n gweld llawer o bethau yn Nigeria. Rydw i'n gweld eisiau'r ddrama, rydw i'n gweld eisiau'r tywydd. A hefyd, beth rydw i'n ei gweld eisiau am fy ngwlad? Rydw i'n gweld eisiau fy nheulu hefyd. Ie, dyna yw'r peth pwysicaf. Dyna'r peth pwysicaf, rydw i'n gweld eisiau fy nheulu. Rydw i'n gweld eisiau fy mrodyr a chwiorydd, mae gen i frodyr a chwiorydd yma yn y DU, ac mae fy mam yma yn y DU oherwydd daeth hi yma i ddathlu gyda mi, ond mae hi dal am fynd yn ôl adref i fy ngwlad. Felly, ie, rydw i'n gweld eisiau fy ffrindiau, rhai o fy ffrindiau, mae rhai ohonyn nhw'n byw yn y DU hefyd, felly... rydw i'n gweld eisiau fy nheulu a'r tywydd.
22:24
C – PA FATH O SYNAU YDYCH CHI'N EU CAEL YN NIGERIA?
Wyddoch chi nid yw bob amser yn ddistaw – sŵn, plant o gwmpas...cerddoriaeth wyddoch chi, rydych chi'n gwrando ar gerddoriaeth, mae modd i chi gweld bar draw acw, ac nid yw fel pe bai'n peri pryder. Mae pawb yn hapus, ac felly ie, dyna beth rydw i'n gweld eu heisiau.
22:56
C – PA DDRAMÂU YDYCH CHI'N EU CAEL?
Dramâu, wyddoch chi, mae modd i chi fod yn rhywle, gallwch chi fod yn cwrdd rhywun ac yn ceisio gwneud rhywbeth yna byddech chi’n gweld plentyn yn ceisio dringo rhywbeth, dramâu gwahanol. Fel y dywedais i, does dim modd i mi ddewis un, mae gwahanol bethau'n digwydd yn Nigeria. Dyna pam rydw i'n gweld eisiau'r lle. Ie.
23:41
C – YDYCH CHI'N GWYBOD PWY YW JAY-JAY OKOCHA?
O ydw, rydw i'n gwybod pwy yw e. Rydw i'n adnabod Jay-Jay Okocha. Mae'n bêl-droediwr ond mae wedi ymddeol nawr felly... [CYFWELYDD: FE YW UN O FY FFEFRYNNAU]. Wel, dydw i ddim yn ei adnabod yn bersonol. Mae'n ffigwr cyhoeddus, ond rydw i'n ei adnabod fel pêl-droediwr.
23:56
C – YDYCH CHI'N HOFFI UNRHYW DIMAU PÊL-DROED?
Timau pêl-droed, wel, rydw i'n cefnogi tîm Chelsea ond nid yw fel petawn i'n gwybod llawer am y peth, dim ond pan maen nhw'n chwarae a byddaf yn dweud wrth fy ngŵr “O, Chelsea sy'n chwarae?" O, iawn, rydw i eisiau i ni ennill. Nid yw fel pe bawn i'n cefnogi Chelsea'n frwd. Unrhyw gwestiwn eto?
24:41
C – A OES GYDA CHI HOFF CHWARAEWR CHELSEA?
Fel y dywedais i, dydw i ddim yn adnabod y chwaraewyr! Galla i ddim dweud llawer mwy am hynny.
24:53
C – GALLECH CHI DDISGRIFIO PARTI PLANT NODWEDDIADOL YN NIGERIA? DYWEDOCH CHI EU BOD NHW'N WAHANOL IAWN I'R PARTÏON YN Y DU.
O ie, mae gyda chi lawer o weithgareddau yn y parti pen-blwydd. Iawn, gadewch i mi egluro. Gadewch i mi roi senario i chi o gêm mewn parti pen-blwydd plant. Felly efallai bydd pum cadair, pump i chwe chadair, yn dibynnu ar y gofod lle rydych chi'n cynnal y parti, beth am i ni ddweud bod gyda chi chwe chadair ac mae gyda chi saith o blant yn dawnsio o gwmpas y gadair, ac mae rhywun yn rheoli'r gerddoriaeth, felly pan fydd y gerddoriaeth yn stopio, bydd y plentyn sydd ddim yn eistedd ar gadair yn gadael y gêm. A wyddoch chi, mae gyda ni emosiynau gwahanol, bydd rhai o'r plant yn crio, a bydd fel “aww.” Digwyddodd i mi un tro, roeddwn i'n chwarae'r gêm mewn parti pen-blwydd a nes i ddim eistedd i lawr pan stopiodd y gerddoriaeth, doeddwn i ddim yn gallu cael sedd. Roeddwn i'n crio. Ond gêm ydyw, felly mae'n un o'r pethau nad ydw i wedi'i weld o'r blaen, dydw i heb ei weld mewn unrhyw barti pen-blwydd y mae fy merch wedi'i mynychu. Yn fy ngwlad i, mae'r rhan fwyaf o rieni, fel y dywedais, yn llogi parc ar gyfer partïon pen-blwydd, lle mae'r plant i gyd yn chwarae gyda'i gilydd, ond nid oes gyda nhw'r gweithgareddau hwyliog yma fel yng Nghymru. Felly, wyddoch chi, oherwydd eu bod nhw’n cael eu cynnal mewn neuadd, mae gyda nhw'r offer i lawr ar gyfer y plant. Felly mae'r plant yn dweud, “o, dwi’n mynd ar y siglen,” felly maen nhw’n mynd ar siglen, neu “dwi’n mynd ar y castell neidio”. Felly, fel y dywedais, dyna un o'r gemau rydyn ni'n chwarae, dyna un o'r gweithgareddau sydd gyda ni mewn partïon pen-blwydd yn Nigeria, ac rydyn ni hefyd yn cynnal cystadleuaeth ddawnsio lle mae gyda chi wahanol blant yn dawnsio a’r gynulleidfa yw'r rhai sy'n beirniadu... “Ai fe/hi yw'r enillydd?". Maen nhw'n dweud 'ie' neu 'na', ac os mai’r ateb yw ‘na’, yna mae’r person allan o'r gêm a bydd y gweddill yn parhau i ddawnsio nes byddan nhw'n cyrraedd y diwedd... mae'r amser yn mynd yn gyflym ac mae'n llawer o hwyl. Felly dyna’r drefn yn Nigeria, hyd yn oed mewn partïon priodas hefyd. Mae yna lawer o weithgareddau mewn priodasau rydyn ni'n eu gwneud hefyd, er enghraifft, mae’r gŵr a’r wraig yn eistedd ac mae'r gweision a'r morwynion yn gofyn cwestiynau megis, ai’r gŵr neu’r wraig sy’n gwybod sut i goginio orau? Yna maen nhw'n penderfynu ac yn symud at y wraig neu'r gŵr. Ac, wyddoch chi, mae llawer o weithgareddau, mae pobl yn chwerthin, maen nhw'n cael hwyl mewn priodasau ac maen nhw'n dawnsio hefyd.
DIWEDD