00:05
C - DYWEDWCH YCHYDIG AMDANOCH CHI EICH HUN.
Iawn, fy enw i yw Chika. Cefais fy magu yn ardal wledig Nigeria, ac roedd fy addysg a'm hysgol waddoledig a’r cyfan i gyd yn digwydd mewn rhan eithaf gwledig o Nigeria. Roedd fy ffordd o fyw yn un teithiol mewn gwirionedd, oherwydd yn sgil swydd fy nhad roedden ni'n teithio o le i le. Felly roedd modd i fi ennill rhywfaint to wybodaeth, wyddoch chi, yn y broses o wneud hynny. Ond roedd y rhan helaeth o fy mhlentyndod yn ardal Yoruba o Nigeria.
00:47
C - BETH FYDDAI DIWRNOD ARFEROL, FEL PLENTYN YN TYFU I FYNY YN NIGERIA WLEDIG?
Wel, y peth am ardal wledig Nigeria ydy, bryd hynny, cefais i fy ngeni yn yr 80au, felly, bryd hynny doedd dim llawer o foderneiddio, felly byddai diwrnod arferol yn cynnwys deffro, rhoi bath i'ch plentyn oherwydd rydyn ni'n hoffi ymolchi'n gynnar yn y bore, felly rydyn ni'n gwybod bod hynna wedi'i wneud wedyn. Felly deffro, rhoi bath i'ch plentyn, ei bwydo, ac yna mae gweddill y diwrnod ar ôl gyda chi a phwy bynnag arall sydd yno, iawn? Felly oherwydd, fel i bawb sôn, mae'n beth fwy cymunedol yn Nigeria, felly mae gyda chi fodrybedd o hyd, a chefndryd o hyd, mae pawb yno o hyd. Felly beth bynnag sy'n digwydd drwy gydol y dydd, falle byddwch chi, wyddoch chi, falle bydd rhywun yn eich cario chi o'ch tŷ chi i'w tŷ nhw. Bydd eich mam yn dweud, cedwais i fy merch heddiw, mae hi yn nhŷ'r person yma a dyna ni, does neb yn dweud dim. Felly dyna sut mae hi. Yna o ran mynd i'r ysgol, mae modd i chi fynd i'r ysgol, gall eich mam fynd â chi i'r ysgol a rhywun arall yn dod â chi yn ôl. Mae modd i rywun arall fynd â chi i'r ysgol a rhywun arall yn dod â chi yn ôl, felly dyna sut mae hi.
01:55
C - DYWEDOCH CHI EICH BOD CHI'N SYMUD O GWMPAS LLAWER, BETH OEDD Y RHESWM AM HYNNY?
Do, fe wnes i symud o gwmpas llawer. Iawn, mae fy nhad yn swyddog heddlu ac yn Nigeria, wyddwn i ddim a ydy hyn yn digwydd fan hyn, wyddwn i ddim a ydych chi'n gwasanaethu mewn lle penodol drwy gydol eich gyrfa, ond nid felly mae hi yn Nigeria. Maen nhw'n eich symud chi o le i le, yn enwedig os, wyddoch chi, y nepotiaeth yma, mae'n beth mawr, mae'n ddiwylliant drwg mawr sydd wedi bwyta'n ddwfn i'r system yn Nigeria. Felly, os nad ydych chi'n adnabod unrhyw un sy'n adnabod unrhyw un, mae ar ben arnoch chi. Felly maen nhw'n parhau i'ch symud chi i'r lle gwaethaf, byddan nhw'n eich cymryd chi, efallai eich bod chi yn y swydd yma a bydd rhywun yn dweud iawn, yn y swydd yma, efallai ei fod yn neud yn dda, rhywbeth felly. Efallai y bydd rhywun yn ysgrifennu adroddiad neu rywbeth felly, ac yna wwwsh, rydych chi'n cael eich symud i rywle gwaeth na hynny. Felly roedd fy nhad yn cadw symud o gwmpas a phethau felly. Felly bryd hynny roedden ni'n ei ddilyn a dyna sut wnaethon ni barhau i fyw felly.
02:47
C – PA RAN O DDIWYLLIANT NIGERIA SYDD FWYAF PWYSIG I CHI?
Iawn, mae cymaint o rannau o ddiwylliant Nigeria, ond y rhan dwi'n ei hoffi fwyaf, sydd fwyaf pwysig i fi, yw'r defodau traddodiadol. Rydw i wrth fy modd â phopeth yn ymwneud â defodau traddodiadol Nigeria yn yr ystyr, megis priodi, claddu, popeth, pob seremoni, mae yna ddefod draddodiadol i berfformio, ac os oes defod draddodiadol i berfformio, mae yna rywbeth i fwyta, mae yna rywbeth i'w elwa, rhywbeth i'w ddysgu hyd yn oed... Iawn, fe welais i neges trydar rhyw ddydd, lle dywedodd rhywun os ydych chi am wybod am hanes eich bywyd, ewch i ble maen nhw'n gwneud defod draddodiadol i berson marw efallai, dyna lle rydych chi'n dod i wybod eich hanes bywyd. Nawr yr hyn mae'r person yn ceisio ei ddweud yw, o'r lle rydw i'n dod o yn Igboland, dywedwch fod rhywun yn cael ei gladdu, iawn, ac ar ôl y claddu, mae yna rywbeth maen nhw'n ei wneud. Y mab cyntaf neu'r ferch gyntaf, neu efallai'r teulu yng nghyfraith, rydych chi fod i roi rhywbeth tuag at y gladdedigaeth, a'r hyn rydych chi i fod i'w roi, fel arfer, buwch fydd hynny. Iawn, ar ôl y claddu, weithiau maen nhw'n cael eu gadael... yn dibynnu ar sawl menyw sydd gyda chi yn y tŷ, os oes gyda chi 5, mae gyda chi 5 buwch, pethau felly, yna maen nhw'n cael ei rannu. Mae sut y caiff y peth ei rannu yn seiliedig ar ba unai oedd eich mam yn briod yn draddodiadol neu fod eich plant yn briod yn draddodiadol. Nawr, petai eich mam heb fod yn briod yn draddodiadol, oherwydd yn Igboland maen nhw'n gwneud y peth yma o ble dwi'n dod, fe ddigwyddodd yn rhywle yn fy llinach, fy nhad-cu - oherwydd... fe oedd unig fab ei fam... cyn iddo ddod i oed fe briodon nhw rywun iddo. Nawr, nid fe oedd tad y plant mewn gwirionedd, nid fe oedd wedi eu cenhedlu, y wraig a genhedlodd y plant hynny y tu allan ond maen nhw'n cael eu hystyried yn blant iddo gan eu bod nhw wedi priodi yn ei enw. Nawr, os dydych chi ddim am deimlo embaras, peidiwch â mynd i ble maen nhw efallai yn ymwneud â defodau traddodiadol. Felly'r rheswm i'r person rannu'r neges dwi'n credu, os ewch chi yno, efallai eu bod nhw wedi rhannu pethau a'ch bod chi'n mynd yno a dweud, iawn, fy nghyfran i yw hwn. Bydd rhywun o fanna yn dweud wrthoch chi sut y priododd eich mam, pwy a gysgodd gyda'ch mam, sut cawsoch chi eich geni, felly mae hynna'n fater dim gobaith. Dyna pam dwi'n dweud eich bod chi'n cael dysgu rhywbeth, dyna pam dwi'n dweud mai'r rhan am ddefodau traddodiadol yw'r hyn dwi'n ei garu fwyaf am fy niwylliant.
05:18
C - FE WNAETHOCH CHI SÔN YCHYDIG AM Y BWYD, OES MODD I CHI DDWEUD WRTHON NI PA FATH O FWYD FYDDECH CHI'N EI GAEL MEWN CLADDEDIGAETH NEU BRIODAS?
Yn Igboland, mae'r rhan fwyaf o'n bwyd wedi'i eplesu. Hynny yw, cewch eu cadw am isafswm o dri diwrnod i un wythnos. Yna pan mae wedi'i eplesu, mae modd i ni neud cymaint o bethau ag ef. Yn fy lle i, ein prif fwyd, rydyn ni'n ei alw'n elba neu akwa, ond 'swallow' yw e, sef rhywbeth dydyn ni ddim yn ei gnoi. Rydyn ni'n cymryd mowld ohono, ei dowcio yn ein cawl ac yna'n ei lyncu... Os, yn ystod claddedigaeth neu hyd yn oed mewn priodas, os na chaiff hyn ei weini, mae fel petai eich bod chi heb ddechrau. Dydy reis yn golygu dim lle rydyn ni'n dod o, dydy bara'n ddim, dydy golwyth yn ddim. Rhaid i chi weini 'swallow' er mwyn iddyn nhw wybod eich bod chi wedi gwneud rhywbeth mewn gwirionedd. Felly dyna sut beth yw ein bwyd.
06:18
C - BETH FYDDECH CHI'N EI WNEUD AM HWYL?
Yn Nigeria? Iawn, fel i fi sôn yn gynharach, y peth hwyl am, yn enwedig gwrywod, y plant gwryw yn Nigeria, maen nhw'n caru pêl-droed. Ond y menywod, rydyn ni'n caru dawnsio. Dawnsio... ydy, mae'n rhan o'n diwylliant ni, ond eto mae'n rhywbeth rydyn ni'n ei wneud am hwyl ac yn rhywbeth rydyn ni'n ei ddefnyddio i fynegi ein hunain. Yna rydyn ni'n gwneud rhywbeth byddech chi efallai'n ei alw'n gwisgo lan, neu bethau felly. Rydyn ni'n hoffi, wyddoch chi, yn enwedig pan rydyn ni'n ifanc, rydyn ni'n gweld ein mamau'n clymu 'wrappers' a phethau felly, ac rydyn ni'n ceisio dychmygu, iawn, sut olwg fydd arna i pan fydda i'n cyrraedd y cyfnod yna, felly rydyn ni'n hoffi gwneud hynna. Dechreuais i ei wneud yn gynnar, wyddoch chi, fe wnes i fe i'r graddau fy mod i wedi'i wisgo allan un dydd. Roedd fy nhad mor hapus, meddai fe, ie, rwyt ti'n edrych yn dda, byddai dy ŵr yn falch ohonot ti... Roedd fy mam yn chwerthin. A dweud y gwir fe wnaeth fy nhad gael set o ddillad i fi, i fi yn unig i'w gwisgo, dywedodd e fy mod i'n edrych yn dda ynddyn nhw a pham roeddwn i'n edrych yn dda ynddyn nhw? Roeddwn i'n dewgrwn, ie. Yn Nigeria rydyn ni'n hoffi pobl dewgrwn. Roeddwn i'n dewgrwn iawn bryd hynny, felly roedd fy nhad yn hapus. Pan ddechreuais i dyfu lan, wyddoch chi, erbyn fy niwrnodau yn y brifysgol dechreuais i gadw llygad ar fy mhwysau a phethau felly. Os ydw i'n cerdded allan fel hyn, byddai fy nhad yn ochneidio ac ochneidio a dweud, mae'n fy ngalw i'n 'baby', "baby, beth sydd wedi digwydd?". Dwi'n cadw llygad ar fy mhwysau mewn gwirionedd, dwi'n ceisio bod yn iachus, dwi'n ceisio edrych yn dda ac mae'n gofyn beth sydd wedi digwydd. Roeddet ti'n arfer bod yn well, roeddet ti'n fwy ffein [CHWERTHIN]. Felly dyna sut mae hi.
07:56
Mae dawnsiau Nigeraidd yn bennaf, fe ddechreuon ni gyda llên gwerin. Llên gwerin yw ein caneuon yn bennaf, lle cawn ddweud ein straeon gyda'n caneuon, wyddoch chi, yn enwedig y pethau sydd wedi digwydd o'r blaen, maen nhw'n dueddol o'u trosglwyddo i'r genhedlaeth iau drwy ganeuon. Mae cymaint o'r rheiny gyda ni a'r dawnsio hefyd. Mae'r rhan fwyaf o'n dawnsiau ni'n rai dawnsio chwarae ar y cyfan, wyddoch chi, ac fe gewch chi gynrychioli beth bynnag sy'n cael ei ganu, rydych chi'n dawnsio ac yn ei gynrychioli, pethau felly. Yna dechreuon ni esblygu i ddawns Afrobeat a hip-hop a phethau felly, felly dyna sut daethon ni ati. Ond y math o ddawnsio mwyaf o'r lle dwi'n dod, mae'n ymwneud a llên gwerin, iawn, ac rydyn ni'n gwisgo'n gwisg frodorol lle rydyn ni'n gwisgo un dilledyn 'wrapper' a rhywbeth fel bodis. Nid top yw hi, ond darn o ddilledyn 'wrapper' i'w glymu o'ch cwmpas a phethau felly. Ac yna mae gyda ni freichledi rydyn ni'n eu gwisgo ar ein traed a'n dwylo... maen nhw'n gwneud rhyw fath o sŵn ratlo, maen nhw'n ei alw'n 'rattles' dwi'n credu. Felly rydyn ni'n gwisgo hwnna ac yna gyda phob cam rydyn ni'n ei gymryd, mae sŵn yn cyd-fynd â phob cam. Yn niwylliant Igbo, iawn, maen nhw'n gwneud y peth yma, yn enwedig os mai gwryw ydych chi, gwryw o Igbo ac os ydych chi'n rhan o'r teulu brenhinol, iawn, i ddewis gwraig, maen nhw'n ei wneud trwy ddawnsio. Felly maen nhw'n trefnu achlysur ac yn galw'r morynion i ddod i ddawnsio, a phethau felly. Felly mae sut y byddech chi'n dawnsio yn gwneud i’r gwryw, neu'n ei bryfocio, i'ch dewis chi, ac ati. Felly pan rydyn ni'n dawnsio, rydyn ni'n dawnsio gyda'n corff, rydyn ni'n teimlo'r rhythm, rydyn ni'n troi pob rhan o'n hunain i roi gwybod i'r gwryw, iawn, dyma beth rydw i'n gallu ei wneud. Felly mae'n fath o ddawnsio pryfoclyd oherwydd mae'n rhaid i chi ddangos i'r gwryw, dwi go iawn yn gallu troi'r holl bethau yma, pethau felly.
09:45
C - BETH YDYCH CHI'N EI HOFFI FWYAF AM FYW YN NE CYMRU?
Yn gyntaf oll oherwydd y ffordd y cefais i fy magu... mewn gwirionedd roeddwn i'n byw'r math o fywyd roedd fy rhieni eisiau i mi ei fyw. Felly roedd dod yma'n eithaf rhyddhaol i fi, oherwydd dyma'r tro cyntaf i fi gael bod yn fi fy hun yn fy ffordd fy hun. Oherwydd hyd yn oed yr oedran yma yn ôl yn Nigeria, rydw i'n dal i fyw'r ffordd mae fy rhieni eisiau i mi fyw ar yr oedran yma. Weithiau rydw i'n meddwl... ychydig flynyddoedd yn ôl, roeddwn i'n briod yn barod, es i adref i weld fy nhad a digwyddodd rhywbeth, fe wnaeth fy nhad bron â fy nharo fi. Mae ganddo'r hawl i wneud hynny. Iawn, y rheswm i fi son am hynny yw yn fan hyn, rydw i'n gweld, wyddoch chi, bod rhaid pethau rydw i'n eu gwneud ac rydw i'n gofyn i fy hunan, ble mae fy nhad? Pethau felly. Hyd yn oed fy chwaer iau, roedden ni'n siarad un diwrnod... mae fy chwaer iau yn aros yma, mae hi yn Llundain, dywedais i rywbeth ac meddai hi "rwyt ti'n lwcus nad yw fy nhad o gwmpas". Felly rydw i'n credu mai'r peth dwi'n ei garu fwyaf am aros yn Ne Cymru yw'r ffaith bod gen i fy rhyddid. Dwi'n cael bod yn fi fy hun, y ffordd dwi eisiau bod yn fi fy hun.
10:18
C - OES UNRHYW BETH RYDYCH CHI'N EI GOLLI AM NIGERIA?
Oes, rydw i'n colli cymaint o bethau am Nigeria. Yn gyntaf oll, dwi wedi synnu fy mod i'n colli hwn, ond dwi wir yn ei golli, sef y ffermio, iawn? Mae yna reswm pam mae'r gwyrdd yn ein baner, oherwydd mae'n cynrychioli amaethyddiaeth am ei fod yn rhan fawr ohonon ni. Cyn i'r olew crai a phetrolewm ddod, amaethyddiaeth oedd ein prif beth, dyna oedd y rhan cryfaf o'n cynnyrch domestig gros. Felly, ym mhob cartref yn Igboland, mae gyda chi'ch fferm... mae yna adegau pan fyddwch chi'n mynd i ffermio, byddaf i'n treulio wythnos. Yna rydyn ni'n gosod pabell ac yn aros yno, a phethau felly. O ble dwi'n dod, caiff ein bwyd ei gynhyrchu o'r fferm i'r geg. Felly dwi'n credu mai dyna rydw i'n ei golli fwyaf, y ffaith fy mod i'n cael trin y tir, cael y peth yma, ei brosesu, ei wneud, ac yna mae'n troi mewn i'r hyn rydw i'n ei fwyta. Dyna rydw i'n ei golli fwyaf.
11:15
C - BETH YW'R UN PRYD BWYD SY'N GWNEUD I CHI FEDDWL AM ADREF, YR YDYCH CHI'N EI WNEUD YN NE CYMRU I FEDDWL 'DWI'N COLLI NIGERIA'?
Iawn, cawl yw hwnnw. Mae gyda ni wahanol fathau o gawl, mae gyda ni cymaint ohonyn nhw â ffynonellau di-ri. Mae'r 'egusi' yn un cyffredin ac mae honna, rydyn ni wedi cael pobl yn ei werthu fan hyn. Ond mae un arbennig yma, dwi'n dod o Igbo, mae fy nhad o Igbo ond nid Igbo ydy fy mam. Mae fy mam yn dod o ran wahanol o Nigeria a dydy hi ddim yn siarad Igbo. Felly mae yna gawl maen nhw'n ei wneud o'u hochr nhw, ac os wnaf i'r cawl hwnnw fan hyn, bydd yr arogl ar draws yr holl barc yma. Dyna un pryd bwyd dwi'n ei golli cymaint. Dyna un pryd bwyd dwi'n ei golli cymaint.
11:59
C - BETH YW CYNHWYSION Y CAWL?
Iawn, maen nhw'n galw'r dail yn 'atama', dwi ddim yn meddwl bod enw Saesneg iddo, maen nhw'n galw'r ddeilen yn 'atama', a dyna sy'n rhoi'r arogl hwnnw mewn gwirionedd, mae'n arogl cryf iawn. Dydw i ddim yn gwybod sut y daethon nhw at y dail yma, ond maen nhw'n ei gael o ran tîc y goedwig, dydy e ddim yn rhywbeth sy'n tyfu ar ei ben ei hun. Ie, felly mae'n dod o'r rhan tîc, mae helwyr yn enwedig yn bobl sydd fel arfer yn ei gael. Dydw i ddim yn gwybod o ble y cafodd yr arogl yna. Felly enw'r ddeilen ydy 'atama', yna rydyn ni'n defnyddio rhywbeth o'r enw 'waterleaf', mae rhai pobl fan hyn yn ei alw'n sbigoglys, ond dwi ddim yn meddwl mai sbigoglys yw e. Felly 'waterleaf', 'atama', cawl llysiau yn bennaf. Mae gyda ni ddigonedd o'r ddau yma, ac yna mae popeth arall, wyddoch chi, rydyn ni'n bwyta llawer o bysgod. Felly mae gyda ni bysgod sych, mae gyda ni god sychion, mae gyda ni bysgod ffres, unrhyw fath o bysgod. Yna rydyn ni'n gwneud y cig eidion, y cimwch a'r holl bethau yma. Felly dyna'i brif gynhwysion.
12:58
C - FE WNES DI SÔN FOD DY FAM A DY DAD YN DOD O LWYTHAU GWAHANOL O NIGERIA, YDY HYNNY'N ANARFEROL?
Iawn, ers talwm roedd yn anarferol iawn. Roedd yn anarferol iawn. Fe wnaeth fy mam, pan briododd hi fy nhad, fe wnaeth hi ei chael hi'n anodd oherwydd, yn enwedig yn Igboland, mae disgwyl arnoch chi i briodi Igbo a chadw'r diwylliant ac ati. Ond rydw i'n meddwl oherwydd swydd fy nhad, gan eu bod nhw'n ei anfon o le i le, fe ddechreuodd e gwrdd â phobl a dyna sut y gwnaeth gwrdd â fy mam. Ac, i'w wneud yn fwy anodd, i'w wneud cryn dipyn yn fwy anodd i fy mam, roedd plentyn gan fy mam eisoes cyn i fy nhad gwrdd â hi. Felly doedd e, na, doedd e'n ddim. Oherwydd hynna, doedd dim priodas. Dwi'n meddwl fy mod i wedi graddio o'r brifysgol cyn iddyn nhw gael eu priodas, do. Felly oherwydd hynna doedd dim priodas gan fod pawb yn ei erbyn ac ati. Felly bydd fy mam yn dweud wrthon ni pan fydd hi'n dod adre, a wyddoch chi, gan fod fy nhad yn symud o gwmpas, y math arferol o goginio yn Nigeria yw coed tân, yn enwedig yn fy rhan i. Dwi'n meddwl ei fod yn digwydd i bob person arall ond o ble rydyn ni'n dod, coed tân sydd. Felly, gan fod fy nhad wedi bod yn symud o le i le, gwelodd nwy, gwelodd stôf. Felly pan briodon nhw, prynodd fy nhad nwy a dod ag ef i'r pentref, iawn, felly dyma hi'n coginio ag ef. Mae gyda ni'r olew yma rydyn ni'n ei wneud, olew palmwydd, a chydag olew palmwydd does dim modd i chi ddefnyddio nwy oherwydd mae'n eistedd ar y tân am oriau, iawn... ac mae'r sosban yn eithaf llydan, felly dydw i ddim wedi gweld unrhyw fath o nwy mae modd i chi osod y peth yna arno mewn gwirionedd. Felly pan roedd fy mam eisiau gwneud y peth yma, aeth allan i weld perthynas fy nhad a gofyn, oes modd i chi roi benthyg hwn neu'r llall i fi, a dyma nhw'n dweud "Na, rwyt ti'n coginio gyda nwy, cer i goginio ag ef. Wyt ti wedi gweld unrhyw un yn coginio gyda nwy fan hyn? Cer i goginio ag ef." Felly dyma'r math o elyniaeth y wynebodd hi pan ddaeth hi i'r tŷ am y tro cyntaf, ond rydyn ni gyd wedi tyfu lan bellach a, wyddoch chi, mae moderneiddio wedi dod, mae pawb yn esblygu, felly rydyn ni bellach yn cael ein derbyn. Hyd yn oed nawr... o'n herwydd ni, mae nifer ohonyn nhw'n mynd i briodi'r tu allan. Felly rydych chi'n gweld hynny. [CYFWELYDD - ARLOESWYR]. Ie, arloeswyr, diolch yn fawr.
00:15:17
C - 'SWALLOW', BETH YW HYNNY?
Nawr te... ar ôl ei brosesu mae'r cynnyrch terfynol yn dod allan fel powdwr. Gadewch i fi egluro gyda cheirch, ceirch arferol... defnyddiwch gymysgydd sych i'w gymysgu'n bowdwr, ychwanegwch ychydig o ddŵr i'w droi'n bast.. Yna rydych chi'n ei roi ar y tân a pharhau i'w droi nes iddo droi'n does. Ie, a phan fydd yn trio'n hydrin fel toes, rydyn ni'n ei gymryd allan, a dyna pryd mae'n barod. Rydyn ni'n cymryd, mae'n dibynnu ar y person, mae gan bawb ei faint arferol ei hunan, nid yw'r un maint i bawb. Felly rydych chi'n torri'r maint rydych chi'n gwybod mae modd i chi ei lyncu... mae'n dechrau o'r ffordd y cawsoch chi'r magu oherwydd mewn rhai tai, maen nhw'n dechrau rhoi maint mwy i'r plant, mwy iddyn nhw, hynny yw, felly mae'r plant hynny'n tyfu lan yn bwyta rhai mwy. Felly mae rhai yn dechrau gyda maint bach, mae modd i chi weld rhywun yn llyncu rhywbeth mor fawr â fy llaw fel hyn, ie.
16:24
C - OES YNA ERIOED GYSTADLEUAETH I WELD PWY ALL LYNCU'R MWYAF?
[CHWERTHIN] Dydy e ddim yn gystadleuaeth mewn gwirionedd hyd nes eich bod chi'n bwyta gyda phobl sy'n bwyta'n gyflym, dyna pryd rydych chi'n gwybod eich bod chi'n cystadlu am eich bywyd. [CHWERTHIN].