00:05
C – DYWEDWCH YCHYDIG AMDANOCH CHI EICH HUN.
Iawn, fy enw i yw Oluwatosin Kadiri. Rydw i'n briod ac mae gen i dri o blant. Rydw i'n hanu o'r diwylliant mwyaf cyfoethog yn Nigeria, yr Iorwbaid, ac mae gen i radd o Brifysgol De Cymru. Mae gen i radd meistr mewn Rheolaeth ac rydw i'n byw yma yng Nghymru.
00:28
SUT BETH OEDD CAEL DY FAGU YN NIGERIA?
Ie, mae cael dy fagu yn Nigeria yn ddiddorol iawn, iawn. Lle mae gyda chi deuluoedd o'ch cwmpas, eich brodyr a chwiorydd, eich anwyliaid. Mae'n ddiddorol iawn. Mae gyda ni lawer o bethau rydyn ni'n eu gwneud yno. Rydyn ni'n mynd allan am bicnics. Mae byw yn Nigeria yn wych a dweud y gwir.
00:49
DISGRIFIWCH EICH TREF GARTREF NEU EICH PENTREF YN NIGERIA.
Ie, fel y dywedais yn gynharach, rydw i'n hanu o un o'r diwylliannau mwyaf cyfoethog yn Nigeria. Eu henw yw 'Yorubaland'. Mae llawer o bethau rydyn ni'n eu gwneud, rydyn ni'n hoffi parti. A dweud y gwir, fy nhref enedigol yw Talaith Obu, Jebu i fod yn hollol gywir. Felly, rydyn ni wrth ein boddau gyda phartïon ac rydyn ni'n eu gwneud nhw'n lliwgar iawn. Ie, os ewch chi ar y rhyngrwyd a chwilio am 'Jebu', fe welwch chi...mae yna amser penodol o'r flwyddyn, rydyn ni'n ei alw'n y Ojude Oba, lle mae pawb o gartref ac o dramor yn dod adref i ddathlu, i gyfarch y brenin. Felly lle bynnag ydych chi yn y byd, rhaid i chi ddod adref. Yna byddwn ni'n gwisgo dillad gwahanol, mae gyda ni'r 'aso oke'. Mae'r aso oke o'r llwyth Iorwba, megis yr un rydw i'n ei roi ymlaen. Mae gyda ni liwiau gwahanol ac mae bob amser yn brydferth iawn. Rydyn ni'n defnyddio dilledyn lapio, yna blows a gele (defnydd lapio'r pen). Felly mae gyda ni rai lliwiau gwahanol, gleiniau, wyddoch chi, rydyn ni'n gwisgo'n lliwgar ac yn gwneud yr achlysur yn un lliwgar. Dyna o le rydw i'n dod.
02:02
C – PA FIS O'R FLWYDDYN MAE HWNNW’N DIGWYDD?
O'r flwyddyn? Mis Ebrill, yn debyg i gyfnod y Pasg, ie, dyna pryd mae'n cael ei gynnal.
02:12
C – A YW HYN YN WAHANOL I'R DDAWNS FASGIAU?
Ydy. Felly yn fy mhentref i... os oes gyda chi deitlau awdurdodol, rhaid i chi ddod adref, mae gyda ni'r 'Rhyfelwyr', mae gyda ni'r 'Brenhinwyr', mae gyda ni lawer iawn o deitlau awdurdodol, mae pawb yn dod adref. Mae gyda ni'r marchogion, cymaint o rai gwahanol. Mae rhai ohonyn nhw'n dod gyda mwynau, rhai yn dod gyda gwn, rhai dim ond gyda'i deitl awdurdodol. Rydych chi'n dod ac yna mae pawb yn mynd i gyfarch y brenin. Felly rhaid i chi ddod gyda'ch teulu. Felly er mwyn gwahaniaethu rhwng pob teulu, rhaid i chi ddod mewn lliwiau gwahanol. Felly, does neb eisiau dod yn yr un lliw felly rhaid i chi ddod yn eich dillad gorau, yn eich gwisg orau. Felly dyna pam mae bob amser yn lliwgar. Rydyn ni’n ei gynnal ar dir agored, mae am fod mor fawr â hyn. Felly mae pawb yn eistedd yn unol â'u teitl awdurdodol. Yna rydych chi'n mynd un ar ôl y llall i gyfarch y brenin. Felly os ydw i'n mynd, efallai fy mod i'n rhan o'r teulu ‘Rhyfelwyr’, rydw i'n mynd i gyfarch y brenin, a bydd pob aelod o fy nheulu, fy ffrindiau a fy anwyliaid yn dod gyda mi, ond rhaid i ni fod mewn gwisg. Yna rydyn ni'n mynd, weithiau mae gyda ni'r gynffon ceffyl, weithiau mae rhai yn mynd gyda'r ceffyl, y rheiny sydd â theitl awdurdodol gwahanol.
03:26
C – FELLY AI DYNA FRENIN Y LLWYTH?
Fel y dywedais i, rydw i o'r taleithiau Ogun, felly yn y taleithiau Ogun, mae gyda ni'r Jebus a'r Egbas... ond mae'r achlysur penodol yma'n cael ei gynnal gan y Jebus. Felly pan fyddwn ni'n mynd... yn fy nhref i... rydyn ni'n ei gynnal tri diwrnod ar ôl cyfnod dathlu'r Mwslemiaid. Felly yn fy nhref fy hun mae gyda ni’r Ddawns Fasgiau rydyn ni'n ei wneud yn ystod cyfnod y Pasg ... mae gyda nhw Ddawns Fasgiau gwahanol, yna ar ddiwrnod arbennig byddwn ni'n trefnu i bawb ddod allan o'u hardaloedd gwledig i fynd i gyfarch y brenin. Felly dyna sut rydyn ni'n ei wneud. Felly, mae gyda ni bentref arbennig sydd fel prifddinas, fel dinas o bob ardal fach wledig, felly mae pawb yn dod yno i gyfarch y brenin.
04:21
C – FELLY PAN DDYWEDOCH CHI FOD GYDA CHI FARCHOGION A RHYFELWYR, AI DYNA'R ROLAU Y MAEN NHW'N EI CHWARAE YN YR ŴYL NEU'R RÔL Y MAEN NHW'N EI CHWARAE YN Y GYMDEITHAS?
Fel y Rhyfelwyr, fel y dywedais, os ydych chi'n dod o deulu'r Rhyfelwyr, weithiau pan fydd rhyfel, mae person penodol bob amser yn arwain y garfan. Yna weithiau mae gyda ni bobl sydd, wyddoch chi, yn gorseddu'r brenin, mae gyda ni'r Brenhinwyr, felly maen nhw'n dod o deulu penodol hefyd. Mae gyda ni hefyd y marchogion, sef y bobl a fydd yn dod gyda'r ceffyl i gyfarch y brenin. Felly bydden nhw'n gwisgo'r ceffyl ac yn dod ar eu pennau eu hunain. Felly dyna beth yw'r gwahanol deitlau awdurdodol.
05:03
C – DYWEDWCH WRTHYF AM DDAWNS DRADDODIADOL NIGERIA.
Fel y dywedais i, rydw i'n hanu o ddiwylliant Iorwba. Rydyn ni'n gwisgo fel hyn, a welsoch chi'r drwm siarad [GWELER CYFWELIAD GYDA AGBOLA BABATUNDE TIMOTHY]? Roedd yn gwisgo'r math yma o aso oke ond mewn lliw gwahanol. Mae gyda ni ein steil dawns ein hunain, rydyn ni’n ei alw’n ‘bata’. Rhaid i chi gyfrif gyda’ch coesau, byddai'r drwm siarad yn gwneud sŵn, yna rydych chi'n dawnsio yn ôl sŵn y drwm siarad. Mae'r drwm siarad yn gwneud sŵn, rydych chi'n dawnsio ac rydych chi'n dawnsio i'r sŵn y mae'r drwm yn ei wneud. Felly dyna'r diwylliant o le rydw i'n dod. Felly, mae ein dawns ni'n wahanol i'r diwylliant arall. Mae gyda ni wahanol ddiwylliannau yn Nigeria, ond o le rydw i'n dod, rydyn ni'n dawnsio gyda'r drwm siarad.
05:47
C – A YW'R DDAWNS YN UN SY'N CAEL EI GWNEUD YN Y FAN A'R LLE? A YW'R DRWM SIARAD YN CHWARAE RHYWBETH AC RYDYCH CHI'N EI DDILYN?
Ie, weithiau. Mae'n dibynnu os ydych chi'n dawnsio i'r ddawns ddiwylliannol mewn gwirionedd, rhaid i chi wrando ar y sŵn mae'r drwm siarad yn ei wneud neu mae'n debyg yn ei ganu ac mae'r drymiau siarad yn curo i'r gân honno. Felly dyna sut mae'n gweithio.
06:07
C – A YW'N NEWID BOB TRO RYDYCH CHI'N EI WNEUD?
Ie, mae'n newid, os ydw i'n newid y gân, mae'r curiadau'n newid.
06:15
C – BETH YDYCH CHI'N EI GOLLI FWYAF AM NIGERIA?
Rydw i'n colli'r parti, ie. Rydw i'n colli’r partïon. Bob dydd Sadwrn, rhaid cael parti. Yn enwedig o le rydw i'n dod, rhaid cael parti. Ie. Mae fy niwylliant i'n gyfoethog iawn. Felly rhaid cael parti bob dydd Sadwrn. Os nad oes parti, mae rhywbeth o'i le. Ie, felly rydw i'n colli'r holl bartïon. Rydw i'n colli reis jolof, dyna ein bwyd cyffredin. Rydw i'n colli reis jolof. Yna mae gyda ni iaith gyffredin hefyd, rydyn ni'n ei galw'n 'iaith doredig', felly dyna pam os yw rywun o Nigeria yn dweud "hafa now?" yn yr iaith Nigeraidd [cyfarchiad achlysurol yn Saesneg ‘toredig’ Nigeria sy’n golygu “pa mor bell?”], mae’n gyffredin iawn yn ein plith, felly dyna’r iaith gyffredin sy’n clymu pawb gyda’i gilydd. Ie. Rydw i'n colli'r pethau hynny i gyd.
06:57
C – BETH YW REIS JOLOF?
Reis pupur yw reis jolof. Mae'n reis coch, oren...Mae'n edrych fel y byddai'n boeth iawn, ond mae'n dibynnu sut rydych chi'n ei baratoi.
07:11
C – O BLE MAE'R LLIW YN DOD FELLY?
Ie, o’r pupurau, pupur bonet, tomatos, mae’r… [llysiau] ie, felly dyna o le mae’n dod, dyna o le mae’r lliwiau’n dod. Wedyn mae gyda ni’r tomatos tun…rydych chi'n ei alw'n past, felly, dwi’n defnyddio past, os ydych chi'n defnyddio past mae’r lliw yn fwy dwfn. Ie, rydyn ni'n ei gwneud past cyflym a phersonol, felly os ydych chi'n defnyddio'r past mae'r lliw yn dod i mewn, ie. Past tomato [CHWERTHIN]
07:37
C – OES MODD I CHI DDISGRIFIO PARTI DYDD SADWRN NODWEDDIADOL?
Ooh [CHWERTHIN], rydych chi angen mynychu parti Iorwba Nigeraidd. Dyma beth sy'n digwydd, gadewch i mi ddefnyddio priodas fel enghraifft… Yn fy niwylliant i, os nad yw eich hen daid wedi'i gladdu, a does dim parti wedi’i gynnal... os bydd eich tad yn marw, does dim modd i chi ei gladdu. Rhaid i chi gladdu eich hen daid, rhaid i chi gynnal parti. A dyma sut mae'n gweithio, mae'r plant yn dod at ei gilydd, mae gan y plant yr un wisg, mae bob amser yn lliwgar, felly mae dillad y plant bob amser yn wahanol i'r gwesteion ... felly rydyn ni'n dewis deunydd penodol ac rydych chi'n ei werthu i bobl, mae pobl yn ei brynu â chariad, gwahanol arddulliau ac felly... os ydw i'n gwahodd fy ffrindiau gallaf benderfynu dewis deunydd penodol. Os yw fy chwaer yn gwahodd ei ffrindiau, dyna pryd mae'n mynd yn lliwgar. Felly os fydd fy chwaer yn gwahodd ei ffrindiau, bydd hi'n dewis deunydd arall. Felly, pan fyddwn ni'n cyrraedd, gan ei fod ar fod yn faes agored, mae modd i mi adnabod fy ngwesteion, ac mae modd iddi hi adnabod ei gwesteion. Ydych chi'n deall sut mae'n gweithio? Dyna pam ei fod bob amser yn lliwgar... bydd fy ffrindiau'n dod a fyddan nhw ddim yn cael lle i eistedd neu mae'n debyg fydden nhw ddim yn cael unrhyw beth i'w fwyta gan fy mod i'n brysur gyda gweithgareddau. Felly rydyn ni'n gwahaniaethu gwesteion pawb gyda'r deunydd. Felly mae'n ei wneud yn fwy lliwgar a phrydferth. Yna, mae'r bwyd yn rhad ac am ddim. Mae gyda ni fwydydd gwahanol... byddwn ni'n paratoi bwyd ar gyfer y teulu cyfan. Yna byddaf yn gwneud paratoadau ar gyfer bwyd i fy ffrindiau [meic yn gwneud sŵn], rhag ofn na fydd bwyd y teulu yn ddigon, felly bydd gormodedd o fwyd, bydd digon o fwyd i bawb ei fwyta. Felly dyna sut mae'n gweithio.
09:39
C – PA MOR BWYSIG YW'R BWYD YN NIWYLLIANT NIGERIA?
Mae'n bwysig oherwydd os ydych chi'n fy ngwahodd i barti, a dydw i ddim yn bwyta unrhyw beth, y tro nesaf byddwch chi'n fy ngwahodd i, efallai na fyddaf i’n dod i’r parti. Felly mae bwyd yn bwysig iawn mewn parti yn Nigeria, oherwydd byddwch chi'n dweud “O, des i i'ch parti a chefais i ddim byd i'w fwyta, na, na, na, na, dydw i ddim yn dod y tro nesaf.” Felly rydyn ni bob amser yn gwneud yn siŵr bod digon o fwyd, a dyna pam mae gyda ni'r deunyddiau gwahanol. Rhaid i mi adnabod fy ngwestai, rhaid i chi adnabod eich gwesteion fel bod modd i mi fodloni pawb.
10:11
C – BETH YW EICH HOFF BETH AM FYW YNG NGHYMRU?
Wel, mae'r bobl yn garedig. Rydw i'n byw yn Nhonypandy, rydw i wedi teithio trwy Dreorci, y Cymoedd, a llawer o leoedd eraill, mae'r bobl yn garedig. A dweud y gwir, pan roeddwn i'n symud o Nigeria, roedd fy ngweinidog yn arfer bod yn feddyg, ac rwy'n meddwl ei fod wedi gweithio fel meddyg yma o'r blaen, felly pan ddywedais wrtho fy mod yn symud i Dde Cymru, dywedodd ei fod yn lle hyfryd a bod y bobl yno'n garedig, a wyddoch chi, ni chefais fy siomi. Ie.
10:46
C – BETH YDYCH CHI’N EI HOFFI LLEIAF AM FYW YNG NGHYMRU?
Byw yng Nghymru neu yn y Deyrnas Unedig, dydw i ddim yn gwybod, y tywydd mae'n debyg. Y tywydd oherwydd mae gyda ni dymor i bob tywydd. Rydyn ni'n cael haul a glaw. Yma, does dim modd i mi adael y tŷ heb fynd ag ymbarél oherwydd does dim modd i mi ragweld beth fydd yn digwydd yn y ddwy funud nesaf. Ond yn fy ngwlad i, mae gyda ni dymor glawog, tymor sych, tymor braf a thymor 'Harmattan'. 'Harmattan' yw pan mae hi ychydig yn oer, ond byddai hi'n oer yn y bore ac erbyn y prynhawn byddai hi'n sych iawn. Ond pan fyddwch chi'n codi yn y bore, mae pob man yn oer iawn. Dyna'r unig amser rydyn ni'n profi oerfel. Mae hynny tua mis Rhagfyr.
11:51
C – SUT BETH YW FFASIWN YN NIGERIA?
Ffasiwn? O, rydyn ni wrth ein boddau â ffasiwn. Ie, ie, rydyn ni'n caru ffasiwn. Ie, rydyn ni'n caru ffasiwn. Rydyn ni'n caru ffasiwn.
12:08
C – PA IAITH SY'N CAEL EI SIARAD YN NIGERIA?
Rwy'n dod o’r llwythau Iorwba Nigeria, rydyn ni’n siarad yr iaith Iorwba. Dyna'r iaith rydyn ni'n ei siarad. Ie, wel, mae gyda ni iaith gyffredinol, sef bratiaith, lle mae pawb, fel fy ffrind sydd newydd adael y sedd nawr, os yw hi'n siarad iaith draddodiadol, ni allaf ddeall. Ie, dydw i ddim yn deall beth mae hi'n ei ddweud, ac os ydw i'n siarad fy iaith i, dyw hi ddim yn deall. Ond mae gyda ni iaith benodol sy'n ein huno, sef y fratiaith, y ffurf fwyaf syml o Saesneg y mae modd i bawb ei ddeall a chyfathrebu ynddi.
12:39
C – MAE FY NHAD YN NIGERAIDD, MAE'N HANU O'R LLWYTH IORWBA. RYDW I EISIAU DYSGU'R IAITH, YDYCH CHI'N GWYBOD AM UNRHYW BETH A FYDDAI'N HELPU GYDA HYNNY?
Ie, wel, fydd technoleg yn helpu. Ie, weithiau mae angen i chi ddefnyddio pethau fel Google a gofyn iddo ddweud wrthych chi sut i ddweud 'rydw i eisiau bwyd' yn yr iaith Iorwba. Yna, dylai dy dad...dylai ef ddysgu rhai pethau i ti, megis 'dere 'ma'. Felly dylai ef ddweud pethau wrthot ti megis "dere 'ma". ‘Wá’, yw 'dere',... ‘ma lọ’ yw ‘cer’. Mae modd i ti ddysgu'r pethau syml ganddo ef, 'jeun' yw 'bwyta', y geiriau syml megis 'dere' a 'cer'. Weithiau rydyn ni'n siarad fel ein bod ni'n ymladd, dyna ein tôn!
13:34
C – A YW PÊL-DROED YN RHAN BWYSIG O FYWYD NIGERIA?
O, mae'r pythefnos diwethaf neu un wythnos wedi bod yn ddramatig [GAN GYFEIRIO AT GWPAN CENHEDLOEDD AFFRICA 2023]. Ie, os ewch chi ar y rhyngrwyd, mae'n wallgof! Nes i roi'r gorau i wylio pêl-droed, yn enwedig pêl-droed Nigeraidd oherwydd roedd yn codi fy mhwysedd gwaed [CHWERTHIN]. Roedd ddoe yn...uhh! Oherwydd roedd pawb yn canu "Rydyn ni am ennill Cwpan y Byd! Ni yw cawr Affrica! Blah, blah. Curon ni Ghana, curon ni Dde Affrica!" Felly roedd pawb wedi'u gludo i'w teledu a gan fod Nigeriaid yn...beth alla i ei ddweud?... rydyn ni'n bobl greadigol iawn, mae gyda ni gymaint o bethau eisoes ar gyfryngau cymdeithasol i ddathlu'r diwrnod, ond yn anffodus daethon ni'n ail. Er gwaethaf hynny, bydd parti beth bynnag. [CHWERTHIN] Dyna un peth am Nigeria, bydd parti’n cael ei gynnal. Hyd yn oed os byddwn ni'n colli, bydd parti.
14:35
C – OES GYDA CHI HOFF CHWARAEWR PÊL-DROED?
Oes, ar hyn o bryd Victor Osimhen yw fy hoff chwaraewr.
14:46
C – YDYCH CHI'N GYFARWYDD Â JJ OKOCHA?
Wrth gwrs, ein seren. [CYFWELYDD – MAE'N BÊL-DROEDIWR DA] Ydy, da iawn. Ydy, da iawn.
00:14:56
C – PA OFFERYNNAU SY'N CAEL EU DEFNYDDIO YNG NGHERDDORIAETH DRADDODIADOL NIGERIA?
Ie, rydyn ni'n defnyddio Afro Beats. Rydyn ni'n cael ein hadnabod fel brenin yr Affro. Yn rhan o'r Afro Beats, rydyn ni'n defnyddio'r drwm siarad, y ffliwt, y jariau, y bysellfwrdd, llawer o bethau. Rydyn ni'n defnyddio'r gloch, fel y rhai traddodiadol, rydyn ni'n defnyddio'r gloch yma, rydyn ni'n defnyddio cymaint o bethau, mae gyda ni gymaint o offerynnau.
15:31
C – YDYCH CHI'N HOFFI'R BWYD YN Y DEYRNAS UNEDIG?
Bwyd? Ie, wel, does gen i ddim dewis gan fy mod i'n byw yma nawr, felly rhaid i mi ddysgu sut i'w fwyta. Ac mae gen i blant, ac yn amlwg mae'n rhaid iddyn nhw fwyta prydau yn yr ysgol...ond yr hyn rydw i'n dwlu arno yw tatws stwnsh a physgod. Ie, dyna fy ffefryn. Gyda grefi. Ie, dyna fy hoff bryd. Ie, tatws stwnsh. Yna dwi'n dwlu ar... os ydw i'n paratoi ffa pob, dwi ddim yn ei fwyta, ond os ydw i'n bwyta ffa pob y tu allan, mae bob amser yn wahanol ... rydw i'n dwlu ar ffa pob.
16:07
C – PA MOR AML YDYCH CHI'N PARATOI BWYD TRADDODIADOL?
Bob dydd, ie, rhaid i ni gael reis jollof, rhaid i ni fwyta'r cawl. Rydyn ni'n bwyta'r hyn rydyn ni'n ei alw'n gawl, rydyn ni'n cael okra, rydyn ni'n cael llysiau. Mae ein llysiau ni’n wahanol mewn gwirionedd, felly mae gyda ni lysiau, mae gyda ni saws cyffredin gyda reis. Rydyn ni'n bwyta reis wedi'i ffrio, reis jollof, bob dydd.
16:32
C – YDYCH CHI'N EI CHAEL HI'N ANODD DOD O HYD I'R CYNHWYSION?
Wel, gan fod mwy o Nigeriaid o gwmpas y lle nawr, mae ychydig yn haws. Mae siop fwyd Affricanaidd yn Nhrefforest, ac mae un ym Mhontypridd. Yn y gorffennol, roedd rhaid i ni fynd yr holl ffordd i Gaerdydd, ond mae pethau yn well erbyn hyn.