Prosiect Treftadaeth Nigeria

Gwyliwch 'Raji-Lawal Oluwakemi Saidat'

Trawsgrifiad

00:05

C - DYWEDWCH YCHYDIG AMDANOCH CHI EICH HUN.

Fy enw i yw Raji-Lawal Oluwakemi Saidat. Rydw i wedi priodi. Rydw i'n hanu o lwyth Yoruba, y llwyth mwyaf disglair a chyfoethog yn Nigeria. Rydyn ni'n 'swagalicious'. Symudais i Gymru yn 2003, gyda fy ngŵr, doedd gyda ni ddim plant eto. Rydw i’n gwneud fy ngradd meistr mewn Rheolaeth ym Mhrifysgol De Cymru ar hyn o bryd.

00:38

C - SUT BETH OEDD TYFU I FYNY YN NIGERIA?

Iawn, felly, byddwn i'n dweud fy mod i'n gymysgedd o'r ddau fyd. Rydw i'n Lagosiad, rydw i'n byw yn Lagos yn Nigeria, ond mewn gwirionedd rydw i'n dod o Osun States yn Nigeria. Gadewch imi ddweud, treuliais fy mhlentyndod, fel, nid y rhan fawr, dim ond ychydig o fy mhlentyndod yn Osun States ac yna'r rhan fawr yn Lagos. Yn Nhalaith Osun roedd yn eithaf hwyl, oherwydd bob dydd roedd rhywbeth newydd, mynd i'r fferm, coginio, chwarae gyda ... Roedd yn hwyl a dweud y gwir, wrth hel atgofion am y peth nawr, roedd yn hwyl. Ac wedyn symudon ni i Lagos ac roedd hi dal yn hwyl, ond dim cymaint â thyfu lan yn y pentref achos yn y pentref roeddech chi'n eithaf rhydd i wneud unrhyw beth, mynd i unrhyw le ac yna dod yn ôl yn hwyr yn y nos. Ond yn Lagos, oherwydd ei bod hi'n ddinas fawr, dydych chi ddim yn cael crwydro'n rhy bell o gartref, ond roedd yn ddiddorol, yn hwyl ac yn... gadewch i ni ddweud llawer o hwyl a diddorol.

01:50

C – NODWCH CHI FOD YMDEIMLAD MAWR O GYMUNED, DYWEDWCH YCHYDIG AM HYN.

Ie. Fel y dywedais, wrth dyfu i fyny...., gadewch i mi son am y pentref (?). Rydw i'n dod o ddinas fawr, nid pentref bach. Mae fy nhref enedigol yn Nhalaith Osun yn ddinas fawr. Ac mae pawb yn adnabod plant pawb arall. Mae pawb yn adnabod plant pawb arall. Dywedodd mam fy mod i wedi crwydro, roeddwn i'n eithaf ifanc, tua 2 neu 3 oed, a gadewais y tŷ. Es i mor bell â'r brif farchnad, ac roedd yn cymryd tuag awr i gerdded i'r brif farchnad o'n tŷ ni. Felly es i i'r brif farchnad ac roedden nhw'n edrych amdana i ym mhobman, “O, rydyn ni'n chwilio am Saida, rydyn ni'n chwilio am Saida.” Daeth newyddion i'r farchnad ac roedd rhywun fel, “Fe'i gwelais i hi yn y farchnad”, a dywedon nhw, “gadewch i ni fynd i'r farchnad”. Pan gyrhaeddon nhw'r farchnad, roeddwn i wedi cyrraedd Palas y Brenin. A daeth fy rhieni, fy mam atyn nhw a dywedodd “Rydw i'n edrych am fy mhlentyn”, dywedon nhw “rydyn ni'n gwybod mai dy blentyn di ydy hi”, meddai, “sut ydych chi'n gwybod?” Mae tebygrwydd yn ei hwyneb, mae'r 'ffisig' yno. Felly, “rydyn ni'n gwybod mai eich plentyn chi yw hi, y tro nesaf peidiwch â gadael iddi grwydro mor bell â hynny o gartref”. Felly mae'r ymdeimlad hwnnw o bawb yn adnabod plant pawb. Byddwch chi byth yn gwneud rhywbeth o'i le a hyd yn oed os byddwch chi'n tramgwyddo rhywun dydych chi ddim yn ei adnabod, bydd y person dydych chi ddim yn ei adnabod yn rhoi'r ddisgyblaeth honno ichi, oherwydd mae'n debygol o fod yn adnabod eich mam neu'ch tad, felly mae'r ymdeimlad hwnnw o gymuned, er nad hi yw fy mhlentyn, mae'n rhaid i mi ofalu amdani. Dydych chi byth yn newynog yn Nigeria, mae rhywun bob amser yn dod â rhywbeth at eich drws. Hyd yn oed pan fyddwch chi'n dweud, 'o, rydw i wedi cael digon', maen nhw bob amser yn dod. Felly, dwi’n gweld eisiau’r ymdeimlad yna o gymuned, yr ymdeimlad yna o, o, dwi wedi diflasu gartref, af i dŷ’r cymydog nesaf a ‘gist’ (term slang am glebran) am oriau. Rydw i'n gwybod yn bendant pan fyddaf i'n mynd yn ôl i'm tŷ, bydd hi'n rhoi rhywbeth i mi. Felly dyna'r bwyd. Dydw i ddim yn hoff o fwyd, ond yr ymdeimlad hwnnw o gael pobl o'ch cwmpas. Pan fyddwch chi'n isel eich ysbryd, mae gennych chi rywun i alw arnyn nhw a siarad am oriau. Pan dwi'n llwglyd, dwi'n gwybod os ydw i'n mynd i dŷ fy chwaer, Temi, mae hi'n mynd i goginio, felly yn bendant, does gen i ddim problem. Rydw i'n gwybod, ooh, does gen i ddim yr esgidiau yma, rydw i'n gwybod bod gan fy chwaer Temi bar, hyd yn oed os dydyn nhw ddim yn fy maint i, bydd hi'n rhoi hancesi papur yn y blaen, fel erbyn i mi roi fy nhraed, bydden nhw'n ffitio ar fy nhroed i (?). Mae rhywun bob amser yno i fi, dyna'r unig beth dwi'n ei golli, a'r tywydd.

04:26

C – DYWEDOCH CHI EICH BOD CHI'N DDYLUNYDD FFASIWN, YDYCH CHI'N DYLUNIO DILLAD NIGERAIDD YN BENNAF NEU YDYCH CHI'N GWNEUD YCHYDIG O BOPETH?

Ie, mae'n dibynnu ... mor bell yn ôl â'r 90au, dim ond dillad Nigeraidd oedden ni'n ei wneud. Ond wyddoch chi, dydy ffasiwn ddim yn aros yn ei unfan, mae'n esblygu ac wrth iddo esblygu mae'n rhaid i chi esblygu gyda fe. Nawr rydyn ni yn yr 20au ac rydyn ni'n gwnio ac yn gwneud popeth. Rydyn ni’n mynd o wneud gynau priodas i wneud gwisgoedd anffurfiol i wneud ‘owambe’, unrhyw beth cyn belled â’i fod yn beth rydych chi’n ei roi ar eich corff… waeth pa lwyth, pa wlad… rydyn ni’n ei wneud nawr. Rydw i'n rhedeg i ddal i fyny gyda nhw nawr oherwydd maen nhw wedi fy ngadael ymhell ar ôl, felly nawr dwi'n ceisio dal i fyny gyda nhw oherwydd mae ffasiwn yn Nigeria ymhell y tu hwnt i'r hyn rydyn ni'n ei feddwl nawr. Do, mae wedi ehangu'n fawr. Byddwch chi'n gweld dyluniad a byddwch chi'n dweud, 'dwi ddim yn credu mai rhywun o Nigeria a wnaeth hyn', ond mewn gwirionedd mae'n wir. Felly mae fel yna nawr.

05:37

C – ROEDDWN NI’N SIARAD AM BETHAU PRAWF TADOLAETH, ALLECH CHI SIARAD FWY AM HYNNY?

Iawn, fel y dywedais, mae pob cartref yn Nigeria, yn niwylliant Yoruba, ac yng ngweddill Nigeria oherwydd rydw i'n credu bod gan yr Igbos nhw hefyd, mae gan bob cartref ffordd, maen nhw'n profi i weld, oherwydd yn y gorffennol doedd dim profion DNA. Ac er ein bod ni'n hoffi cymryd arno nad oedd yn bodoli bryd hynny, mi roedd. Mae pobl yn chwarae o gwmpas ac yna mae'n rhaid cael ffordd i bob teulu ganfod a yw'r plentyn yma'n dod o'u cartref. O ble rydw i'n dod, Talaith Osun... mae gan bob talaith ei atyniad i dwristiaid. Yn Nhalaith Osun mae gyda ni afon enfawr, yr oedden ni'n credu oedd ... Daeth yr afon i fodolaeth yn yr hen amser... mae'n afon hynafol, felly os ydych chi'n frodor o Dalaith Osun.... Dywedodd fy mam wrtha i mai'r unig ffordd y byddan nhw'n profi os ydych chi wedi cael eich geni o'r hyn a ddywedwch, byddan nhw'n mynd â chi i'r afon. Mae yna beithon mawr yn yr afon, un enfawr. Mae'n rhaid i chi aros yn yr afon honno ac os dydych chi ddim yn ofnus a dydy'r peithon ddim yn dod allan, hyd yn oed os yw'n dod allan a dyw e ddim yn ymosod arnoch chi, mae'n cerdded o'ch cwmpas ac yna'n mynd yn ôl, yna mae'n cael ei gadarnhau eich bod chi'n blentyn cyfreithlon. Dydw i ddim yn credu ynddo ond traddodiad yw e. Ond yr hyn rydyn ni'n ei wneud yn bennaf yn fy nghartref fy hun yw, os cewch eich geni o fy nghartref, o'm compownd i, rydyn ni'n ei alw'n gompownd, compownd teuluol, mae yna ddefod rydyn ni'n ei wneud i gadarnhau tadolaeth y plentyn hwnnw, os yw'r plentyn hwnnw o'r cartref hwnnw mewn gwirionedd ac nid yn blentyn anghyfreithlon. Felly oherwydd does dim angen prawf tadolaeth arnaf i oherwydd rydw i'n edrych yn debyg iawn i fy nhad a mam. Rydw i'n gyfuniad o 'ffisig' ac wynebau mam a dad. Felly pa brawf tadolaeth sydd ei angen arnoch chi?

Felly cefais fy nerbyn fel hynny. Ond mae eraill yn gwneud, dydw i ddim yn gwybod sut maen nhw'n ei wneud, ond maen nhw'n ei wneud. Felly mae gan bob cartref ei ffordd ei hunan o brofi. Fel y dywedasom, mae'r Ijaws yn taflu eu plentyn yn yr afon. Os yw'r plentyn yn gallu goroesi am 10 munud, yn anadlu ar ôl 10 munud yna mae'n cael ei ystyried i fod yn blentyn cyfreithlon. Fel, Tunde, mae'n ddŵr ar y traed. Mae rhai'n profi drwy daflu dŵr yn nho’r tŷ ac yna bydd y fam yn cario’r plentyn ac yn rhedeg drwy’r dŵr hwnnw, 3 neu 4 gwaith i… Mae gan gartrefi gwahanol ddefodau gwahanol.

08:34

C – A ALLWCH CHI ESBONIO YCHYDIG AM Y FFAITH FOD GAN BOB TEULU O FEWN Y LLWYTH SGIL PENODOL?

Ie, yn yr hen ddyddiau pan oedd Affrica yn dal yn Affrica, nid oedd pawb eisiau bod yn ffermwr, nid oedd pawb eisiau bod yn ddrymiwr. Mae hynny'n rhywbeth rydych chi'n arbenigo ynddo. Mae gyda ni ffermwyr sy'n arbenigo mewn ffermio. Mae gyda ni bysgotwyr sy'n arbenigo mewn pysgota. Yn eu cartref eu hunain, yn eu compownd eu hunain, maen nhw'n gwybod popeth am wahanol fathau o bysgod yn yr afon, hyd yn oed y rhai dydych chi erioed wedi'u gweld o'r blaen. Mae'r drymwyr yn wych am guro eu drymiau. Mae gyda ni'r gwehyddion cotwm, maen nhw'n gwneud ein brethyn. Maen nhw'n arbenigwyr â gwehyddion cotwm. Felly, mae gan bob cartref arbenigedd ac yna pan fydd gennym ni fel achlysur neu gyfnod gŵyl, maen nhw i gyd yn dod at ei gilydd. Rydych chi'n dod â'r drwm, rydych chi'n dod â'r brethyn, rydych chi'n dod â'r bwyd, rydych chi'n dod â'r pysgod, mae pawb felly. Felly dyna pryd rydyn ni'n cynnal unrhyw ŵyl, nid yn y ddinas, yn y pentrefi, pan fydd pawb yn dod at ei gilydd, yn dod â gwahanol bethau o'r ... Os ydych chi i fyny o'r teulu brenhinol, rydych chi'n dod â mwclis, a'ch presenoldeb, eich brenhindod; os ydych chi o’r teulu sy’n gwneud gleiniau, rydyn ni’n eu galw nhw’n ‘edo’, maen nhw’n dod â mwclis lliwgar a hardd, felly mae pawb yn dod â rhywbeth at y bwrdd i bawb. Mae pawb yn dod at ei gilydd gan wneud yr achlysur yn fywiog iawn ac yn ddiddorol. Mae fel hynny. Yn fy rhan i o Dalaith Osun... mae [GAN GYFEIRIO AT AGBOOLA BABATUNDE TIMOTHY] o Dalaith Oyo, maen nhw'n drymio. Mae gennych chi eich arbenigedd ym mhob gwladwriaeth, ni waeth pa gartref rydych chi'n dod ohono. Yn Nhalaith Osun, mae gennyn ni ddrymwyr hefyd, maen nhw'n curo'r drymiau hefyd. Felly, mae gyda ni'r drymwyr, mae gyda ni gantorion, maen nhw'n canu yn eu cartrefi eu hunain. Mae gyda ni frenin-ganmolwyr. Mae eu teulu yn canmol y brenin, dydyn nhw ddim yn gwneud dim byd arall. Os bydd un yn marw, rydych chi'n mynd at y teulu hwnnw ac yn dod ag un arall. Dyna fel mae hi. Felly mae gan bob cartref ei arbenigedd.

11:04

C – BETH YW EICH HOFF RAN O'CH DIWYLLIANT?

Fy hoff ran o fy niwylliant yw'r parch. Os ydych chi… fel y dywedodd Esther [GAN GYFEIRIO AT ESTHER SUNDAY], yr Hausas, os ydyn nhw am eich cyfarch, does dim angen iddyn nhw ymostwng neu benlinio, maen nhw'n eich cyfarch chi, yr Igbos hefyd. Os ydych chi'n fenyw Yoruba wedi'ch geni a'ch magu neu'n blentyn Iorwba, hyd yn oed os dydy'r person ddim yn dod o'ch diwylliant chi, fel sydd wedi dod yn arferiad nawr, hyd yn oed yn y gwaith nawr pan rydw i yng Nghymru ac mae fy rheolwr yn dweud, “Saidat”, dwi'n mynd fel “Ma”. Mae hi wedi gofyn "Beth yw Ma?". Ond mae hynny oherwydd ... dyna beth rydyn ni wedi ein dysgu i wneud. Mae'n rhaid i chi ddangos parch pwy bynnag ydych chi, hyd yn oed os yw'r person yn hŷn na chi o ddwy eiliad. Os ydych chi'n efeilliaid, rydych chi'n cael eich geni yr un diwrnod, yr un amser ond rydych chi 2 eiliad ar wahân mae'n rhaid i chi barchu'ch efaill o hyd. Felly y parch sy'n bwysig i mi. Unrhyw le rydw i'n mynd, os ydw i am eich cyrraedd, os dydw i ddim wedi gwneud fel hyn, dyw e ddim yn dangos fy mod yn eich parchu chi. Mae'n rhaid i chi barchu ... dyna'r peth mwyaf diddorol rydw i'n ei hoffi am ddiwylliant Yoruba, parch.

12:19

C – OS YDYN NI'N MYND YN ÔL I'R FFASIWN, DILLAD, ALLWCH CHI DDWEUD WRTHON NI AM BETH RYDYCH CHI'N EI WISGO HEDDIW?

Iawn, felly oherwydd fy mod i'n Fwslim, mae'n rhaid i mi gael fy ngorchuddio bob amser, felly dyna pam rydw i bob amser wedi gorchuddio fy mhen... Dwi'n Fwslim ffasiynol, dyna pam rydw i fel hyn. Pe na bawn i'r math ffasiynol o Fwslim, yna byddaf i'n cael fy ngorchuddio o fy mhen i'm traed. Felly, fe wnes i hyn fy hun. Fe wnes i, cefais y brethyn o... Print Affricanaidd yw e, rydyn ni'n ei alw'n brint Affricanaidd, fe'i gwnes i fy hun... Fe wnes i'r patrwm, gwnïo popeth a dod ag ef yn fyw fy hun. Felly… roeddwn i'n meddwl gwisgo crys ond roeddwn i eisiau iddo fod ychydig yn fwy anffurfiol, felly es i gyda'r stop (?) yma a'r siaced yma. Ac yna, wrth gwrs, rydw i'n ei gwblhau gyda sgarff ar fy mhen. Mae gen i sgidiau neis hefyd... dwi'n modelu be dwi'n neud. Nôl adref yn Nigeria dwi'n gwneud popeth dwi'n gwisgo... Mae parti bob dydd Sadwrn yn Nigeria. Felly dwi bob amser yn brysur o ddydd Llun i ddydd Gwener yn gwneud dillad parti i bawb… Os ydych chi eisiau gwybod pwy yw dylunydd ffasiwn mewn parti yn Nigeria, nid yw eu dillad bob amser yn grand, oherwydd maen nhw'n gwneud eu dillad y funud olaf, jest yn gwneud rhywbeth ac yna'n mynd. Rydw i bob amser yn brysur ... Pan gyrhaeddais yma, roedd angen rhywbeth i'm cadw i'n brysur, beth am i mi wneud hyn. Rydw i’n dal i chwilio am siop frethyn yng Nghwm Rhondda lle gallaf fynd i gael mwy o frethyn, oherwydd i ddweud y gwir dydw i ddim yn gyfforddus iawn yn gwisgo dillad arferol, felly mae’n rhaid i mi wisgo rhywbeth rydw i’n ei wneud fy hun. Dyna'r unig beth sy'n fy nghadw i'n gall yma. Pan rydw i dan straen, neu pan fydd popeth arall yn fy mhoeni, ar ôl i mi eistedd y tu ôl i'm peiriant gwnïo, mae'r straen yn mynd. Ie. [CYFWELYDD – AC RYDYCH CHI'N EDRYCH YN WYCH]. Diolch. [CHWERTHIN].