Yn Nhymor yr Hydref 2023, cymerodd grŵp o bobl ifainc o Ysgol Llanhari ran yn her Diwygio Delweddau er mwyn dod yn 'Dditectifs Hanes'. Treuliodd y bobl ifainc wythnosau yn ymchwilio i hanes yr ysgol, y pentref cyfagos a gwreiddiau addysg Gymraeg gan ddatblygu nifer o sgiliau creu ffilmiau, gan gynnwys sgiliau cyfweld, golygu ac animeiddio. Mae'r grŵp wedi cynhyrchu ffilm hwyl, diddorol a difyr sy'n dathlu hanes a threftadaeth Ysgol Llanhari, oedd yn dathlu ei phen-blwydd yn hanner cant yn 2024.