Adrian Emmett - The Lion

Dechreuodd Adrian ei yrfa lwyddiannus yn y diwydiant lletygarwch mewn tafarndai a chlybiau nos mewn dinasoedd ledled Lloegr, cyn dychwelyd adref i Gwm Rhondda yn 2011 i ddod yn landlord ar dafarn The Lion. Mae'r Lion, oedd wedi'i restru'n westy masnachol mor bell yn ôl â 1881, wedi bod yn eiddo i lawer o wahanol fragdai ac mae nifer o landlordiaid gwahanol wedi bod yn gyfrifol amdani, ond mae’n bosibl dweud nad yw’r un ohonyn nhw wedi chwarae rhan mor amlwg yn y gymuned ag Adrian. Yn ei eiriau ef, mae’r dafarn “wrth galon y gymuned. Rydyn ni wedi colli ein heglwysi, ein clybiau ieuenctid a'n clybiau cymdeithasol – felly mae gan dafarn ran enfawr i’w chwarae.” Ers i Adrian gymryd y llyw, mae'r Lion wedi ennill gwobrau am y Bar Chwaraeon Gorau a’r Dafarn Gymunedol Orau yn y Great British Pub Awards.

Gwrandewch ar 'Adrian Emmett - The Lion'

Trawsgrifiad

“Rydw i’n meddwl bod gan dafarndai rôl bwysig iawn i’w chwarae yn ein cymunedau. Dwi’n meddwl bod y Lion wedi profi hynny yn ardal Treorci. Dwi wedi gweld beth sydd wedi digwydd i bobl pan gaewyd y tafarndai yn ystod y cyfyngiadau symud. Yn ystod y cyfyngiadau roedd y dafarn yn ffon fesur, 'Ydy'r tafarndai ar gau? Rydyn ni mewn trafferth. Mae'r tafarndai ar agor, rydyn ni'n iawn.' Roedden ni wedi anghofio pa mor bwysig yw tafarndai. Cafodd pob safle bws yn y cymoedd ei enwi ar ôl tafarn, roedden nhw'n rhan bwysig iawn o’n cymuned... Dyma lle rydych chi'n cynnal eich cyfarfodydd, dyma lle rydych chi'n mynd ar ôl y gwaith. Mae modd i dafarn wirioneddol dda mewn cymuned drawsnewid y gymuned honno mewn modd sy’n wahanol i unrhyw fusnes arall.”