Allan Jones - Maindy Heating

Ganed Allan Jones yn Stryd William, Tynewydd, ym 1941, a gadawodd Ysgol Uwchradd Fodern Treorci yn y 1950au a sicrhau prentisiaeth fel plymwr a pheiriannydd gwresogi yng Nghaerdydd. Arweiniodd hyn at waith ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Bryste, cyn i Allan sefydlu ei fusnes ei hun. Hinsawdd economaidd anodd y cyfnod a arweiniodd Allan a'i wraig, Janice, i newid cyfeiriad annisgwyl yn eu bywyd gwaith.

Gwrandewch ar 'Allan Jones - Maindy Heating'

Trawsgrifiad

“1974 oedd streic gyntaf y glowyr pan gwympodd llywodraeth Ted Heath. Aeth y streic ymlaen am ryw flwyddyn dwi'n credu. Dyma oedd y ‘gaeaf o anfodlonrwydd’ a doedd pethau ddim yn dda. Roedden ni'n cael trafferth gyda'r busnes... Felly cafodd fy mhartner syniad gwych. Dywedodd, ‘Beth am agor siop haearnwerthwr?’ Dywedais, ‘Plymwyr ydyn ni, nid haearnwerthwyr!’ A dywedodd, ‘Does dim ots, o leiaf bydd gyda ni drosiant arian parod.’ Felly dyna beth wnaethom ni. Fe wnaethon ni agor y siop yn rhif 7 y Stryd Fawr i ddechrau. Yna roedd angen safle mwy, felly symudon ni i rif 106 lle rydyn ni ar hyn o bryd... Aeth Jan i weithio yn y siop ac roedd hi’n lwyddiant ysgubol, chwarae teg iddi, a threuliodd... ryw 25-30 mlynedd yno. A dyna sut sefydlodd y siop ei hun a chafodd ei datblygu yn siop haearnwerthwr.”