Elaine Bowen - Polikoff's

Yn debyg iawn i nifer o fenywod ifainc eraill Cwm Rhondda yn dilyn y rhyfel, dechreuodd Elaine ei bywyd gwaith yn ffatri Polikoff pan oedd hi yn ei harddegau yn y 1960au. Sefydlwyd y ffatri ddillad yn Ynys-wen ym 1939 a chyflogodd miloedd o bobl o'r ardal leol dros y blynyddoedd. Roedd hefyd yn darparu achlysuron cymdeithasol ar gyfer y gymuned ehangach, gan gynnwys dawnsfeydd rheolaidd yn y Clwb Polikoff, Pentre; ac ar lawr y ffatri blodeuodd llawer o berthnasau newydd – cyfarfu Elaine â’i chariad cyntaf yno. Ail-hyfforddodd Elaine fel nyrs yn ei 40au, ond yn ei geiriau ei hun, ffatri Polikoff a “roddodd fy annibyniaeth i mi ac fe agorodd fy mywyd.”

Gwrandewch ar 'Elaine Bowen - Polikoff's'

Trawsgrifiad

“Roeddwn i newydd adael yr ysgol, yn neidio i'r byd mawr. Roedd yn fyd mawr. Roedd i fyny fanna, yr holl ffordd i fyny fanna! Doeddwn i erioed wedi bod i Dreorci yn fy mywyd. Tonypandy oedd ein hwb ni. Doedd pobl ddim yn teithio cymaint, felly roedd hynny ychydig yn frawychus... Ond roedd Polikoff's yn trefnu bysiau. Bysiau deulawr. Roedd angen maes parcio enfawr gan ei bod hi mor fawr. Byddai’r bysiau hyn yn dod o’r Maerdy, bydden nhw'n dod o Gwm Clydach ac o Gilfach, bydden nhw'n dod o Flaenrhondda – o bob rhan o’r Rhondda Fach a’r Rhondda Fawr... Felly treulion ni chwe wythnos yn cael ein hyfforddi dwi’n meddwl ac roedden ni’n arfer mynd i’r ffreutur fawr am ginio a bydden ni’n edrych – ‘Mae mor fawr!’ Ac wedyn byddai rhywun yn dweud ‘Dwi’n mynd allan heddiw!’... Felly byddwch chi'n mynd i lawr y ffatri ac roedd yn enfawr! Roedd yn anferth! Rhesi a rhesi a rhesi o beiriannau gwnïo.”