Frank Williams - Victoria Motorways

Cafodd Frank ei eni a’i fagu yn Nhreorci yn ystod y 1940au. Daeth yn fecanig moduron yn dilyn prentisiaeth saith mlynedd yn Hutchings, Ton Pentre, ac yn yrrwr bws i'w gwmni ei hun, Victoria Motorways, sy’n cael ei adnabod yn lleol fel Williams' Buses, am 25 o flynyddoedd. Sefydlwyd y busnes, gafodd ei enwi er anrhydedd i’r Frenhines Fictoria, ar droad yr ugeinfed ganrif gan ei dad-cu, oedd hefyd o'r enw Frank.

Gwrandewch ar 'Frank Williams - Victoria Motorways'

Trawsgrifiad

“Fy nhad-cu ddechreuodd y busnes a’i enw oedd Frank Williams. Ces i fy enwi ar ôl fy nhad-cu ac roedden nhw bob amser yn fy ngalw’n ‘Little Frank’. Roedd yn ddyn rhyfeddol – cyn gryffed â cheffyl!... Gwelais ef un diwrnod yn gweithio yn y garej a llithrodd y jac ac fe aeth o dan y bws a'i godi gyda'i ysgwydd a gosod jac oddi tanno! Allwn i ddim credu hynny! Ef oedd y dyn cryfaf a welais erioed… Fy hoff fws oedd... roedd gan fy nhad-cu 'Fin'. Roedd yn cael ei alw'n Fin oherwydd roedd ganddo gynffon pysgodyn ar y cefn ac roedd yn fws 33 sedd Harlington… Roedd injan 600 Leyland ynddo! A gallai fynd i fyny'r Bwlch yn y gêr uchaf!”