Cafodd Linda Williams (Lewis gynt) ei geni yng Nghwm-parc. Gadawodd Linda yr ysgol yn 15 oed ym 1960 a daeth o hyd i waith mewn lleoedd fel Boots ac EMI yn Nhreorci. Ym 1974, hyfforddodd Linda i fod yn hyfforddwr gyrru a dechreuodd weithio yng nghwmni ei brawd Barry, Park School of Motoring. Fe wnaeth hyblygrwydd y swydd helpu Linda i ffitio ei gwaith i mewn gyda bywyd teuluol a’i galluogi i gymryd busnes ei brawd drosodd a sefydlu cwmni Linda Williams School of Motoring ym 1984. Dysgodd Linda gannoedd o bobl i yrru dros yrfa o 36 mlynedd.