Marcelle Chiplin - Polikoff's ac EMI

Bu Marcelle yn gweithio yn y ddau gwmni mwyaf yn ardal Treorci. Cafodd Marcelle ei geni yn y Gelli ym 1957, a'i swydd gyntaf oedd fel clerc ar lawr ystafell dorri ffatri Polikoff’s yn 17 oed. Yn ddiweddarach, ar ôl cwblhau cwrs Cynllun Cyfleoedd Hyfforddi (TOPS) mewn coleg yn ardal Gabalfa, Caerdydd, ymunodd Marcelle ag EMI fel gweithiwr yn y 1970au. Cafodd y ffatri ei hadeiladu i gynhyrchu falfiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Erbyn y 1960au roedd yn cynhyrchu darnau cydrannol ar gyfer setiau radio a theledu. Ym 1974, dechreuodd EMI gynhyrchu casetiau tâp recordio magnetig, a dyma oedd gwaith Marcelle yn ystod ei chyfnod byr yn y ffatri.

Gwrandewch ar 'Marcelle Chiplin - Polikoff's ac EMI'

Trawsgrifiad

“Roedd e (Polikoff’s) yn enfawr. Hollol enfawr... Pe bai gyda ni declynnau cyfrif camau yn y dyddiau hynny mae'n debyg y byddwn ni'n gwneud tua 30,000 o gamau'r dydd... Roedd y ffreutur yn enfawr hefyd. Ac wedyn roedd gennym ni'r siop i'r staff hefyd... roedd mam yn gweithio yno hefyd ar lawr y siop, ac roedd fy nhad yn gwisgo siwt safonol maint 38. Roedd yr holl samplau a ddaeth i mewn i'r ffatri iddyn nhw benderfynu a oedden nhw'n mynd i'w cynhyrchu nhw ai peidio bob amser mewn maint 38 rheolaidd. A bydden nhw'n cael eu rhoi yn yr ystafell werthu bryd hynny ac roedd modd i chi eu prynu nhw. Felly mae'n debyg mai fy nhad oedd y dyn mwyaf trwsiadus yng Nghwm Rhondda oherwydd roedd ganddo'r siwtiau sampl i gyd! Roedden nhw'n wych – dillad o'r Eidal a Sweden. Roedden nhw'n anhygoel. Roedden nhw'n hollol anhygoel.

Ac roedden ni'n arfer gwneud yr holl gardiau clercio i fynd gyda'r trowsus, y siacedi a'r gwasgodau a elwid yn fests, oherwydd y term Americanaidd amdanyn nhw... A bydden ni'n paratoi'r holl gardiau. Felly os oedd y trowsus, er enghraifft, yn wasg 32, coes 32, byddai’n rhaid i ni farcio’r holl gardiau hyn fel eu bod yn cael eu torri’n gywir bryd hynny, ac yna bydden ni'n mynd i mewn i’r ffatri i wnïo.

Daeth swydd i fyny yn EMI... ar ochr y tapiau... Roedd Capital Records yn berchen arno bryd hynny. Ac, roedden nhw'n arfer gwneud y tâp i gyd... roedd y tapiau'n cael eu gwneud mewn riliau 30 munud, 60 munud a 90 munud... Roedd hyn yn rhagflaenu CDs. Roedd yn dâp tenau iawn. Ac yna fe allech chi recordio, byddwch chi'n ei roi yn eich recordydd tâp... Ac yna byddech chi'n recordio a byddech chi'n pwyso dau fotwm. Byddech chi'n pwyso'r botwm 'on' a'r botwm 'record', dwi'n meddwl, ac wedyn roedd modd i chi recordio'ch cerddoriaeth eich hun... Roedden ni'n cynhyrchu'r tâp i gael ei recordio ymlaen llaw a’i anfon i lefydd gwahanol, dros y byd i gyd.”