Cafodd Roger ei eni yn Nhreorci ym 1941 a gweithiodd yn argraffydd drwy gydol ei fywyd, ochr yn ochr â’i dad a’i frawd. Prynodd ei dad-cu Caxton Press ym 1910 a daeth i fod yn rhan o’r teulu am 100 o flynyddoedd. Dechreuodd Roger ei brentisiaeth yn 15 oed, ac roedd ei dasgau’n cynnwys “cymryd parseli a chael sigaréts i’r bechgyn.” Ar ôl dysgu ei grefft fel rhwymwr llyfrau, gwelodd Roger y ffyrdd niferus y newidiodd technoleg ei broffesiwn dros y degawdau, hyd at ei ymddeoliad yn 2011.