00:05
C - DYWEDWCH YCHYDIG AMDANOCH CHI EICH HUN.
Iawn, fy enw i yw Agboola Babatunde Timothy. Enw Beiblaidd yw'r 'Timothy', wyddoch chi. Ac yna mae llawer o ystyr gan 'Babatunde' mewn cartref Affricanaidd, mewn cartref Affricanaidd, mae gan bob enw a gaiff ei roi i blentyn ystyr yn seiliedig ar y sefyllfa bresennol efallai, beth ddigwyddodd pan gafodd y plentyn ei eni. Er enghraifft, cefais fy enwi'n Babatunde, tad ydy ystyr 'baba', a dychwelyd ydy ystyr 'tunde'. Bu farw fy nhad-cu, ar ôl hynny wnaethon nhw ei roi nôl i fi, felly yn y diwylliant Affricanaidd, y meddylfryd yw bod y tad wedi dychwelyd mewn gwirionedd. Dyna'r rheswm y gwnaeth fy nhad, ei dad ef y bu farw, sef fy nhad-cu, cefais Babatunde wedyn, chi'n deall. Cefais fy magu yn Lagos mewn gwirionedd, ond rydw i'n dod o dalaith Oyo, Ogbomosho, y rhan orllewinol, dwi'n ddyn Yoruba. Ac wrth edrych ar fy ngwisg, mae'n hawdd gwybod mai dyn Yoruba ydw i. Mae gan y llwythi eraill eu gwisgoedd eu hunain, yr Hausas, yr Igbos. Unwaith y gwelwch chi eu gwisgoedd, yr hyn maen nhw'n ei wisgo, byddai'n hawdd i chi wybod o le maen nhw'n dod ac mae gan bob gwisg ystyr. Mae gan y ffordd rydyn ni'n gwisgo ystyr, y ffordd rydyn ni'n gwisgo'n gleiniau, ar ein dwylo, y gwddf, mae gan y cap ystyr. Fel y cap rwy'n ei wisgo ar yn o bryd, os ydw i'n briod, yr ochr hyn, rydyn ni'n dod draw i'r ochr chwith fel hyn, wyddoch chi? Dyma arwydd fy mod i'n briod gan ei fod yn dod i'r chwith. Felly os ydw i'n cerdded o gwmpas y pentref, mae pob menyw a phob dyn yn y gymdeithas yma, rydyn ni'n gwybod mewn gwirionedd ei fod yn ddyn priod. Does dim rhaid i fi ddweud wrthyn nhw, byddan nhw'n gwybod, wyddoch chi. Y dyddiau hyn, mae'r fodrwy yn symbol, wyddoch chi, wel, yn yr hen ddyddiau y cap oedd hi, chi'n deall, ond ar hyn o bryd rydw i'n sengl, dydw i ddim yn briod, felly... Oherwydd petai un o fy llwyth yn cerdded heibio a gweld, bydden nhw'n meddwl fy mod i wedi priodi. Felly, cefais fy magu yn Lagos, fel i fi sôn yn gynharach. Cefais fy magu gyda fy nhad... fi yw'r olaf o saith o blant, wyddoch chi, mae modd i fam Affricanaidd roi genedigaeth i nifer o blant. Felly fi yw'r olaf o'r teulu. Cefais fy magu gyda fy mrodyr a chwiorydd ac un peth am rieni Affricanaidd, maen nhw'n ddisgybledig iawn, maen nhw'n ddisgyblwyr. Does dim angen iddyn nhw eich taro chi cyn i chi wybod y pethau cywir i'w gwneud, wyddoch chi. Os ydych chi'n camfihafio, os nad ydych chi'n rhoi'r parch i'ch mam y mae hi'n ei haeddu, does dim angen iddi'ch taro chi, byddai hi'n rhoi edrychiad i chi a fyddai'n eich ceryddu chi i wneud y peth cywir ar yr amser cywir.
03:16
C – PA RAN O NIGERIA SYDD FWYAF PWYSIG I CHI?
Ie, mae pob rhan o Nigeria yn bwysig iawn, iawn, o ran y diwylliant a'r parch, bod yn barchus, yn enwedig y diwylliant a bod yn barchus, wyddoch chi. Pan mae rhywun yn hŷn na chi, mae'n rhaid i chi barchu'r person hwnnw. Er enghraifft, yn fy nheulu i, priododd fy mrawd hŷn â dynes, os, cyn iddi ddod i mewn i'r teulu, cyn iddi ddod yn rhan swyddogol o'r teulu, yn wraig swyddogol i fy mrawd, os oes plentyn yn cael ei eni yn y teulu, rhaid i chi alw'r plentyn, dim ots pa mor fach ydy hi, waeth pa mor fach yw'r baban, rhaid i chi ei alw, os mai gwryw ydyw, yn 'frawd' ac yna'i enw, wyddoch chi. Babatunde ydw i nawr, rhaid iddi fy nghyfarch fel 'Brother Tunde' er ei bod hi'n hŷn na fi, ond am y ffaith, cyn i fy mrawd ei phriodi a'i bod hi wedi dod i mewn i'r teulu, fy mod i wedi cael fy ngeni, sy'n golygu des i mewn i'r teulu o'i blaen hi, ydych chi'n deall? Ac mae pob menyw sy'n dod mewn i deulu Nigeraidd, wrth i chi ddod i mewn, mae gyda chi, wyddoch chi, mae gyda ni gartrefi gwahanol gyda'u rheolau a rheoliadau gwahanol. O'm rhan i, y diwrnod ar ôl y briodas, os ydy'r wraig eisiau dod i mewn, rydych chi'n mynd i dŷ'r tad, sef tŷ tad y gŵr, a bydd rhaid iddyn nhw gael dŵr oer iawn - maen nhw'n ei ddefnyddio i wlychu'ch traed. Mae'n symbol, wrth i chi ddod i mewn, na fydd y tŷ yn rhy boeth i chi. Byddwch chi'n dod o hyd i heddwch, byddwch chi'n teimlo'n gyfforddus, bydd croeso i chi. Wyddoch chi, mae pŵer ei hunan gan ddŵr, os ydych chi'n cyffwrdd y dŵr, rydych chi'n teimlo wedi'ch adfywio, dyna mae hynna'n ei olygu.
05:18
BETH YDYCH CHI EI GOLLI FWYAF AM NIGERIA?
Y bwyd, wyddoch chi, mae pawb wedi bod yn ei ddweud. Fel rhan Yoruba, mae gyda ni wahanol fathau o fwyd, mae gan yr Igbos yr un peth. Yr Hausas, mae gyda nhw'r un peth ond... yn Yoruba mae gyda ni gbegiri, mae gbegiri wedi'i wneud o ffa, ac mae'n cael e goginio a'i hidlo, wyddoch chi. Mae gyda ni 'ewedu', mae gyda ni 'efo riro', mae gyda ni 'egusi', wyddoch chi... mae gyda ni 'ogi', sy'n debyg i'r cwstard rydyn ni'n gyfarwydd ag ef, ond mae'r ogi wedi'i wneud o ŷd. Gyda'r ŷd, rydych chi'n ei wlychu, ei falu'n dda iawn, felly dyna rydyn ni'n ei ddefnyddio... Ac mewn gwirionedd dwi'n colli'r ffaith bod y diwylliant, dwi'n colli'r diwylliant, wyddoch chi. Ond mae'r diwylliant yno, wyddoch chi, oherwydd mae gen i fy mhobl o'm cwmpas, rydyn ni'n ymarfer y diwylliant, mae'r diwylliant yn ddyfnach nag adnabyddiaeth pawb, wyddoch chi. Ein cyndeidiau, oherwydd o ran y diwylliant mae'n wahanol i'n hadnabyddiaeth ni o'r diwylliant nawr. Oherwydd technoleg, wyddoch chi, gan fod technoleg wedi symud ymlaen ledled y byd, wyddoch chi. Felly dyna hynny.
06:58
C - BETH YDYCH CHI'N MYND I'W WNEUD GYDA'R DRYMIO?
Iawn, y rheswm y des i gyda fy nrwm yw er mwyn rhoi gwybod i chi, yn Nigeria yn Affrica, yn Yorubaland... maen nhw'n deffro'r brenin drwy chwarae'r drwm siarad yn gynnar yn y bore. Un peth am y drwm yma y gwelwch chi, mae ganddo diwnio sol-ffa, yn yr un modd ag allweddell sydd â thiwnio sol-ffa. Hefyd felly'r sacsoffon, gitâr a phob dim arall. Mae'n siŵr eich bod chi efallai'n chwarae offeryn ar hyn o bryd, wyddoch chi, ac mae gan y drwm siarad diwnio sol-ffa. Felly, y mwyaf o straen rydych chi'n ei roi ar y pethau clymu fan hyn, mae'r nodyn yn newid, sef.... [DANGOS Y NODAU GWAHANOL] Ffa-so felly.... [RHAGOR O CHWARAE] Yna la-ti-do. Yna mae popeth, petawn i eisiau deffro'r brenin nawr... mae'n mynd fel hyn [DANGOS Y DÔN A FYDDAI'N DEFFRO BRENIN YN Y BORE]. Galla'i ddefnyddio hwn i chwarae rhywbeth fel 'Pen-blwydd Hapus', fel hyn...[CHWARAE'R GÂN]... Dyna pam rydyn ni'n galw hwn yn ddrwm siarad, ac mae'r drwm siarad yma wedi'i wneud o groen anifail, wyddoch chi. Dyma'r un peth dydyn ni ddim ei eisiau fan hyn, dyma un gwastad. Mae hwn yn un gwastad mewn gwirionedd, yn yr un modd ag yr oedd hwn. Mae'n rhaid i ni ei droi, edrych arno, welwch chi, mae'n rhaid i ni ei droi, felly'r amseriad yma fydd hi, yna rhif tri yw'r un fan hyn, welwch chi naw y tu mewn. Yr un peth gyda hwn, mae wedi'i gerfio o'r goeden, wyddoch chi? A'r rheswm fod hwn yno yw i fi allu ei hongian ar fy ysgwydd oherwydd y mwyaf rydw i'n ei wasgu gyda fy mraich, mae'r dôn sol-ffa yn newid - y do-re-mi-ffa-so-la-ti-do. Ac yna o ran dawnsio i'r.... sŵn rhythmig y drwm siarad yma, mae ganddo ran darllen ac ar yr un pryd mae ganddo rannau siarad. Petawn i'n dweud "Pe bawn i'n chi" [CHWARAE'R DRWM]... "byddwn i wedi defnyddio fy nwylo i ddawnsio i'r rhythm", ydych chi'n deall? Felly gan fy mod i'n ei chwarae, maen nhw'n deall beth rydw i'n ei chwarae. Felly os ydw i'n chwarae [CHWARAE'R DRWM], maen nhw'n gwybod fy mod i'n golygu "Pe bawn i'n chi... [CHWARAE'R DRWM]... byddwn i wedi dawnsio gyda fy nwylo." Yna rydych chi'n ei ailadrodd [CHWARAE'R DRWM]... "Byddwn i wedi defnyddio fy nghoesau i ddawnsio i'r rhythm rydych chi'n ei chwarae." Yna rydych chi'n ei ailadrodd eto [CHWARAE'R DRWM]... sy'n golygu fy mod i wedi defnyddio fy holl gorff i ddawnsio i'r rhythm. Ac ar yr un pryd, yn Yorubaland os ydyn ni'n cael priodas, parti priodas, rydyn ni'n defnyddio hwn, mae meintiau gwahanol gyda ni, a dyma'r maint canolig. Mae gyda ni faint mwy a maint llai. Mae gan bob un o'r drymiau yma'u tôn eu hunain. Dim ond y re-mi mae modd i'r maint lleiaf ei chwarae, mae modd i hwn chwarae'r holl donau sol-ffa. Mae modd i'r maint mwy chwarae'r holl donau sol-ffa. Mae modd i unrhyw ddrwm siarad sy'n gallu chwarae'r holl donau sol-ffa ddweud neu siarad unrhyw beth sy'n dod allan o'ch ceg, mewn gwirionedd. [DANGOS GYDA'R DRWM] Daeth technoleg â'r allweddell ac ati aton ni. Ar y cychwyn doedden ni ddim yn gwybod bod yr hyn roedden ni'n ei greu, bod y tonau'n sol-ffa. O'r hen ddyddiau rydyn ni'n creu hyn i chwarae a gwerthfawrogi'n hunain, teimlo'r rhythm, adloniant. Pan gawson ni ein gwladychu, pan ddaeth y Prydeinwyr, rydyn ni'n gwybod cymaint o bethau a chawson ni'n hyfforddi bod gan yr holl bethau yma rydych chi'n eu chwarae eu tôn eu hunain yn sol-ffa, wyddoch chi. Mae gyda ni lawer o ddrymiau, dyma un ohonyn nhw, mae gyda ni'r conga, yr agbamole, mae gyda ni wahanol fathau.
13:24
C - FELLY ROEDD Y TIWNIO AR EI GYFER YN Y SOL-FFA CYN GWLADYCHIAETH? MAE BOB AMSER WEDI CAEL EI DIWNIO YN Y FFORDD YNA?
Ie, fel hyn mae'r drwm o hyd. [CYFWELYDD: DYMA SUT MAE'R TIWNIO WEDI BOD ERIOED? DIM OND DIGWYDDIAD OEDD EI FOD YR UN FATH Â THIWNIO SOL-FFA?} Yn union, ie, ie. Wyddoch chi, mae gan bob gair ei diwnio sol-ffa ei hunan hefyd, felly mae'r un peth â hyn.
13:53
C - FELLY, Y DRYMIO A'R DDAWNS, AI BYRFYFYR YDYN NHW, YDYCH CHI'N EI GREU YN Y FAN A'R LLE? YDYCH CHI'N CHWARAE RHYWBETH AC YNA MAEN NHW'N GWNEUD Y DDAWNS I'W GOPÏO A MEDDWL AM RYWBETH ARALL I'W CHWARAE?
Gan amlaf, mae'n ddull galw ac ymateb, wyddoch chi... gallaf i fod yr un sy'n galw, gallan nhw fod yr un sy'n ymateb gyda'u dawns a hefyd gyda'u geiriau. Ar yr un pryd mae modd iddyn nhw fod yr un sy'n galw, a gallaf i fod yn chwarae. Felly mae'n amrywio... yr un wnes i ei chwarae yn gynt... dwi'n siarad â nhw, sy'n golygu fy mod i'n eu cyfarwyddo nhw i ddawnsio'r hyn rydw i'n dweud y dylen nhw ei ddawnsio. [CYFWELYDD: AC MAE HYNNA'N NEWID BOB TRO?] Ydy, ydy. Ar yr un pryd, wyddoch chi, unwaith i fi wneud hynny, byddaf yn chwarae'r rhythm craidd. Mae'r rhythm weithiau'n cael ei alw'n rhythm traddodiadol, mae'n mynd fel hyn... [CHWARAE'R DRWM]. Yr un rydw i'n ei chwarae olaf yw rhythm ac yn y canol rydw i'n gofyn iddyn nhw ddawnsio'r hyn rydw i'n ei chwarae. Rydw i'n dechrau gyda'r rhythm, rydw i'n siarad gyda'r drwm siarad er mwyn iddyn nhw wrando a dawnsio i'r gair rydw i'n ei ddweud, yna rydw i'n rhoi'r rhythm, ie.
15:48
C - SUT BETH OEDD YR YSGOL I CHI?
Iawn, ysgol, cefais fy magu yn mynd i ysgol mor bell ag o fan hyn [PONTYPRIDD] i Drefforest. Bydden ni'n cerdded yn y gwylltir a mynd dim ond ag un llyfr ysgrifennu, dim bagiau, dim byd. Gan amlaf, pan fyddai'n bwrw glaw, byddai'ch mam ddim yn eich dilyn chi i'r ysgol fel maen nhw'n ei wneud nawr, a bydd hynna mewn gwirionedd yn gwneud i chi sylweddoli os ydych chi'n ddyn weithiau mewn bywyd byddwch chi ar eich pen eich hunan o hyd. A phan rydych chi ar eich pen eich hunan mae gyda chi'r cyfle i wneud y dewis anghywir ac ar yr un pryd gwneud y dewis cywir. Felly nawr mae angen i chi ddewis yr un rydych chi am ei wneud - ydw i'n mynd am y dewis cywir neu ydw i'n mynd am y dewis anghywir, hynny yw rydych chi ar eich ffordd i'r ysgol, rydych chi'n gweld ble maen nhw'n chwarae pêl-droed, rydych chi'n gollwng eich llyfr ysgrifennu, wedi dweud eich bod chi ddim yn mynd i'r ysgol, dwi eisiau chwarae pêl-droed, wyddoch chi? Rydych chi'n chwarae pêl-droed, eich dewis chi yw e. Ond ar yr un pryd, rhaid i chi fod yn barod i gyfiawnhau unrhyw beth rydych chi'n dewis ei wneud mewn bywyd.
17:13
C - A OEDD PÊL-DROED YN BWYSIG YN NIGERIA?
Ie, mae pêl-droed yn bwysig iawn, iawn. A dweud y gwir, nid dim ond pêl-droed, mae pob chwaraeon arall yn bwysig iawn, iawn. Ar y cychwyn, doedden ni ddim yn chwarae pêl-droed, doedden ni ddim yn gwybod amdano ond ers i dechnoleg ddechrau dod mewn, wyddoch chi, fe ddechreuodd gyrru llawenydd o ran ei chwarae, wyddoch chi, mae yna gryfder mewn chwarae pêl-droed, mae yna dalent... er enghraifft, cafodd Esieme ei brofi, roedden nhw'n meddwl ei fod yn defnyddio cyffuriau oherwydd y ffordd y mae'n chwarae pêl-droed. 90 munud yw hi, rydych chi'n ei weld yn y blaen, rydych chi'n ei weld yn y cefn, mae'n mynd i fyny ac i lawr ac ar yr un pryd maen nhw'n gofyn iddo, 'Pam wyt ti mor gryf â hyn? Pam wyt ti mor fywiog â hyn?' Dywedodd, yn ôl yn Nigeria mae e'r math o berson sy'n gwerthu dŵr pur. Rydyn ni'n gwerthu dŵr yn Nigeria, dŵr pur, mae e'r math o berson sy'n gwerthu dŵr pur pan fydd traffig, pan fydd hi'n 'go slow', felly bydd rhywun yn prynu dŵr o'r car, mae e'n rhoi'r dŵr i'r person ac yna pan fydd y golau'n troi'n wyrdd, rhaid i'r car symud felly rhaid iddo redeg ar ôl y car i gael ei arian. Gallwch ddychmygu rhywun yn gwneud hynny'n feunyddiol. Pan mae eisiau chwarae pêl-droed, byddai mor gryf â hynny, wyddoch chi. Hefyd felly gyda ffermwr, yn ffermio. Fel dyn Affricanaidd, rydych chi'n ffermio, rydych chi'n gwneud un peth, wyddoch chi, byddwch chi mor gryf â hynny oherwydd dyna mae'ch corff chi'n ddibynnol arno. Fell, o ran chwaraeon, rydyn ni’r Nigeriaid yn ei garu, wyddoch chi, mae'n hawdd i ni ei wneud heb flino drwy'r amser, ie.
19:06
C - CYN PÊL-DROED, BETH OEDD YN CAEL EI CHWARAE?
Ie, roedden nhw'n chwarae draffts... fel gwyddbwyll. Ond dydyn ni ddim yn defnyddio bwrdd... rydyn ni'n defnyddio'r llawr. Rydyn ni'n palu tyllau... ac rydyn ni'n neud yr hyn rydyn ni'n ei alw'n 'buju buju'... 'Buju buju' yw pan fydd grŵp o bobl yn chwarae cuddio, rydyn ni'n ei alw'n 'buju buju'. Rydyn ni'n chwarae gêm arall [ENW NIGERAIDD ANHYSBYS]... sy'n golygu ein bod ni'n defnyddio'n dwylo i gasglu tywod fel mynydd, yna rydyn ni'n rhoi ysgub yn ei ganol, a bydd pob person yn ei dro yn defnyddio'i law i wahanu'r tywod, felly'r person olaf i wneud hynny, unwaith i'r ysgub gwympo, rydych chi allan o'r gêm... pethau felly, dyna rydyn ni'n ei wneud.