Skip to Content

Rhondda Cynon Taf
Ein treftadaeth

Amdanom Ni
Cyllidwyr a PhartneriaidStrategaeth DreftadaethCysylltwch â Ni
Casgliadau
Chwiliad ManwlArchif LluniauArchif Hanes LlafarArchif FfilmiauArchebu Delwedd
Treftadaeth
Cwm RhonddaCwm CynonTaf-eláiMap Rhyngweithiol
Cymuned
ProsiectauArddangosfeyddDysgu
Settings
English
    Amdanom Ni
    Cyllidwyr a PhartneriaidStrategaeth DreftadaethCysylltwch â Ni
    Casgliadau
    Chwiliad ManwlArchif LluniauArchif Hanes LlafarArchif FfilmiauArchebu Delwedd
    Treftadaeth
    Cwm RhonddaCwm CynonTaf-eláiMap Rhyngweithiol
    Cymuned
    ProsiectauArddangosfeyddDysgu
    Iaith
    English

    Diwygio Delweddau

    Jess Morgan

    Cafodd Jess Morgan ei geni yng Nghaerdydd ym 1947, ac fe symudodd ei theulu i Gwm Rhondda pan roedd hi'n flwydd oed. Mynychodd Ysgol Ramadeg y Sir ar gyfer Genethod yn Y Porth, ac astudiodd Fathemateg, Daeareg a Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Reading cyn dechrau gyrfa hir ym maes peirianneg. Dechreuodd â charreg gamu yn Ffactri Trefforest a oedd yn gwneud cydrannau plastig. Gan weithio yn gynorthwy-ydd yn yr adran beirianneg, fe sylweddolodd Jess yn fuan iawn mai peirianneg oedd yn mynd â'i bryd. Yn sgil hynny aeth ymlaen i gwblhau gradd Meistr yn y maes Peirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd cyn dechrau gyrfa hir gyda chwmni Peirianneg Plastigau Almaenig, gan weithio ledled Ewrop. Pan fu iddi ymddeol yn 2009, anogodd cyfaill Jess iddi ymuno â'r grŵp ysgrifennu creadigol. Yn ddarllenydd brwd erioed, ychydig iawn o ysgrifennu creadigol roedd Jess wedi'i wneud. Mae wedi bod yn aelod o Grŵp Ysgrifennu Creadigol Cwm Rhondda ers 2011. Mae hi'n teimlo bod 'tipyn o ffordd' gyda hi i fynd o ran datblygu ei hysgrifennu, ond mae hi wrth ei bodd yn ‘rhoi tro arni’ â'r cyfeillgarwch sy'n deillio o'r grŵp.

    Pori’r Prosiect

    Jess Morgan - A Branch in My Life
    Jess Morgan - Family and Home
    Cronfa Treftadaeth | Heritage Fund
    Diwygio Delweddau | Altered Images
    Rhondda Cynon Taf
    X
    Facebook
    Instagram
    Youtube
    Wedi ei bweru gan iBase