Diwygio Delweddau
Stephen Lawry
Cafodd Stephen Lawry ei eni ym 1978 a chafodd ei fagu yn Gilfach Goch yng Nghwm Rhondda, yr ieuengaf o dri o frodyr. Yn dilyn plentyndod 'arferol' a hapus yn y cymoedd, daeth cyffuriau ac alcohol yn rhan o fywyd Stephen pan oedd yn ei arddegau, ac yn sgil hynny daeth yn gaeth i sylweddau, dioddefodd â'i iechyd meddwl a chafodd gofnod troseddol. Tra roedd yn cael ei gadw yn y ddalfa fe wirfoddolodd Stephen ar gyfer y Samariaid – ‘Y peth roddodd fwyaf o foddhad erioed’ – ac fe ddefnyddiodd ei oriau lawer o 'amser sbâr' i astudio Seicoleg, Mathemateg, Cymdeithaseg, Celf, Saesneg a T.G. ymhlith pynciau eraill. Yn ystod y cyfnod hwnnw sylweddolodd Stephen ei fod yn dotio ar eiriau, a dechreuodd ysgrifennu barddoniaeth. Ers 2014 mae wedi arddangos sawl gwaith yn The Factory yn Y Porth, gan gyfuno ei waith ysgrifennu â phaent ar ganfas, cerflunio celfyddyd gain a gosodweithiau. Mae ei waith ysgrifennu a'i gelf yn adlewyrchu stormydd ei fywyd, ac maen nhw, yn ôl Stephen yn ffordd o dderbyn y profiadau yma yn rhan hanfodol o'i hunaniaeth. Mae'n clodfori gonestrwydd ei waith i fod yn agored i gydweithiwr 'ysbrydoledig' am ei brwydrau ei hun. 'Hebddi hi... ni fyddai dim o'r hyn yr wyf wedi'i ysgrifennu wedi dod allan.' Erbyn heddiw, does dim sy'n well gyda Stephen na threulio amser gyda'i deulu ym Mhorth.