Diwygio Delweddau
Gerhard Kress
Cafodd Gerhard Kress ei eni yn yr Almaen yn 1953, ac fe astudiodd ffotograffiaeth yn Frankfurt am Main. Fe symudodd i'r DU ym 1977 i wella ei Saesneg, ac mae wedi ymgartrefu yma fyth ers hynny. Dechreuodd ei fywyd gwaith ym Mhrydain â chyfnod yn gynorthwy-ydd gofal. Symudodd Gerhard i Fryste ym 1982 lle'r enillodd radd BSc(Anrh) yn y maes Gwaith Cymdeithasol, a dechreuodd ei yrfa'n grefftwr offerynnau cerdd, yn adeiladu ac atgyweirio offerynnau cerdd. Fe symudodd ei weithdy crefft i Bontypridd yn 2002 ac fe gynrychiolodd Cymru yn y gynhadledd creu offerynnau cerdd ryngwladol yn St. Chartier, Ffrainc. Mae wrth ei fodd â bywyd yn y cymoedd, mae'n weithgar gyda'r Eisteddfod ac mae’n gynhyrchiol iawn ym maes ffotograffiaeth, llenyddiaeth, cerddoriaeth a phaentio. Mae wedi recordio sawl CD, gan arddangos paentiadau a ffotograffau mewn lleoliadau fel The Factory yn Y Porth, Y Senedd, a sioe Artist Y Flwyddyn Cymru. Mae wedi cyhoeddi barddoniaeth, llyfrau hunangofiannol a ffotograffiaeth ynghylch ardal RhCT, a chyfres o straeon ar gyfer plant, a gafodd eu hysgrifennu yn y lle cyntaf ar gyfer ei fab.