Diwygio Delweddau
David Dobson
Cafodd David Dobson ei eni a'i fagu yn Llundain fel yr oedd wedi'r ail ryfel byd. Ym 1964, ac yntau'n ddeunaw oed, fe adawodd y DU i 'fynd i weld y byd' ac mae wedi ymweld â bron i gant o wledydd ers hynny gan weithio yn nifer fawr ohonyn nhw hefyd, a hynny ym maes addysg gan fwyaf. Mae ganddo MA ym maes Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Missouri-Columbia, ac mae wedi cyhoeddi straeon byrion a cherddi mewn cyfrolau o lenyddiaeth yn America a Chanada, yn ogystal ag ennill dwy wobr am ysgrifennu. Mae'n treulio ei ymddeoliad yn y Cymoedd ac erbyn hyn mae Cymru yn gartref iddo. Mae gyda David ddwy ferch ac mae'n Dad-cu i bedwar person ifanc yng ngorllewin Canada.