Diwygio Delweddau
Linda Michel
Cafodd Linda Michel (Treharne cyn priodi) ei geni yng Nghaerdydd ym 1951. Fe symudodd i'r cymoedd pan roedd yn 11 mlwydd oed, a daeth ei rheini yn landlordiaid cyntaf ar dafarn, yn gyntaf ym Mhontycymer ac yna ym Mhenrhiw-fer. Mynychodd Linda Ysgol Ramadeg Tonyrefail hyd nes oedd yn un ar bymtheg mlwydd oed a gadawodd gyda dwy Lefel O. Cafodd Linda ambell i swydd mewn swyddfeydd cyn dod yn deleffonydd ar gyfer swyddfa'r post o 1969 hyd nes 1971 pan adawodd i gael ei phlentyn cyntaf. Cafodd ddau blentyn arall ac yna dechreuodd ei gyrfa yn y maes gofal cymdeithasol ym 1994 lle aeth ymlaen i fod yn rheolwr gwasanaeth ym meysydd y Gwasanaethau Iechyd Meddwl, Gwasanaethau Atal Cam-drin Domestig a Gwasanaethau ar gyfer Pobl Ddigartref. Yn 2015, enillodd Linda Radd o'r Brifysgol Agored yn y maes Gofal Cymdeithasol wedi sawl blwyddyn o astudio. Fe fu i Linda ymddeol yn 2016 ac fe ymunodd â Grŵp Ysgrifennu Creadigol RhCT yn 2017. Fe ymunodd hefyd â'r blaid Lafur gan ddod yn Gynghorydd Cymunedol.