Diwygio Delweddau
Kathryn Jones
Mae Kathryn yn ei 50au cynnar ac fe'i ganed hi yn Aberdâr. Mae hi wedi byw yn Aberdâr ar hyd ei hoes oni bai am gyfnod pan oedd yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor. Wedi i waeledd olygu bod rhaid iddi ymddeol o'i gyrfa yn y maes gofal iechyd a gwaith cymdeithasol, mae hi wedi bod yn ymwneud ag ysgrifennu creadigol ers 2020, ac mae ei cherddi wedi'u cyhoeddi mewn sawl casgliad, ac wedi'u darllen ar the Arts Show BBC Wales. Mae ysgrifennu Kathryn wedi'i ddylanwadu'n fawr gan ei ffydd Gristnogol, a'r themâu iechyd meddwl a chyfiawnder, a chydraddoldeb. A hithau'n ysgrifennwr anabl sy'n byw gydag Enseffalopathi Myalgig (ME), mae ysgrifennu creadigol yn rhoi cyfle iddi fynegi ei hun yn ogystal â galw am ragor o sylw ac adnoddau ar gyfer y rheiny sy'n dioddef o'r salwch yma. Mae Kathryn hefyd yn mwynhau astudio Hanes Celf, adeiladu Lego, crochenwaith, chwarae gemau fideo, darllen, pobi, drymio, crefft gwydr lliw, a gwylio rygbi.