Diwygio Delweddau
Leigh Manley
Cafodd Leigh Manley ei eni yn Ystum Taf, Caerdydd ym 1977, cyn symud i dre enedigol ei fam, Maesteg ag yntau'n dair oed. Fe fynychodd Ysgol Gyfun Maesteg ac aeth ymlaen i astudio Llenyddiaeth Saesneg a Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth. Fe weithiodd yn y maes gwasanaethau cyllid am ddwy flynedd ar hugain. Yn ystod y cyfnod hwnnw fe briododd â Zoe, gan setlo yng Nghaerdydd a chael dod yn Dad i dair merch. Yn dilyn toriad o'i yrfa yn 2022, llwyddodd Leigh i gael lle ar raglen ddatblygu gyda'r corff celfyddydau cenedlaethol Llenyddiaeth Cymru, yn 2023, a mynd ymlaen i greu gyrfa newydd ym maes y celfyddydau yn awdur, addysgwr a hwylusydd creadigol llawrydd. Mae ei gerddi, ar gyfer plant ac oedolion, wedi eu henwebu ar gyfer sawl gwobr, ac wedi ymddangos mewn sawl cyhoeddiad celfyddydol a barddoniaeth gan gynnwys Poetry Wales, Red Poets, Black Bough Poetry, The Dirigible Balloon, Northern Gravy, a Nawr Magazine. Drwy ei waith gwirfoddoli gyda Sefydliad Iechyd y Galon Cymru, mae Leigh yn eirioli dros lais y claf ac yntau'n aelod o banel cyhoeddus y galon y sefydliad.