Diwygio Delweddau
Helen Byrne
Cafodd Helen Byrne ei geni yng Nghaerdydd ym 1971. Cafodd ei magu yn Cathays ac fe symudodd i Riwbeina yn 2002. Mae hi wedi bod yn Was Sifil am dros ddeng mlynedd ar hugain ac mae hefyd wedi bod yn rhan o Garfan Achlysuron Cyngor Caerdydd ers 2002. Roedd Helen wrth ei bodd yn darllen ac yn ysgrifennu barddoniaeth yn blentyn ac yn 2020 fe gymerodd ran ym mhrosiect Theatr y Sherman 'Love Letters to Cardiff / Llythyrau Caru i Gaerdydd'. Fe ymunodd â Sherman Scribblers yn fuan wedi hynny, lle cafodd ei chyflwyno i ddramodwyr profiadol a helpodd hi i ddysgu crefft y dramodydd. Fe gymerodd hi ran hefyd yn rhaglen 'Ymchwilio' y theatr gan ddysgu rhagor am ysgrifennu ar gyfer y llwyfan. Ym mis Mawrth 2024 fe gwblhaodd gwrs Prifysgol Caerdydd 'writing for stage and screen' ac mae nawr yn gobeithio ysgrifennu dramâu clywedol yn ogystal ag ysgrifennu ar gyfer y llwyfan. Mae Helen yn gwirfoddoli gyda'i grŵp achlysuron lleol yn Rhiwbeina ac mae hi'n gwneud gwaith crosio'n frwd. Mae hi wrth ei bodd â'r theatr, darllen, hanes a'i chi, y Coli'r Goror (border collie).