Diwygio Delweddau
Maggie Hampton
Cafodd Maggie Hampton ei geni ym 1951 yn ne orllewin Llundain. Dechreuodd golli ei chlyw wedi iddi fod yn sâl iawn â'r frech goch pan roedd hi'n 4 mlwydd oed, ac erbyn hyn mae hi'n ddifrifol fyddar. Mae hi wedi gweithio yn y maes gemwaith, yn glanhau tai, wedi bod yn actor-athrawes yn y maes Theatr mewn Addysg ac fe ddaeth yn Hyfforddwraig ar faterion Cydraddoldeb o Ran Anableddau. Fe symudodd i Gymru ym 1993 ac fe dreuliodd 23 mlynedd hapus yn gweithio ar gyfer Disability Arts Cymru, ac wedi amser daeth yn Gyfarwyddwr ar y sefydliad. Mae gyda Maggie Gi Clywed o'r enw Sid. Yr hyn sy'n mynd â'i bryd yw anifeiliaid a chefn gwlad Cymru. Â hithau'n aelod newydd o Grŵp Awduron RhCT, mae hi nawr yn datblygu casgliad o gerddi ynghylch ei phrofiadau yn fenyw Fyddar.