Diwygio Delweddau
Trwy Ein Llygaid Ni
Trwy Ein Llygaid Ni
Safbwyntiau Personol ar Fywyd Gwaith yn Nhreorci
Ym mis Awst 2024, bu Diwygio Delweddau yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth y Celfyddydau RhCT i gynnal y prosiect ‘Trwy Ein Llygaid Ni’. Roedd y gwaith yma’n cynnwys cofnodi atgofion a straeon perchnogion busnesau annibynnol y gorffennol a’r presennol ar stryd fawr Treorci, a chyn-weithwyr ffatrïoedd oedd yn eiddo i gwmnïau mawr sydd bellach ar gau.
Cyn y Chwyldro Diwydiannol, roedd Treorci yn ardal isel ei phoblogaeth ac yn gartref i ffermdai gwasgaredig gyda dolydd, porfeydd a choetiroedd yn cael eu ffermio gan denant ffermwyr. Yn y 1850au, newidiodd yr ardal pan agorwyd pyllau glo Cwm Rhondda Uchaf. Adeiladwyd cannoedd o dai newydd ar gyfer y miloedd o fewnfudwyr a ddaeth i'r ardal i chwilio am waith, yn ogystal â chapeli, tafarndai a siopau. Erbyn y 1900au, roedd Treorci yn ganolfan siopa a chymdeithasol fawr yng Nghwm Rhondda.
Gyda dirywiad y diwydiant glo yn yr ugeinfed ganrif, roedd Treorci mewn gwell sefyllfa na llawer o bentrefi eraill yng Nghwm Rhondda, gan yr oedd yn cynnal nifer o ddiwydiannau eraill, yn fwyaf nodedig ffatrïoedd cwmnïau fel ffatri Polikoff ac EMI. Yn ddiweddar, mae ymdeimlad cryf Treorci o gymuned ac unigoliaeth wedi arwain at ennill wobr fawreddog Stryd Fawr y Flwyddyn yn 2020.
Mae'r hanesion personol yma yn dangos sut mae byd gwaith yn newid yn barhaus wrth i swyddi a diwydiannau addasu er mwyn ymateb i heriau economaidd, anghenion cyfnewidiol, a thechnolegau newydd. Maen nhw hefyd yn dangos natur annibynnol a gwydnwch stryd fawr Treorci; diwydiannau coll y dref; a'i fusnesau teuluol sydd wedi trosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall, o'r 20fed ganrif hyd heddiw.