Diwygio Delweddau
Prosiect Morfydd Llwyn-Owen
Bu aelodau o Fforwm Ieuenctid Cwm Cynon yn gweithio gyda'r prosiect Diwygio Delweddau a'r artist lleol, Caitlin Flood-Molyneux, ar brosiect sy'n cyfuno celf ac ymchwil mewn perthynas â bywyd ffigwr diwylliannol adnabyddus lleol.
"Croeso i'n harddangosfa sy'n dathlu bywyd, gwaith a gwaddol Morfydd Llwyn-Owen.
Cafodd Morfydd ei geni a'i magu yn Nhrefforest yn ystod yr 1800au hwyr a'r 1900au cynnar. Roedd hi'n gerddores hynod o dalentog a symudodd i Lundain yn 21 oed er mwyn astudio cerddoriaeth. Daeth yn ffigwr arloesol ar gyfer cyfansoddwyr benywaidd.
Mae'r arddangosfa yma'n cynnwys ein gweithiau celf gwreiddiol sy'n defnyddio dulliau gwahanol, gan gynnwys stensiliau, stampiau a phaent. Mae’r gwaith yn dehongli stori ryfeddol Morfydd ac yn adlewyrchu ei phersonoliaeth a'i steil lliwgar a bywiog, a llinell amser o'i bywyd.
Rydyn ni'n gobeithio y byddwch chi'n mwynhau'r arddangosfa ac yn eich annog chi i ddysgu rhagor am y fenyw arloesol yma, Morfydd Llwyn-Owen.”
Finley, Keeley, Khandi, Lara, Oliver, Raven, a Tyler