Diwygio Delweddau
O Bydded i'r Balchder Barhau
Gwnaeth Diwygio Delweddau estyn gwahoddiad i aelodau Fforwm Ieuenctid Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Rhondda Cynon Taf weithio gyda Caitlin Flood-Molyneux, yr artist lleol, i fod yn rhan o brosiect a gyfunodd hanes LHDTC+ â chelf. Roedd y grŵp wedi pori dros hen erthyglau papur newydd a llyfrau yn ystod sesiynau ymchwil yn Llyfrgell Aberdâr, cyn ymweld ag Amgueddfa Cwm Cynon i greu darnau o gelf yn seiliedig ar eu gwaith ymchwil.
“Croeso i’n harddangosfa sy’n dathlu pob dim LHDTC+.
Mae’r arddangosfa yma amdanon ni ac ein profiadau yn aelodau a chynghreiriaid y gymuned LHDTC+.
Rydyn ni’n bobl ifanc o Gwm Cynon sy’n teimlo’n angerddol dros gydraddoldeb a chynhwysiant cymdeithasol lawn i’r gymuned LHDTC+.
Mae’r prosiect yma wedi caniatáu i ni weithio ar y cyd i ymchwilio i hanes a threftadaeth LHDTC+ lleol a chenedlaethol, sydd wedi ysbrydoli a llywio’r darnau celf rydyn ni wedi’u creu.
Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau ein harddangosfa.”
Dylan, Emily, James, Khandi, Lowri-Mai, Oliver, Phoebe a Yasemin.
Gyda diolch i brosiect Diwygio Delweddau, Caitlin Flood-Molyneux, Amgueddfa Cwm Cynon, Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf a Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid.