Diwygio Delweddau
Yn Eu Geiriau Eu Hunain
Yn Eu Geiriau Eu Hunain
Casgliad o Ysgrifau Hunangofiannol
Rhondda Cynon Taf 2024
Mae'r casgliad yma'n gynnyrch gweithdy ysgrifennu hunangofiannol dan arweiniad ymchwilydd doethurol, Rebecca Davies, a gynhaliwyd yn rhan o Diwygio Delweddau, prosiect treftadaeth tair blynedd a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac a reolir gan Lyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf.
Nod y gweithdy oedd arwain cyfranogwyr a rhoi cymorth iddyn nhw i gyflawni'r her o ysgrifennu eu straeon bywyd eu hunain, ar gyfer eu hunain ac er mwyn diogelu hanes cymdeithasol Rhondda Cynon Taf. Fe wnaeth y grŵp gyfarfod am ddwy awr yr wythnos, gan ddechrau’n ysgafn gyda’r thema ‘Pwyntiau Canghennu’. Trafodon nhw’r digwyddiadau a’r profiadau hynny a oedd wedi effeithio ar gyfeiriad neu lif eu bywydau, eu dewisiadau a digwyddiadau siawns, a oedd wedi dargyfeirio eu bywyd i lawr llwybr penodol. Ysgrifennodd y cyfranogwyr eu darnau gartref a dychwelyd yr wythnos ganlynol i rannu'r hyn roedden nhw wedi ei ysgrifennu, gan fynd i’r afael â themâu teulu, plentyndod, addysg, gwaith, cariad, iechyd, gwyliau, dathliadau, a hamdden.
Roedd pob awdur yn rhannu ei atgofion a phrofiadau unigol ar ffurf rhyddiaith a barddoniaeth, cyn dod â nhw'n fyw drwy eu hadrodd o flaen pawb. Rydyn ni wedi ceisio ail-greu'r profiad yma drwy roi cyfle i ddarllenwyr wrando ar recordiadau o'r awduron yn darllen eu gwaith.
Nodwch fod rhai o'r darnau yn mynd i'r afael â themâu heriol, gan gynnwys sefyllfaoedd ac iaith a allai beri gofid, ac sydd efallai yn anaddas ar gyfer darllenwyr iau. Yn ogystal â hynny, nid yw'r darnau wedi cael eu golygu na'u cywiro gan ein bod ni o’r farn ei bod hi’n bwysig cyflwyno llais dilys pob awdur.
Gobeithio y byddwch chi'n mwynhau darllen a gwrando ar hanes bywydau personol iawn ein hawduron, a hynny yn eu geiriau eu hunain. Efallai y bydd hyn yn ysbrydoli rhai ohonoch chi i wneud yr un peth.
*Mae Yn Eu Geiriau Eu Hunain wedi cael ei gyhoeddi fel llyfr. Gellir dod o hyd i gopïau yn eich llyfrgell leol.