Parc Treftadaeth Cwm Rhondda,
Heol Coedcae,
Trehafod
CF37 2NP
Adeiladwyd y Rhondda – gyda’i 79 o byllau – ar ei glo. Cynhyrchodd yr haenau dwfn filiynau o dunelli o lo ager, a brofwyd yn wyddonol gan y Morlys y gorau y gallai ei gael. Taniodd bŵer môr Prydain, adeiladodd ddociau anferth Caerdydd a’r Barri i allforio’r mwyn, a rhoddodd elw enfawr i berchnogion y pyllau. I’r glowyr, roedd yn golygu gwaith hynod o galed a pheryglus – llafur a fagodd frawdgarwch a fynegwyd yng nghryfder ei draddodiad undebol. Roedd glowyr y Rhondda ar flaen y gad yn y frwydr am gyflog byw, ac am amodau gwaith tecach, mwy diogel. Daethant yn enwog am eu gwleidyddiaeth soffistigedig, radical a’u parch dwfn at addysg, diwylliant a rhyngwladoliaeth.
Am ragor o hanes a straeon y cwm, ewch i https://www.eintreftadaethrhct.com/treftadaeth-cartref