Cofeb Glowyr Y Maerdy
CF43 4DD
Yn fedrus a dyfeisgar, yn cynnal eu teuluoedd yn wyneb caledi, afiechyd ac – yn rhy aml – trasiedi, roedd gan fenywod y Rhondda’r holl rhinweddau oedd eu heisiau i ymgymryd â rôl y ‘Fam Gymreig’ draddodiadol. Ond roedden nhw hefyd ar waith tu fas i’r cartref, mewn ffatrïoedd, swyddfeydd, ysgolion a siopau, mewn busnesau a gwasanaeth cyhoeddus. Roedd nifer – megis Elizabeth Andrews, Annie Powell a Sylvia Jones – yn ymgyrchwyr, arloeswyr ac arweinwyr mewn gwleidyddiaeth, addysg a’r undebau llafur. Yn ystod Streic y Glowyr 1984-5, daeth Grŵp Cymorth Menywod y Maerdy yn amlwg ac yn eiriol dros fudd a gwerthoedd eu cymuned. Menywod nerthol y Rhondda: mae arnom ddyled enfawr iddynt.
Am ragor o hanes a straeon y cwm, ewch i https://www.eintreftadaethrhct.com/treftadaeth-cartref