Prosiect Treftadaeth Cwm Rhondda

Gorsaf 11 - Hud Plentyndod y Rhondda

Parc Darran,
mynedfa Brook Street,
Glynrhedynog
CF43 4LL

Plentyndod prin yw’r un sy’n hapus drwy’r amser, ond mae cenedlaethau o bobl y Rhondda yn cofio eu bore oes fel blynyddoedd arbennig. Mewn cymunedau mawr, agos, roedd digonedd o ffrindiau ar gael – ar gyfer gemau yn y stryd fel ‘ceffylau cryf’ a ‘bolter’, sgipio neu gyda bat a phêl. Roedd llethrau’r mynyddoedd a hen weithfeydd glo’n ‘ganolfannau antur’ ymhell cyn bathu’r term. O’r dechrau, roedd y Rhondda wedi trysori addysg, ac roedd gan yr ysgol ei phleserau a’i phwysau ei hun. Ond wedyn, daeth amser mynd adre, a dianc i’r parc, ar wibdaith haf neu i hud ein dychymyg – weithiau wedi’i ysbrydoli gan chwedl a myth, megis yr un am y llyn yma, Llyn y Forwyn.

Am ragor o hanes a straeon y cwm, ewch i https://www.eintreftadaethrhct.com/treftadaeth-cartref

Gwrandewch ar ganllaw sain Gorsaf Dreftadaeth 11