Neuadd Les Tylorstown,
East Road,
Tylorstown
CF43 3DA
Mae sefydliadau a neuaddau lles y glowyr – fel yr un yma yn Tylorstown – yn drysorau o dreftadaeth y Rhondda. Wedi’u codi a’u cynnal gan gyfraniadau o gyflogau’r glowyr eu hunain, roeddent yn ganolfannau cymdeithasol a hamdden yng nghanol y gymuned. Roedd eu llyfrgelloedd godidog yn gartref i filoedd o lyfrau, cylchgronau a phapurau newydd. Wrth ehangu’r meddwl a lledu gorwelion, roeddent yn cynnig i ddarllenwyr gipolwg ar fywyd tu hwnt i’w llafur beunyddiol, gweledigaethau o fyd tecach a sut oedd modd ei gyrraedd. Cyn dyfodiad y llyfrgell gyhoeddus, nhw oedd ‘prifysgolion y glowyr’ neu yng ngeiriau’r hanesydd Dai Smith, ‘ymennydd y maes glo’.
Am ragor o hanes a straeon y cwm, ewch i https://www.eintreftadaethrhct.com/treftadaeth-cartref