Plaza’r Porth,
Heol Pontypridd,
Y Porth
CF39 9PG
Yn hwyr yn Oes Fictoria, roedd poblogaeth y Rhondda yn dechrau cynyddu’n gyflymach nag unman arall yn y byd ond am Chicago ac Efrog Newydd. Roedd y datblygiad fel rhuban ar hyd llawr y cwm yn ‘ddinas’ fodern – siopau ffasiynol, neuaddau adloniant yn denu sêr mawrion, stadiwms chwaraeon penigamp, tramffyrdd trydanol, capeli, llyfrgelloedd, caffis a thafarndai wedi’u gwasgu rhwng terasau di-dor o dai newydd. Daeth y Porth – yn ogystal â Thonypandy, Treorci, Glynrhedynog a threfi eraill y Rhondda – yn ganolfan sylweddol, yn gartref i bencadlys y masnachwyr Thomas ac Evans, a’r Welsh Hills Works, a gynhyrchodd y ‘dŵr mwynol’ a ddaeth yn enwog yn eang fel pop Corona.
Am ragor o hanes a straeon y cwm, ewch i https://www.eintreftadaethrhct.com/treftadaeth-cartref