Prosiect Treftadaeth Cwm Rhondda

Gorsaf 3 - Capeli Trawsnewidiol y Rhondda

Canolfan Soar,
Heol Tylacelyn,
Penygraig
CF40 1JZ

Roedd capeli’r Anghydffurfwyr – y Methodistiaid, y Bedyddwyr, y Presbyteriaid ac eraill – yn nodweddion diffiniol o drefi’r Rhondda wrth iddyn nhw dyfu. Gallai’u ffydd ddeinamig drawsnewid bywydau unigolion. Roedd y capeli hefyd yn ganolfannau cymdeithasol, yn sefydliadau democratig hunanlywodraethol, ac yn meithrin diwylliant, cerddoriaeth ac addysg. Bu llawer ohonynt yn pregethu ac ymarfer ‘efengyl gymdeithasol’, gan roi cymorth i’r anghenus a’r eiddil. Erbyn hyn, mae nifer o adeiladau capeli’r Rhondda wedi diflannu neu’n wag, tra bod eraill wedi’u trawsnewid eu hunain i ddibenion newydd – megis Soar yma, wedi’i adfer a’i addasu’n wych gan elusen Plant y Cymoedd fel canolbwynt cymunedol llewyrchus i blant a theuluoedd, gyda gofod theatr o’r radd flaenaf.

Am ragor o hanes a straeon y cwm, ewch i https://www.eintreftadaethrhct.com/treftadaeth-cartref

Gwrandewch ar ganllaw sain Gorsaf Dreftadaeth 3