Prosiect Treftadaeth Cwm Rhondda

Gorsaf 4 - Chwarae Teg y Rhondda

Cae Athletau Canol y Rhondda,
Heol Gelli,
Tonypandy
CF40 1DB

Mae’r Rhondda yn dwlu ar chwaraeon. Adeiladwyd Cae Athletau Canol y Rhondda gyda thrac o’i gwmpas ar gyfer rasys beicio o’r radd flaenaf. Yn y 1920au roedd yn gartref i ‘The Mush’, tîm pêl-droed proffesiynol a oedd yn herio Aston Villa, Nottingham Forest a Tottenham Hotspur yma. Yn ôl yn 1908, daeth miloedd i weld Penygraig (tîm Rygbi'r Undeb) a Mid Rhondda (tîm Rygbi'r Gynghrair) yn chwarae timau cenedlaethol Awstralia yma; a gêm ryngwladol Rygbi’r Gynghrair gyntaf erioed – Cymru yn curo Lloegr 35 -18. Mynnodd y Rhondda chwarae teg o fath arall yma yn 1910: cynhaliodd 12,000 o lowyr gyfarfodydd torfol ar y maes hwn wrth geisio cyflog byw yn yr Anghydfod drwg-enwog gyda pherchnogion pyllau’r Cambrian.

Am ragor o hanes a straeon y cwm, ewch i https://www.eintreftadaethrhct.com/treftadaeth-cartref

Gwrandewch ar ganllaw sain Gorsaf Dreftadaeth 4