Prosiect Treftadaeth Cwm Rhondda

Gorsaf 5 - Ysbryd Cymunedol y Rhondda

Parc Cefn Gwlad Cwm Clydach
CF40 2XX

Parc Gwledig Cwm Clydach – hen safle Lefel y Gorki, Glofa Cambrian, a Thai Bush,cymuned arbennig o glos, hyd yn oed yn ôl safonau’r Rhondda. Ganed cymdogaeth enwog y cwm o frawdgarwch y pyllau glo, gyda theuluoedd yn wynebu caledi a pherygl mewn undod. Mae cymunedau’r Rhondda yn datgan ac yn byw yn ôl y gwirionedd ein bod ni’n gryfach gyda’n gilydd, bod ‘yr hyn sy’n bwysig i ni yn bwysicach na’r hyn sy’n bwysig i mi’. Esiampl wych heddiw yw Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian, sy’n gweithio mewn partneriaeth tuag at welliannau hirdymor mewn lles, ymgysylltu cymdeithasol, addysg awyr agored a’r amgylchedd. Ac – wrth gwrs – mae’n rhedeg caffi cymunedol hynod o boblogaidd yma!

Am ragor o hanes a straeon y cwm, ewch i https://www.eintreftadaethrhct.com/treftadaeth-cartref

Gwrandewch ar ganllaw sain Gorsaf Dreftadaeth 5