Sgwâr Tonypandy,
Tonypandy
CF40 2EW
Ym 1910, bu brwydr glowyr Canol y Rhondda am gyflog byw yn arwain at wrthdaro ar y strydoedd hyn gyda’r heddlu ac – yn y pen draw – milwyr, protest dorfol mae rhai’n galw ‘Terfysgoedd Tonypandy’. Bryd hynny, ac yn anghydfodau glofaol hir 1921 a 1926, yn yr ymgyrchoedd yn erbyn y ‘Prawf Modd’ yn y 1930au, a Streiciau'r Glowyr yn y 1970au a’r 1980au, safodd pobl y Rhondda yn erbyn grymoedd a oedd yn ymddangos yn fwy pwerus na nhw, a safon nhw ynghyd yn erbyn tlodi ac anghyfiawnder. Soniodd bardd y maes glo, Idris Davies, am ‘the just anger of the blood’. Taniwyd y ffyrnigrwydd hwnnw gan benderfynoldeb y Rhondda i adeiladu byd tecach, gwell.
Am ragor o hanes a straeon y cwm, ewch i https://www.eintreftadaethrhct.com/treftadaeth-cartref