Theatr y Parc a'r Dâr,
Heol yr Orsaf,
Treorci
CF42 6NL
Ochr yn ochr â’u sêr unigol, megis yr actorion Glyn a Donald Houston, a Syr Stanley Baker, mae gan bobl y Rhondda hanes hir o berfformio ar y cyd. Daw corau meibion a bandiau pres heb eu hail o’r cwm sy’n adnabyddus fel ‘the Valley of Song’. Heddiw, mae corau Treorci, Pendyrus a Cambrian, a bandiau’r Cory, y Parc a’r Dâr, a Lewis Merthyr yn cynnal y traddodiad balch hwnnw, gan addasu’n gyson tra’n aros yn driw i’w treftadaeth gerddorol. Mae Neuadd y Parc a’r Dâr, Treorci – a adeiladwyd gyda cheiniogau’r glowyr – yn theatr ysblennydd a lwyfannodd gomedïau poblogaidd Frank Vickery, ac sydd wedi dylanwadu ar ddatblygiad cenedlaethau o amaturiaid dawnus, ac artistiaid proffesiynol cyfoes fel yr actor Daniel Evans a’r gantores Sophie Evans.
Am ragor o hanes a straeon y cwm, ewch i https://www.eintreftadaethrhct.com/treftadaeth-cartref