Prosiect Treftadaeth Cwm Rhondda

Gorsaf 8 - Dyfodol Gwyrdd y Rhondda

Croeso i’n Coedwig,
safle’r Hen Fragdy,
Stryd yr Orsaf,
Treherbert
CF42 5HU

Cyn dyfodiad y pyllau glo, yn gynnar yn Oes Fictoria, bu prydferwch aruchel y Rhondda yn syfrdanu ymwelwyr. Heddiw, mae’r cwm wedi adennill llawer o’r ysblander hwnnw. Mae llwybrau newydd trwy’r coed a thros mynyddoedd yn arwain cerddwyr a beicwyr at rai o’r golygfeydd mwyaf mawreddog yn y DU. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn gefn i ymdrechion lleol gan grwpiau fel Croeso i’n Coedwig i greu mannau diogel, gwydn ar gyfer hamdden a thwristiaeth. Yr un mor bwysig yw’r penderfynoldeb i hyrwyddo stiwardiaeth weithredol o’n hadnoddau naturiol, mewn gwynt, dŵr a phren, gan greu cyflogaeth gynaliadwy ar gyfer dyfodol y gymuned.

Am ragor o hanes a straeon y cwm, ewch i https://www.eintreftadaethrhct.com/treftadaeth-cartref

Gwrandewch ar ganllaw sain Gorsaf Dreftadaeth 8