Maes parcio cerflun Ein Harglwyddes o Benrhys,
Penrhys
CF43 3PN
Ffurfiodd ein tirwedd gan yr Oes Iâ ddiwethaf, wrth i’r rhewlifoedd grafu allan dau gwm dwfn a chul y Rhondda. Wedi i’r rhew gilio, tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl, bu nentydd yn meddalu’r llethrau serth. Bu ffyniant y diwydiant glo yn llenwi lloriau’r cwm, ond roedd yr ucheldir yn dal yn foel. Er mwyn dianc rhag y blerdwf trefol, roedd yn rhwydd i drigolion y Rhondda fynd ‘i fyny’r mynydd’ i ganfod llonyddwch a distawrwydd. Mae’r golygfeydd godidog o’r Bwlch a’r Rhigos, ar ffyrdd mynyddig Llanwynno a’r Maerdy, ac o Ganol y Rhondda ar Fynydd Penrhys wedi ysbrydoli beirdd a phererinion; maen nhw’n dal i swyno pobl y Rhondda bob dydd.
Am ragor o hanes a straeon y cwm, ewch i https://www.eintreftadaethrhct.com/treftadaeth-cartref