Prosiect Treftadaeth Cwm Rhondda
Gorsafoedd Treftadaeth
Ewch ar daith anhygoel i leoliadau eiconig trwy Gwm a fu'n tanio'r byd.
Gan ailgysylltu’r metropolis glofaol byd-enwog hwn â’i gorffennol balch, mae Llwybr Treftadaeth y Rhondda yn ffordd gyffrous a chyfoes i chi archwilio hanes heb ei ail.
Llwybr Treftadaeth Y Rhondda.
Fideo yn cyflwyno’r Gorsafoedd Treftadaeth gyda chân neilltuol y Prosiect gan The Unknown, grŵp o Goleg y Cymoedd, sy’n ei chanu hi yma gyda Chôr Meibion Treorci.
Mae'r Llwybr wedi’i drefnu’n thematig, gyda Gorsafoedd Treftadaeth ledled y Rhondda Fawr a’r Rhondda Fach.
Teithiwch i unrhyw Orsaf, ac fe welwch hysbysfwrdd dehongli arbennig yn cynnig persbectif unigryw a syfrdanol ar stori ein cwm, gyda dolen i ganllaw sain sy’n dathlu arwyddocâd yr hyn a welwch. Mae pob ganllaw ar gael i chi ar lein yma.
Yn ogystal â’r 12 Gorsaf â chanllaw sain, mae ’na Orsaf fonws, DELWEDDAU TRAWIADOL Y RHONDDA, yn Oriel y Gweithwyr, Heol Ynyshir, Ynyshir CF39 0EN – oriel, hwb cymunedol a llyfrgell, sy’n cynnal arddangosfeydd cyfoes ac yn dathlu a hybu treftadaeth y Rhondda mewn celfyddyd gain a ffotograffiaeth.