Ar y dechrau, dechreuodd y dref ymestyn yn ddatblygiad hirgul oddeutu Ffordd Caerdydd i’r de o Aberdâr yn ystod y 1840au. Codwyd Curre Street, Holford Street, Gwawr Street a Lewis Street, a strydoedd eraill hefyd, oddeutu Ffordd Caerdydd yn y 1850au. Codwyd tai, siopau ayyb ar bwys glofeydd hefyd: Incline Row a Bell Place ger Glofa Aberaman er enghraifft, a Blaengwawr Row a Blaengwawr Cottages ger Glofa Blaengwawr i’r gogledd. Mae dau a fu yno ar y pryd wedi gadael disgrifiadau byw inni o sut roedd yr ardal a’i thrigolion yn ymdopi â thwf sydyn y boblogaeth.
Pan oedd yr arolygwyr wrthi’n paratoi adroddiad Seneddol 1847 ar gyflwr addysg yng Nghymru y ‘Llyfrau Gleision’ enwog), ysgrifennodd y Parchedig John Griffith, Ficer Aberdâr atynt i ddweud mai dim ond ers tua 18 mis roedd Aberaman yn bod. Er hynny roedd y boblogaeth eisoes wedi cyrraedd 1,200 ac roedd disgwyl iddi dyfu i 4,800 cyn pen blwyddyn. Roedd 80 o seiri maen a 50 o seiri coed wrthi ar y pryd yn codi tai.
Yn ei adroddiad i’r Bwrdd Iechyd Cyffredinol ym 1853, rhoes Thomas Rammell ddisgrifiad o gyflwr gwael y tai a godwyd yn y blynyddoedd yma. Roedd ef o’r farn fod Aberaman Road a Treaman wedi’u hadeiladu ar safleoedd arbennig o anaddas. Nid oedd modd draenio dŵr i ffwrdd yn rhwydd, roedd y tai’n llaith, a byddai llifogydd yn aml. O ganlyniad roedd y trigolion yn llawer mwy tueddol o fagu heintiau. Ar yr un pryd, nid oedd ffynhonell dŵr lleol yn Aberaman, ac roedd gofyn i’r trigolion fynd chwarter milltir o leiaf, i Flaengwawr, i nôl dŵr. O ganlyniad:
“Bydd rhaid aros amser maith wrth y pistyllau, ac nid yw tair awr yn anghyffredin. Weithiau, mae pobl wedi mynd i nôl dŵr yn syth ar ôl cinio am hanner dydd, a dychwelyd heb yr un diferyn gan eu bod heb gael tro i dynnu dŵr byth. Ar adegau bydd cant o biseri i’w gweld yn aros wrth y ffynnon. A chan fod pobl yn aros yno am hydoedd heb ddim i’w wneud, bydd llawer o anfoesoldeb yn digwydd.”